Datgelu lleoliad canol tref ar gyfer datblygiad Hwb newydd cyffrous Caerfyrddin

492 diwrnod yn ôl

Mae wedi'i ddatgelu mai hen siop Debenhams yn Rhodfa'r Santes Catrin yw'r lleoliad a ffefrir ar gyfer Hwb newydd cyffrous Caerfyrddin, a fydd yn dwyn ynghyd ystod o wasanaethau iechyd, llesiant, dysgu a diwylliant yng nghanol y dref.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn bwrw ymlaen yn ddi-oed gyda chynlluniau i gyflawni ei brosiect strategol allweddol ar ôl sicrhau dros £15 miliwn o gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

Nod y datblygiad, sydd wedi'i glustnodi ar gyfer dros £3.5 miliwn o arian cyfatebol o raglen gyfalaf Cyngor Sir Caerfyrddin, yw helpu pobl o bob oed i gael mynediad at wasanaethau allweddol o dan yr un to.

Trwy sicrhau bod yr uned fanwerthu segur hon yn cael ei defnyddio unwaith eto, bydd y prosiect yn cefnogi trawsnewidiad a gwydnwch economaidd canol y dref drwy ddarparu cymysgedd newydd o wasanaethau i'r stryd fawr, denu mwy o bobl, a helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr â siopau a busnesau cyfagos.

Gall pobl alw yn Hwb Caerfyrddin i fanteisio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, campfa cwbl fodern, cymorth cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â chyfleusterau prifysgol a chyfleoedd dysgu gydol. 

Y gobaith yw bydd yr Hwb hefyd yn gartref newydd canolog a chyfleus i'r cyhoedd i rai o gasgliadau amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin, yn fan arddangos cyffrous, ac yn fan i groesawu ymwelwyr â'r dref.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwneud cynnydd da o ran trafodaethau i feddiannu'r adeilad a chan fod cyllid a phartneriaid allweddol yn gefnogol, y gobaith yw dechrau trawsnewid y lle erbyn diwedd y flwyddyn hon a chwblhau'r gwaith yng ngwanwyn 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Adfywio:

Dyma gyfle cyffrous i drawsnewid y stryd fawr a gwneud hynny er budd pobl a busnesau Sir Gaerfyrddin. Mae'n cyd-fynd yn berffaith â'n dyheadau i ail-bwrpasu canol tref Caerfyrddin - angen a amlygwyd yng nghynllun adfer canol tref Caerfyrddin, yr ydym wedi'i gymeradwyo'n ddiweddar.
“Bydd yr Hwb nid yn unig yn cefnogi bywiogrwydd a chynaliadwyedd canol ein tref, ond yn gwella ansawdd bywyd pobl leol ac yn creu atyniad i'n hymwelwyr niferus.
"Rydym bellach yn prysuro ymlaen i gyflawni'r prosiect hwn. Mae'r cyllid wedi'i drefnu, ac mae'r partneriaid yn gefnogol. Rydym yn cynnal trafodaethau cadarnhaol iawn gyda pherchnogion Rhodfa'r Santes Catrin, ac eisoes wedi gofyn am dendrau gan gontractwyr i ddylunio'r Hwb a gwneud cynnydd o ran y cynllun drwy gynllunio.
"Mae hwn yn adeilad amlwg iawn yng nghanol tref Caerfyrddin, ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn cael ei ddefnyddio unwaith yn rhagor ar gyfer rhywbeth mor unigryw."

Bydd ailddatblygu'r hen siop yn golygu ailddefnyddio bron i 6,000 metr sgwâr o ofod masnachol o'r radd flaenaf.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Testun cyffro i'r bwrdd iechyd yw cefnogi datblygiad canolfan ar gyfer iechyd, llesiant, diwylliant a dysgu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy'n cyd-fynd â'n Strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach ac sy'n gwella ansawdd bywyd trigolion Caerfyrddin a'r ardal ehangach.
"Bydd y prosiect yn helpu i hyrwyddo gofal iechyd ataliol ac yn cysylltu hyn yn greadigol â gwasanaethau dysgu, cymunedol, iechyd, chwaraeon, hamdden a'r celfyddydau."

Ychwanegodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:

Mae'r Brifysgol yn falch iawn o gael bod yn rhan o'r prosiect cyffrous hwn.  Mae'n cynnig cyfle unigryw i gydweithio â phartneriaid i adfywio canol ein trefi drwy gynnig cymysgedd o gyfleoedd hamdden, diwylliannol ac addysg er budd trigolion a busnesau.  Mae'r Brifysgol yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ar wireddu'r weledigaeth ar gyfer Hwb Caerfyrddin.”

Mae prosiect Hwb Caerfyrddin yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â phrosiect Hwb tebyg yng Nghei'r De, yng nghanol tref Penfro, a oedd yn rhan o'r cais i'r Gronfa Codi'r Gwastad.