A484 Ffordd Bronwydd, rhwng Pentre Morgan a Chynwyl Elfed wedi ei hail agor

462 diwrnod yn ôl

Mae’r A484 Ffordd Bronwydd, ger Chwarel Foel Fach ar y ffordd rhwng Pentre Morgan a Chynwyl Elfed bellach wedi ei hail agor.

Bu'r ffordd gau ers tua 20:30 o’r gloch ar Nos Wener, 28 Gorffennaf. 

Caewyd y ffordd wedi i goeden fawr ddisgyn ar y ffordd gan ddod â cheblau BT i lawr gyda hi.

Cydweithiodd y Cyngor gyda chontractwyr i gael gwared ar y goeden gan ddefnyddio peiriannau mawr.