Rhybuddion am y tywydd
Rhybuddion llifogydd
I weld y rhybuddion llifogydd diweddaraf ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cael ei diweddaru bob 15 munud neu ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.
Rhybudd melyn am eira
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira o 00.00 dydd Mercher 8 Mawrth 2023 tan 23:59 nos Fercher 8 Mawrth 2023.
Mae cyfnod o eira yn debygol o amharu ar deithio yn ystod dydd Mercher.
Beth i'w ddisgwyl:
- Mae siawns fach y bydd oedi o ran teithio ar ffyrdd ac y bydd rhai cerbydau a theithwyr yn mynd yn sownd, ac y bydd teithiau trên ac awyr yn cael eu gohirio neu eu canslo.
- Mae ychydig o siawns y gallai rhai cymunedau gwledig gael eu hynysu.
- Mae siawns fach y bydd toriadau trydan a gellir effeithio ar wasanaethau eraill, fel signal ffonau symudol.
- Mae siawns fach y ceir anafiadau drwy lithro a chwympo ar wynebau rhewllyd.
- Mae ychydig o siawns y gallai gwasanaethau bysiau a threnau gael eu gohirio neu eu canslo, ac y bydd rhai ffyrdd ar gau ynghyd ag amserau teithio hirach.
Ar gau - Canolfan Ailgylchu Wern-ddu
Diweddariad 19/01/23 - Canolfan Ailgylchu Wernddu dal ar gau oherwydd amodau ar y safle.
Oherwydd amodau ar y safle, mae Canolfan Ailgylchu Wern-ddu ar gau ar hyn o bryd.Byddwn yn adolygu'r sefyllfa drwy gydol y dydd ac yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa hon pan fydd wedi ail-agor.
Amodau rhewllyd ac eirlaw ac eira
Rhybudd Melyn o wynt
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am wyntoedd cryfion, ewch at www.metoffice.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Canolfan Hamdden Caerfyrddin
Mae Canolfan Hamdden Caerfyrddin yn ailagor yfory (dydd Mercher, 23 Chwefror) yn dilyn gwaith atgyweirio dros dro i'r to a ddifrodwyd yn ystod Storm Eunice.
Fodd bynnag, efallai yr effeithir ar rai gwasanaethau felly edrychwch ar y wefan neu'r ap am y sesiynau diweddaraf sydd ar gael ac er mwyn archebu.
Hoffem ddiolch i chi am eich amynedd a'ch cydweithrediad dros y dyddiau diwethaf.
Amgueddfa Sir Gâr
Amgueddfa Sir GârMae Amgueddfa Sir Gâr a'r tiroedd yn Abergwili wedi ailagor. Fodd bynnag, oherwydd difrod gan storm i do sied yr amgueddfa, mae mynediad arall ar hyd y llwybr y tu ôl i'r amgueddfa ar gyfer staff ac ymwelwyr.
Parc Howard
Mae Parc Howard yn Llanelli bellach wedi ailagor.
Oriel Myrddin
Bydd Oriel Myrddin yn ailagor heddiw.
Gwaith glanhau yn dechrau yn dilyn Storm Eunice
Mae gwaith glanhau ac adfer enfawr wedi dechrau ar ôl i Storm Eunice daro Sir Gaerfyrddin.
Mae criwiau priffyrdd y cyngor wedi bod yn brysur iawn yn ystod y dyddiau diwethaf wrth i wyntoedd eithafol beri i goed, canghennau, teils to a cheblau trydan ddisgyn ddydd Gwener ac yn ystod y penwythnos. Hyd yn hyn, maent wedi cael 260 o adroddiadau priffyrdd sy'n gysylltiedig â'r tywydd, ac mae'r ffigur hwn yn dal i godi.
Ymdriniodd timau eiddo'r cyngor â dros 300 o alwadau, yn bennaf gan denantiaid tai, a oedd yn rhoi gwybod am ddifrod i'w tai, megis teils to rhydd, neu ffensys wedi'u chwythu i lawr, yn ogystal â galwadau gan rai ysgolion gan gynnwys Llandeilo a Phencader, a materion yn ymwneud â'r tywydd ym Mharc Waundew, Bryngwyn a Ffwrnes.
