Ffordd yr A485 wedi ei chau ar frys ym Mhencader

361 diwrnod yn ôl

Mae rhan o ffordd yr A485, ger Pencader, wedi ei chau ar frys.

Mae’r ffordd wedi ei chau o bwynt 770 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â’r B4459 am bellter o 200 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.

Mae gwyriad traffig ar waith.

Mae angen cau’r ffordd er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel tra bo Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymdrin â chwlfer sydd wedi dymchwel.

Rydym yn annog cerddwyr a modurwyr i gadw draw o’r ardal hyd nes bod y ffordd yn ailagor.