Galwad olaf am gyfraniadau i Apêl Teganau Nadolig flynyddol
338 diwrnod yn ôl
Gyda mis Rhagfyr bron yma, mae’r cyfle yn brysur rhedeg allan i gyfranu anrheg neu arian at Apêl Teganau Nadolig flynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n helpu cannoedd o deuluoedd nad ydynt yn gallu fforddio prynu teganau neu anrhegion i'w plant.
Rydym yn ddiolchgar am y rhoddion sydd eisoes wedi eu cyfrannu gan gymunedau ledled Sir Gâr ac mae gwirfoddolwyr wedi bod yn brysur wrth gasglu teganau o fannau casglu ar draws y sir er mwyn paratoi i’w dosbarthu i blant. Mae’r Cyngor yn arbennig o ddiolchgar i ddisgyblion Ysgol Llangennech am eu cymorth wrth roi trefn ar yr anrhegion yr wythnos yma.
Y llynedd, cefnogodd yr Apêl fwy o deuluoedd nag erioed a oedd yn cael trafferthion ariannol a dosbarthwyd mwy na 9,900 o anrhegion i 1,650 o blant.
Eleni gall pobl naill ai roi rhodd ariannol neu adael anrhegion newydd - o gemau, eitemau celf a chrefft i bethau ymolchi ar gyfer pob oedran - o 18 mis hyd at bobl ifanc yn eu harddegau, yn un o nifer o fannau casglu o amgylch y sir. Yn anffodus, ni all yr apêl dderbyn rhoddion ail-law.
Mae ysgolion, canolfannau teulu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr ieuenctid yn nodi'r rheiny sydd fwyaf angen cymorth a bydd staff y cyngor yn dosbarthu'r anrhegion yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Aelod Cabinet y Cyngor sy'n gyfrifol am yr Apêl Teganau Nadolig:
“Mae'r gefnogaeth rydym wedi'i derbyn, eto eleni, gan drigolion, busnesau a sefydliadau ar draws y sir wedi bod yn anhygoel. Os ydych chi’n gallu cyfrannu i’r achos ardderchog yma , gofynnwn yn garedig i chi brynu anrheg ychwanegol neu roi rhodd ariannol, waeth pa mor fawr neu fach, a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r cannoedd o blant ar draws y sir a fydd yn derbyn anrheg ar Ddydd Nadolig.”
Os hoffech roi arian parod neu siec ffoniwch 01267 246504.
Dyma restr lawn o'r holl fannau casglu:
Caerfyrddin:
- Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin, Heol y Gwyddau. SA31 1GA
Dydd Llun - Dydd Iau, 9am - 5pm
Dydd Gwener, 9am - 4.30pm - Neuadd y Sir, SA31 1JP
Dydd Llun - Dydd Iau, 8.45am - 5pm
Dydd Gwener, 8.45am - 4.30pm - Tesco, Lôn Morfa, SA31 3AX
Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 6am tan ganol nos
Dydd Sul, 10am - 4pm. - Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Heol Llansteffan, Tre Ioan. SA31 3NQ
Dydd Llun - Dydd Gwener, 6.30am - 9.30pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 8am - 6pm
Llanelli:
- Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli, 36 Stryd Stepney. SA15 3TR
Dydd Llun - Dydd Iau, 9am - 5pm
Dydd Gwener, 9am - 4.30pm - Tesco, Parc Trostre, SA14 9UY
Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 6am tan ganol nos
Dydd Sul, 10am - 4pm. - Morrisons, Parc Adwerthu Pemberton, SA14 9DR
Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 7am - 10pm
Dydd Sul, 10am - 4pm
Dyffryn Aman:
- Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman, 41 Stryd y Cei. SA18 3BS
Dydd Llun - Dydd Iau, 9am - 5pm
Dydd Gwener, 9am - 4.30pm - Canolfan Gymunedol Cwmaman, Y Stryd Fawr, Glanaman. SA18 1DX
Dydd Llun - Dydd Gwener, 10am - 4pm
Llandeilo/Llanymddyfri:
- Hengwrt (Menter Dinefwr) 8, Stryd Caerfyrddin. SA19 6AE
Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 10am - 4.30pm - Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri, Gerwyn House, Sgwâr y Farchnad. SA20 0AB
Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am - 5.30pm (ond 9am - 4pm yn ystod gwyliau ysgol)
Sanclêr/Castellnewydd Emlyn:
- Canolfan Hamdden Sanclêr, Heol yr Orsaf. SA33 4BT
Dydd Llun - Dydd Gwener, 8am - 9.30pm
Dydd Sadwrn a Dydd Sul, 8am – 2pm - Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn, SA38 9LN
Dydd Llun - Dydd Gwener, 7.30am - 9pm
Dydd Sadwrn a Dydd Sul, 7.30am – 2pm
Cydweli:
- Burns, Siop Fferm Parc y Bocs, Heol Caerfyrddin. SA17 5AB
Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 9am - 5pm
Dydd Sul, 10am - 4pm
*Bydd Hwb Bach y Wlad hefyd yn derbyn rhoddion. Gallwch weld pryd bydd yn ymweld â thref yn eich ardal chi drwy edrych ar yr amserlen yma