Parc Coetir Mynydd Mawr
Mae Parc Coetir Mynydd Mawr wedi ailagor heddiw.
Biniau sydd heb eu casglu
Mae ein criwiau'n mynd ati i gasglu'r biniau na chawsant eu casglu ddydd Gwener/dydd Sadwrn, ond bydd hyn yn cymryd ychydig ddyddiau.
Yn anffodus, mae rhai ardaloedd o hyd nad oes modd eu cyrraedd oherwydd bod ffyrdd ar gau / coed wedi cwympo; a rhaid i ni hefyd gynnal ein casgliadau arferol eraill.
Os nad yw eich gwastraff wedi'i gasglu erbyn diwedd dydd Mercher, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir a diolch i chi am eich cydweithrediad.
Rydym hefyd am ddiolch yn fawr i'n criwiau am eu holl waith caled mewn tywydd anodd ac yn ystod y penwythnos.
Llwybr Arfordir y Mileniwm
Mae rhan o Lwybr Arfordir y Mileniwm ger fflatiau Maliphant ym Mwlchygwynt, Llanelli wedi cael ei chau am resymau diogelwch y cyhoedd. Bydd yn ailagor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.
Rhybuddion llifogydd
I weld y rhybuddion llifogydd diweddaraf ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cael ei diweddaru bob 15 munud neu ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.
Y Ganolfan Gyswllt
Bydd ein canolfan gyswllt yn ailagor bore fory, ac rydym yn rhagweld y bydd llawer iawn o alwadau o achos y tywydd garw dros y penwythnos.
Ar gyfer pob mater nad yw’n frys, e-bostiwch galw@sirgar.gov.uk neu ffoniwch yn hwyrach yn yr wythnos.
Cofiwch hefyd y gallwch roi gwybod am rywbeth neu wneud cais am nifer o wasanaethau ar-lein, ac yn eu plith mae casglu biniau ac atgyweiriadau tai nad ydynt yn rhai brys.
Diolch am eich cydweithrediad.
Rhybuddion llifogydd
Mae nifer o rybuddion llifogydd ar waith. Os ydych chi’n pryderu am lifogydd ewch i'r wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf neu ffoniwch y llinell llifogydd ar 0345 988 1188.
Os oes angen cymorth ar rywun, e-bostiwch emergency@deltawellbeing.org.uk neu ffoniwch ein rhif argyfwng 0300 333 2222.
Gwaith glanhau
Mae’r gwaith glanhau yn dilyn Storm Eunice yn parhau, a bydd hynny’n cymryd cryn amser gan fod y tywydd yn wael.
Yn anffodus, mae rhagor o dywydd gwyntog ar y ffordd a rhybudd melyn ar gyfer gwynt rhwng 12pm yfory a phrynhawn dydd Llun.
Cadwch yn ddiogel os ydych yn gadael y tŷ a chadwch lygad am unrhyw falurion a choed/canghennau wedi cwympo ar y ffyrdd.
Rydym am ddweud diolch yn fawr i’n holl staff a chontractwyr sydd wedi gweithio yn ystod y storm a thrwy’r penwythnos.
Galwadau brys
Mae llawer iawn o alwadau’n cael eu gwneud ar hyn o bryd i Llesiant Delta, ein rhif argyfwng tu allan i oriau, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw oedi.
Os ydych yn cael trafferth cysylltu, gallwch e-bostio emergency@deltawellbeing.org.uk a byddant yn ymateb cyn gynted ag y bo modd. Rhowch eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a manylion cryno am eich argyfwng.
Diolch am gysylltu â ni.
Diweddariad am y Parciau
Bydd Parc Gwledig Pen-bre yn ailagor am 1pm heddiw. Ein cyngor pendant i ymwelwyr yw cadw draw o’r coed (rhag ofn bod rhai ddim yn ddiogel) ac oddi ar y twyni tywod (mae’r twyni’n ansefydlog yn dilyn y llanw uchel a'r storm). Mae meysydd parcio 1, 2 a 3 ar gau, defnyddiwch brif fynedfa’r traeth i fynd i’r traeth. Bydd y Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau a Yr Orsaf ar gau drwy’r dydd.
Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain hefyd yn ailagor am 1pm heddiw. Defnyddiwch y brif fynedfa’n unig. Byddwch yn ofalus a chadwch draw o’r coed.
Mae Parc Coetir y Mynydd Mawr a Pharc Howard ar gau o hyd.
Casglu biniau
Nid ydym wedi gallu casglu’r biniau yn yr ardaloedd gwledig canlynol yng nghyffiniau Llandeilo heddiw gan fod amodau’r tywydd yn heriol:
- Capel Isaac
- Cwmdu
- Cwmifor
- Manordeilo
- Penybanc
- Salem
- Taliaris
- Talyllychau
Hefyd nid ydym wedi gallu casglu mewn rhai lonydd sy’n anodd eu cyrraedd yn ardal Cwmaman a:
- Cenarth, Castellnewydd Emlyn
- Capel Iwan, Castellnewydd Emlyn
- Trelech, Hendy-gwyn ar Daf
- Brechfa
- Bronwydd
Bydd y biniau’n cael eu casglu yn yr ardaloedd hyn ddydd Llun yn lle hynny. A fyddech yn fodlon mynd â’ch gwastraff nôl i mewn a’i roi allan eto cyn 6am ddydd Llun.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a diolch am eich cydweithrediad.
Diweddariad Hamdden
Bydd ein canolfannau hamdden i gyd, heblaw Caerfyrddin, yn ailagor am 1pm heddiw. Yn anffodus, bydd Canolfan Hamdden Caerfyrddin dal ar gau am y tro, hyd nes gallwn ni asesu’r difrod i'r to. Mae hyn yn cynnwys cau Llwybr Glan yr Afon Caerfyrddin.
Mae Oriel Myrddin ac Amgueddfa Caerfyrddin dal ar gau hefyd.
Parc Dŵr y Sandy
Rydym yn cynghori pobl i gadw draw o Barc Dŵr y Sandy yn Llanelli am resymau diogelwch, gan fod nifer o goed mawr wedi cwympo. Diolch am eich cydweithrediad.
Y wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd
Os ydych chi'n mynd allan heddiw, byddwch yn ofalus. Er ein bod wedi gweld y gwaethaf o'r tywydd garw erbyn hyn, mae hi dal yn wyntog iawn. Mae rhybudd melyn am wynt yn parhau mewn grym tan 6pm.
Gofalwch rhag y malurion a'r coed / canghennau sydd wedi cwympo ar y ffyrdd a'r palmentydd yn dilyn Storm Eunice.
Mae ein criwiau ar ddyletswydd aros galwad drwy'r penwythnos, rhag ofn y bydd rhagor o broblemau o achos y tywydd.
Rhybuddion llifogydd
I gael y rhybuddion llifogydd diweddaraf ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.
Cyfleusterau hamdden – y wybodaeth ddiweddaraf
Bydd ein holl lyfrgelloedd a theatrau yn ailagor yfory (dydd Sadwrn, 18 Chwefror).
Bydd Canolfan Hamdden Caerfyrddin yn parhau i fod ar gau yfory oherwydd difrod a achoswyd i’r to. Mae hyn yn cynnwys cau Llwybr Glan yr Afon Caerfyrddin.
Bydd penderfyniad ynghylch pob canolfan hamdden arall a’r amgueddfeydd yn cael ei adolygu yn y bore.
Cyfleusterau hamdden
Bydd ein canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a theatrau yn parhau i fod ar gau heddiw. Bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu bore yfory.
Parciau
Bydd Parc Gwledig Pen-bre, Parc Gwledig Llyn Llech Owain, Parc Coetir y Mynydd Mawr a Pharc Howard yn parhau i fod ar gau heddiw a byddant yn ailagor pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Rhybudd oren am wynt
Cofiwch barhau i gymryd gofal. Mae rhybudd oren am wynt mewn grym tan 9pm heno.
Ni ddylech deithio oni bai bod angen i chi wneud hynny, ac os ydych chi'n mynd allan, byddwch yn ymwybodol o falurion a choed/canghennau sydd wedi cwympo.
