Disgyblion Sir Gâr yn dathlu canlyniadau Safon Uwch
445 diwrnod yn ôl
Llongyfarchiadau i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin sy'n derbyn eu canlyniadau Safon Uwch ac UG heddiw, ddydd Iau 17 Awst 2023.
Roedd cyfanswm o 96.6% o fyfyrwyr Safon Uwch yn Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni gradd A*-E.
Trwy gyfuniad o arholiadau ac asesiadau, sy'n berthnasol i wahanol gyrsiau, mae cyfanswm o 29.4% o fyfyrwyr Safon Uwch ledled Sir Gaerfyrddin wedi derbyn gradd A neu A* eleni; ac mae 88.7% o fyfyrwyr UG Sir Gaerfyrddin wedi cael graddau A-E.
Ar ôl derbyn ei chanlyniadau heddiw, dywedodd Non o Ysgol Gyfun Y Strade
Ces i A*, A, A ac rwy’n mynd i astudio ffilm a theledu ym Mhrifysgol y Celfyddydau yn Llundain.”
Cliciwch yma i weld fideo o ddisgyblion Safon Uwch Ysgol Gyfun Y Strade yn derbyn eu canlyniadau.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:
Llongyfarchiadau i'n pobl ifanc sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw, rydych chi'n glod i Sir Gaerfyrddin.
Mae heddiw yn perthyn i chi, eich athrawon, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am eich holl waith caled a'ch ymrwymiad, ond rwyf hefyd yn edrych ymlaen at glywed am eich cyflawniadau yn y dyfodol. Llongyfarchiadau bawb.”
Mewn datganiad ar y cyd, ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, Gareth Morgans:
Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr Safon Uwch ac UG ar eu canlyniadau haeddiannol a rhagorol.
Mae'r Cyngor Sir yn ddiolchgar am eich ymroddiad a'ch dyfalbarhad dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn ddiolchgar hefyd i'ch athrawon, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am eu cefnogaeth a'u hanogaeth i chi.
Dymunwn bob llwyddiant i chi ar gyfer y dyfodol, diolch.”