Ras Gyfnewid Baton y Frenhines, Dydd Gwener 1 Gorffennaf 2022

Bydd Ras Gyfnewid Baton y Frenhines yn teithio drwy Gymru dros 5 diwrnod ym mis Gorffennaf, gan gyrraedd yn Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener 1 Gorffennaf 2022, cyn dychwelyd i Loegr am Seremoni Agoriadol Birmingham 2022 ar 28 Gorffennaf 2022. Bydd y Baton yn teithio bron i 500 milltir yng Nghymru, gyda bron 400 o gludwyr y baton ar draws 22 o ddigwyddiadau.
Dechreuodd yr 16eg Ras Gyfnewid swyddogol ar 7 Hydref 2021, pan osododd Ei Mawrhydi y Frenhines ei Neges i'r Gymanwlad yn y Baton. Mae'r Baton bellach ar ei daith 294 diwrnod i bob cornel o'r Gymanwlad. Ers hynny, mae'r Baton wedi ymweld â gwledydd a thiriogaethau'r Gymanwlad yn Ewrop, Affrica, Ynysoedd y De, Ynysoedd y Caribï a Chyfandiroedd America. Bydd y Baton yn dechrau ar ei daith yn y Gwledydd Cartref gan dreulio pum niwrnod yn yr Alban, pedwar yng Ngogledd Iwerddon, pump yng Nghymru, cyn dychwelyd i Loegr er mwyn dechrau cyfri'r dyddiau cyn Gemau'r Gymanwlad.
Bydd y daith hon yn ysgogi gobaith, undod a chydweithredu, wrth iddi gysylltu cymunedau, croesawu diwylliannau unigryw a rhannu straeon ysbrydoledig.
Cynlluniwyd amserlen brysur o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer Ras Gyfnewid Baton y Frenhines, gyda chyfleoedd i dynnu sylw at straeon cludwyr y Baton sy'n ymdrechu i sicrhau newid yn eu cymuned.
Bydd Ras Gyfnewid Baton y Frenhines yn Sir Gaerfyrddin yn dechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre, un o atyniadau ymwelwyr aml-weithgareddau mwyaf llwyddiannus Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, cyn dilyn llwybr prydferth drwy Barc Arfordirol y Mileniwm.

Amserlen 1af Gorffenaf
14.15pm Mae'r baton yn cyrraedd Canolfan Sgïo Parc Gwledig Pen-bre ac yna'n cael ei gludo drwy ddulliau amrywiol i draeth Cefn Sidan lle bydd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn ei dderbyn yn ei gwch ar gyfer y daith i Harbwr Porth Tywyn. Mae'r dulliau teithio yn cynnwys tobogan, sgïau, beic teulu â 4 sedd a chadair olwyn traeth. Bydd 150 o blant ysgol lleol yn croesawu'r baton yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau wedi'u trefnu gan dîm Hamdden Actif Cyngor Sir Caerfyrddin
15.20pm Mae'r baton yn cyrraedd Harbwr Porth Tywyn a bydd yn cael ei drosglwyddo i'r Llysgenhadon Chwaraeon Ifanc Arian ac Aur o ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin a fydd yn cario'r Baton ar hyd Llwybr Arfordir y Mileniwm i Draeth Llanelli | Doc y Gogledd yn Llanelli drwy redeg a beicio ar hyd y llwybr. Mae'r llwybr tua 3.5 milltir
16.15pm Mae'r baton yn cyrraedd Traeth Llanelli / Doc y Gogledd ac yn cael ei drosglwyddo i ddetholiad o athletwyr Sir Gaerfyrddin a fydd yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad cyn bo hir ac yn olaf i Arweinydd y Cyngor Sir a fydd yn ei drosglwyddo'n ffurfiol i dîm Ras Gyfnewid Baton y Frenhines er mwyn gadael y Sir.
Mae amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd i hybu iechyd a llesiant yn y gymuned leol yn cael eu trefnu gan dîm Actif Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r rhain yn cynnwys Aquathon Iau, Padlfyrddio ar eich traed, dosbarthiadau Aqua ar eich traed, dosbarthiadau Chwilbedlo a sesiynau achub bywyd ar y traeth.
17.40pm Mae'r baton yn cyrraedd Onesta, cwmni yn Llanelli sy'n cyflenwi'r dillad i dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.
Anogir aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan yn y dathliadau a chroesawu'r Baton, gan fanteisio ar y cyfle i deimlo cyffro Gemau'r Gymanwlad yn eu cymuned.
Bydd gwefan Tîm Cymru yn cael ei diweddaru i gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf dros yr wythnosau nesaf, gyda manylion am y digwyddiadau a ble i sefyll ar hyd y llwybr.