Wrth i'r tywydd ddechrau gwella, cofiwch gadw mewn cysylltiad â'r rhai yn eich cymuned sy'n fwy agored i niwed.
Mae ein criwiau gweithredol wrth gefn drwy gydol y penwythnos i ymateb i unrhyw faterion pellach sy'n ymwneud â'r tywydd.
Cysylltu â ni
Mae nifer fawr o alwadau’n cael eu gwneud ar hyn o bryd ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw oedi.
Rydym yn gweithio'n galed i ymateb i'r tywydd cyfnewidiol. Bydd ein criwiau yn parhau i fod ar alwad hyd nes y bydd y tywydd yn gwella. Cymerwch ofal ar y ffyrdd. Cadwch lygad am ganghennau neu goed wedi cwympo a llifogydd lleol.
Os oes yn well gennych, anfonwch eich ymholiad atom drwy’r e-bost, galw@sirgar.gov.uk neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gallwch anfon neges breifat atom os ydych yn dymuno).
Diolch am gysylltu â ni.
Canolfannau ailgylchu - ddiweddaraf
Bydd ein canolfannau ailgylchu yn aros ar gau am resymau diogelwch. Gall pobl oedd ag apwyntiadau wedi'u trefnu ar gyfer heddiw fynd unrhyw bryd dros y penwythnos/wythnos nesaf rhwng 8.30am a 3.30pm yn lle hynny os ydynt yn dymuno. Ewch â’ch e-bost cadarnhau gyda chi.
Casglu biniau
Bydd yr holl finiau a oedd i'w casglu heddiw yn cael eu casglu yfory (dydd Sadwrn) yn lle hynny. Mae hyn yn cynnwys casgliadau gwastraff hylendid a gwastraff swmpus.
Peidiwch â rhoi eich gwastraff allan tan ar ôl 6pm heno a chyn 6am bore yfory.
Diolch ichi am eich cydweithrediad.
Ffyrdd ar gau
Rydym yn ymwybodol bod nifer o ffyrdd ar gau ar draws y sir oherwydd coed sydd wedi cwympo. Unwaith eto, peidiwch â theithio oni bai bod hynny'n angenrheidiol hyd nes bod y gwyntoedd yn gostegu. Os oes angen i chi deithio gwyliwch rhag malurion yn hedfan a changhennau sydd wedi cwympo ar y briffordd.
Gwyntoedd cryfion
Mae’r gwynt yn cryfhau bellach ar draws Cymru wrth i Storm Eunice agosáu. Cymerwch fwy o ofal na’r arfer rhag ofn bydd canghennau ac ati ar y ffordd. Byddwn yn parhau i fonitro rhagolygon y tywydd ac yn ymateb fel y bo’r angen.
Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf
Gwasanaethau
Bydd y gwasanaeth cofrestru ar gau yfory a bydd apwyntiadau yn cael eu haildrefnu
Ffyrdd gau
I gael y diweddaraf am ffyrdd sydd ar gau o achos Storm Eunice, ewch i
Casglu biniau
Ni fydd biniau’n cael eu casglu bore fory. Mae hyn yn cynnwys casglu gwastraff hylendid ac eitemau swmpus. Peidiwch rhoi eich gwastraff mas os gwelwch yn dda. Bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu prynhawn fory, a bydd y casgliadau’n digwydd ddydd Sadwrn os bydd pethau wedi gwella.
Llifogydd
Cadwch draw o ardaloedd lle mae perygl llifogydd, ac o amgylch afonydd a'r arfordir. I gael y rhybuddion llifogydd diweddaraf ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.
Cyfleusterau hamdden
Bydd ein holl ganolfannau hamdden, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a theatrau ar gau bore yfory. Bydd y cyfleusterau'n ailagor pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu brynhawn yfory.
Canolfannau dydd
Bydd holl wasanaethau dydd Sir Gaerfyrddin ar gau yfory.
Canolfannau Ailgylchu
Bydd ein holl ganolfannau ailgylchu ar gau bore fory. Bydd pobl sydd ag apwyntiadau o 12pm ymlaen yn gallu dod ar yr amser a drefnwyd iddynt. Gall unrhyw un sydd ag apwyntiad yn y bore ddod yn y prynhawn neu unrhyw bryd dros y penwythnos rhwng 8.30am a 3.30pm yn lle hynny os ydynt yn dymuno. Ewch â’ch e-bost cadarnhau gyda chi os gwelwch yn dda.
