Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros Ŵyl Banc Awst

Nid oes unrhyw newidiadau i gasgliadau biniau yn Sir Gaerfyrddin dros Ŵyl Banc Awst.
Dylai preswylwyr roi eu sbwriel mas erbyn 6am ar eu diwrnod casglu arferol. Bydd gwastraff hylendid/cewynnau a gwastraff gardd hefyd yn cael eu casglu yn ôl yr arfer.
Ailgylchwch gymaint â phosibl a chofiwch dim mwy na thri bag du bob pythefnos.
Er bod y cyngor yn bwriadu casglu fel arfer, efallai na fydd hyn yn bosibl ym mhobman a gallai newid ar fyr rybudd. Cadwch lygad ar dudalen Facebook y cyngor am unrhyw ddiweddariadau.
Mae'r canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nant-y-caws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf i gyd ar agor ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc.