Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i graffu ar braesept arfaethedig yr heddlu

456 diwrnod yn ôl

Bydd praesept arfaethedig Heddlu Dyfed-Powys yn destun craffu yng nghyfarfod cyntaf Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn 2023.

Bydd aelodau'r Panel yn cyfarfod ar 27 Ionawr i drafod y praesept ac i herio'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn ynghylch ei gynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae'r panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu a dau aelod annibynnol, ac mae ganddynt y pŵer i gymeradwyo neu roi feto ar braesept arfaethedig yr heddlu.

Caiff plismona lleol ei ariannu gan grant o'r Swyddfa Gartref yn ogystal â chyfraniadau gan y cyhoedd drwy'r Dreth Gyngor, sy'n cael ei adnabod fel praesept yr heddlu.

Yn ystod y cyfarfod bydd Mr Llywelyn yn rhoi gwybod i'r panel am ganfyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar gyllido'r heddlu.

Dywedodd Cadeirydd y Panel, yr Athro Ian Roffe: “Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â'r Comisiynydd i drafod ei braesept arfaethedig. Mae cartrefi ar draws y wlad yn teimlo'r straen o'r argyfwng costau byw, felly wrth gynyddu eu trethi, mae'n rhaid rhoi sicrwydd y bydd ganddyn nhw werth da am eu harian.”

Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a chysylltiadau gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i'r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.

Gellir cyflwyno cwestiynau ar-lein, neu'n ysgrifenedig drwy anfon neges e-bost at panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod cyn cyfarfod.