Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn i agor yng Ngwanwyn 2023

220 diwrnod yn ôl

Mae'r gwaith o adeiladu cyfleuster denu newydd sbon ym Mhentywyn wedi ei gwblhau, mae’r cwmni adeiladu Andrew Scott wedi trosglwyddo'r eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, a hynny yn barod ar gyfer ei agor yng Ngwanwyn 2023.

 

Mae'r prosiect a fu'n destun ymgysylltu ac ymgynghori cymunedol helaeth, yn cynnwys datblygu cyfleusterau dan do ac awyr agored o safon uchel i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Ei nod yw gwneud y gorau o dreftadaeth ac asedau naturiol Pentywyn er mwyn hybu adfywiad economaidd y lleoliad yn y dyfodol fel cyrchfan ddigwyddiadau 'diwrnod ac aros'.

 

Ymhlith yr atyniadau i ymwelwyr a fydd yn agor yn y cyfleuster newydd sbon mae Amgueddfa Cyflymder newydd; Ardal Chwaraeon ar y Tywod newydd; ardal ddigwyddiadau; maes chwarae; llety 43 gwely, o'r enw 'Caban', ac ardal gwell a mwy o faint i barcio. Mae cyfleuster ar gyfer 10 o gartrefi modur a fydd yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Cymuned Pentywyn, hefyd wedi'i gynnwys yn y prif gynllun.

 

Y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi hwb ychwanegol i economi'r rhanbarth. Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid o £3m drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop fel rhan o Gynllun Cyrchfan Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru; £1.5m gan Croeso Cymru sef cyllid cyfatebol wedi'i dargedu gan Lywodraeth Cymru; a'r gweddill yn arian cyfatebol gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Gan weithio ochr yn ochr â Chyngor Cymuned Pentywyn, bydd Is-adran Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin yn rheoli'r safle cyffredinol. Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo gan yr awdurdod lleol i ddodrefnu'r cyfleuster twristiaeth a hamdden cyn y bydd ymgyrch i recriwtio staff yn dechrau dros yr wythnosau nesaf.

Ar ôl ei agor, bydd Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn yn darparu tua 41 o swyddi a 4 busnes bach a chanolig. Rhagwelir y bydd yn denu nifer o ymwelwyr yn ystod y dydd ac ymwelwyr yn aros gyda'r nos ac yn gallu cynnal digwyddiadau mawr, gan ddod â manteision economaidd ychwanegol i'r ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Hoffwn ddiolch i'r gwmni adeiladu Andrew Scott am y gwaith rhagorol yn darparu'r cyfleuster denu twristiaid hwn i ni ac am safon uchel yr adeiladu.

“Rydym bellach wedi dechrau ar y gwaith o ddodrefnu'r adeiladau a gosod y cyfleusterau dan do ac awyr agored a fydd yn sicrhau bod Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn yn lleoliad y mae'n rhaid i bobl o bell ac agos ymweld ag ef.

“Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn dechrau recriwtio staff i weithio yma, felly cadwch lygad am gyfleoedd gyrfa cyffrous yn y sector twristiaeth.

“Rydym yn gweithio'n galed iawn i agor y cyfleuster yn ystod Gwanwyn 2023 a byddwch yn sicr yn clywed mwy gennym am ddatblygiad y prosiect cyffrous hwn dros y misoedd nesaf.”

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn dechrau recriwtio staff i weithio ym Mhrosiect Denu Twristiaid Pentywyn dros yr wythnosau nesaf.