Cyhoeddi marwolaeth y Frenhines Elizabeth II

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn y cyhoeddiad ffurfiol am farwolaeth y Frenhines Elizabeth II.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Rob Evans: “Gyda thristwch mawr y clywn am farwolaeth y Frenhines ac ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin a thrigolion y sir estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i'r Teulu Brenhinol.
"Ei Mawrhydi y Frenhines oedd yn teyrnasu am y cyfnod hiraf yn hanes brenhiniaeth Prydain ac yn wir hi oedd Brenhines y Breninesau.
“Fel arwydd o barch, mae'r Baneri wedi cael eu gostwng i hanner mast yn Neuadd y Sir Caerfyrddin, Neuadd y Dref, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman. Mae'r baneri glas ar Draeth Cefn Sidan a Thraeth Pentywyn hefyd wedi cael eu gostwng.”