Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd camau i ganolbwyntio ar ddyrannu tai cymdeithasol i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf am dai
626 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd y camau cyntaf tuag at gyflawni dull Ailgartrefu Cyflym Llywodraeth Cymru drwy gyflwyno Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys i ganolbwyntio ar y modd y mae anghenion tai preswylwyr yn cael eu diwallu yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd y Polisi Brys, a ddatblygwyd gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu – Cymunedau, yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor ddydd Iau, 26 Ionawr ac mae wedi'i greu i helpu i fynd i'r afael â phwysau ar y ddarpariaeth tai a lleihau'r amser y mae'r rhai sydd â'r angen mwyaf yn aros am dai cymdeithasol.
Bydd y Polisi yn galluogi proses o baru uniongyrchol tai ag ymgeiswyr sydd â'r angen mwyaf, er enghraifft y rhai sy'n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu'r rhai sydd angen tai ar frys. Bydd hefyd yn galluogi i gartrefi gael eu dyrannu'n gynt ac i'r preswylwyr hynny y maent fwyaf addas ar eu cyfer.
Mae gan y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys arfaethedig dri band diffiniedig:
Band A: Ffafriaeth ychwanegol – Y rhai sy'n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu'r rhai sydd angen tai ar frys.
Band B: Angen am dŷ: Ffafriaeth resymol - Gan gynnwys preswylwyr sydd angen symud oherwydd anghenion meddygol/lles, y rhai sy'n ceisio trosglwyddo i eiddo llai (tanfeddiannu), y rhai sydd am symud o gartref wedi'i addasu nad oes ei angen arnynt mwyach neu'r rhai sy'n byw mewn eiddo gorlawn neu mewn amodau afiach ar hyn o bryd.
Band C: Ymgeiswyr nad oes ganddynt angen am dŷ
Ni fydd ymgeiswyr sy'n gallu diwallu'n ariannol eu hangen eu hunain am dai, ymgeiswyr nad oes ganddynt gysylltiad lleol â Sir Gaerfyrddin nac ymgeiswyr, neu aelodau o'u haelwyd, sydd wedi'u dyfarnu'n euog o ymddygiad annerbyniol, yn cael ffafriaeth o dan y Polisi hwn.
Fel rhan o'r Polisi, anfonir negeseuon atgoffa at ymgeiswyr i'w hatgoffa i ailgofrestru eu diddordeb 6 mis a 12 mis ar ôl eu dyddiad cofrestru. Gall methu ag ailgofrestru, defnyddio eu cyfrif neu gynnig am eiddo sy'n diwallu eu hanghenion olygu y bydd ymgeiswyr yn cael eu tynnu o'r Gofrestr Tai er mwyn sicrhau mai dim ond y rhai y mae angen arnynt y gwasanaeth sydd wedi'u cofrestru. Darperir cymorth i'r bobl sydd ei angen i wneud hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Deryk Cundy, Cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen - Craffu sy'n gyfrifol am ddatblygu'r Polisi:
Fel Cadeirydd y gweithgor trawsbleidiol a ddatblygodd y Polisi Brys hwn, rwy'n falch iawn o allu cyflwyno'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys hwn i'r Pwyllgor Craffu. Rwy'n hyderus, os caiff ei gymeradwyo, y bydd hyn yn cael effaith fawr ar fywydau'r preswylwyr y mae angen tai arnynt yn Sir Gaerfyrddin.”
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi:
Os caiff ei gymeradwyo, bydd y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys diwygiedig yn trawsnewid y ffordd y caiff tai cymdeithasol eu dyrannu yn Sir Gaerfyrddin.
Drwy ddiffinio'n gliriach anghenion y rhai sydd ar y gofrestr tai, gall y Cyngor ddarparu tai addas yn gynt i'r rheiny sydd eu hangen drwy baru'n uniongyrchol eiddo ag ymgeiswyr. Dim ond os na ellir paru eiddo ag unigolyn mewn amgylchiadau eithriadol neu ym Mand A ar y gofrestr y bydd yn cael ei hysbysebu ar wefan lle gellir chwilio am dŷ, sef Canfod Cartref.”
Os caiff ei gymeradwyo gan Bwyllgor Craffu'r Cyngor, bydd y Polisi yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor ac yna'n cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo gan y Cyngor Llawn.