Cyflwyno hysbysiad stop dros dro i berchnogion Gwesty Parc y Strade
477 diwrnod yn ôl
Dywedodd y Cyng. Ann Davies, Aelod o Gabinet dros Materion Gwledig a Pholisi Cynllunio i Gyngor Sir Caerfyrddin: “Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno hysbysiad stop dros dro i berchnogion Gwesty Parc y Strade o dan adran 171E Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1980. Mae'r hysbysiad yn ymwneud â gwaredu rhan o'r clawdd yng Ngwesty Parc y Strade sy'n ffinio â Heol Pentrepoeth, Ffwrnes. Mae'r bwlch a grëwyd yn cael ei ddefnyddio fel man mynediad ac yn arwain yn uniongyrchol i ffordd gerbydau ddosbarthiadol mewn man lle nad oes cyfleusterau i gerddwyr. Felly, ystyrir bod y mynediad yn niweidiol i ddiogelwch cerddwyr a phriffyrdd. Daw'r hysbysiad i rym yn syth ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gerddwyr roi'r gorau i ddefnyddio'r mynediad.”