Disgyblion yn rhoi 'Cipolwg' ar gyllideb y Cyngor Sir

452 diwrnod yn ôl

Mae timau o 10 ysgol uwchradd ledled Sir Gaerfyrddin wedi rhoi eu barn ar y cynigion yng nghyllideb y Cyngor fel rhan o ddigwyddiad a drefnwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r digwyddiad Cipolwg blynyddol gan y Cyngor yn agored i bob ysgol uwchradd yn y sir ac mae'n rhoi cyfle i ddisgyblion roi eu hunain yn rolau Aelodau Cabinet y Cyngor a thrafod eu barn ynghylch y gyllideb arfaethedig.

Nod y digwyddiad yw cyflwyno pobl ifanc i lywodraeth leol a rhoi cipolwg iddynt ar yr heriau o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn gyfle i Aelodau'r Cabinet glywed barn disgyblion a thrafod â nhw'n uniongyrchol am faterion sydd o bwys iddynt.

Eleni, roedd timoedd o ddisgyblion blynyddoedd 10-13 oed o Ysgol y Strade, Ysgol Gyfun Emlyn, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Dyffryn Taf, Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Coedcae, Bryngwyn, Glan-y-Môr, Dyffryn Aman, Ysgol Bro Dinefwr wedi cymryd rhan yn y digwyddiad ddydd Iau, 26 Ionawr yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin.

Cyflwynwyd eu canfyddiadau i Wendy Walters, y Prif Weithredwr, i Aelodau'r Cabinet ac i uwch-swyddogion yn Siambr y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae'r digwyddiad 'Cipolwg' yn gyfle gwych inni glywed sylwadau gonest a diflewyn-ar-dafod rhai o'n pobl ifanc yn y sir. Hoffwn ddiolch yn fawr iddynt, ynghyd â'u hathrawon, am gymryd yr amser i fod yn rhan o'r digwyddiad hwn. Rydym i gyd wedi dysgu llawer a hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad.”

Mae cyfle o hyd i leisio'ch barn am gyllideb y Cyngor. Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben am 5pm ddydd Sul, 29 Ionawr 2023.