Canolfannau Hwb
Bydd y Canolfannau Hwb a’r desgiau talu yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli ar gau yfory. Bydd staff yn parhau i helpu cwsmeriaid dros y ffôn ac e-bost.
Tai
Oherwydd Storm Eunice bydd yr holl arolygiadau a gwaith arfaethedig yn cael eu canslo yfory. Mae tenantiaid y Cyngor wedi cael gwybod. Bydd hyn yn caniatáu i unrhyw waith brys a achosir gan y storm gael ei flaenoriaethu.
Parciau
O achos Storm Eunice bydd Parc Gwledig Pen-bre ar gau o 10pm heno a Pharc Gwledig Llyn Llech Owain a Pharc Coetir y Mynydd Mawr o 6pm. Byddwn yn ailagor pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Ysgolion
Ein cyngor pendant yw bod pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn symud i ddysgu ar-lein yfory er mwyn cymryd pob gofal i sicrhau diogelwch yr holl ddisgyblion a'r staff. Bydd ysgolion yn cyfathrebu'n uniongyrchol â rhieni/dysgwyr gyda'r trefniadau ar gyfer dysgu ar-lein.
Storm Eunice
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog preswylwyr i fod yn barod wrth i Storm Eunice daro Cymru yn ystod oriau mân bore yfory.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch am wynt sy'n debygol o achosi aflonyddwch sylweddol ar draws y wlad.
Mae yna rybudd melyn hefyd am lifogydd lleol ar ffyrdd ac mewn ardaloedd arfordirol.
Mae tîm gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wrth law i ddelio ag unrhyw sefyllfa a bydd yn ymateb i'r amodau tywydd newidiol.
Caiff pobl eu hannog i edrych ar wefan y Swyddfa Dywydd a mynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd, neu ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188 os ydych yn pryderu am lifogydd.
Byddwn hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ein gwefan ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Rhybudd melyn am law
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyflwyno rhybudd melyn am law ar gyfer dydd Sul gyda pheth cyfnodau hir o law trwm a allai arwain at lifogydd sydyn ac amodau gyrru anodd. Byddwn yn parhau i gadw llygad ar ragolygon y tywydd ac yn ymateb yn unol â hynny. Cymerwch ofal ar y ffyrdd.
Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf
Perygl o rew
Disgwylir i'r tywydd oer barhau'r wythnos hon a rhagwelir tymheredd isel. Fel bob amser, rydym yn monitro'r sefyllfa a bydd ein lorïau graeanu allan i drin prif ffyrdd. Mae perygl o rew felly cymerwch ofal a gyrrwch yn ddiogel
Amodau rhewllyd ac eirlaw ac eira
Disgwylir i'r tymheredd ostwng ar draws y sir a allai olygu amodau rhewllyd ac eirlaw ac eira ar dir uwch.
Mae ein lorïau graeanu wedi bod mas heddiw a heno yn trin llwybrau blaenoriaeth. Efallai eich bod wedi clywed bod ein staff cynnal a chadw'r priffyrdd dros y gaeaf yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol, ond gallwn eich sicrhau bod trefniadau wrth gefn mewn lle.
Cymerwch ofal ar y ffyrdd a byddwch yn ymwybodol o newid mewn amodau.
Diweddariad Storm Barra
Mae ein criwiau ac ymatebwyr brys yn parhau i ddelio â difrod ac aflonyddwch a achosir gan Storm Barra.
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn parhau ar waith, ac mae disgwyl i'r amodau wella heno - cymerwch ofal ychwanegol os ydych chi allan ac edrychwch allan am falurion ar y ffyrdd.
Ffordd ar gau
Mae’r gwyntoedd cryfion wedi achosi difrod i ran o do ysgol Bryngwyn a felly am resymau diogelwch rydym am gau y B4303 ger yr ysgol tan bore ‘fory. Bydd dal modd cael mynediad i Ysbyty’r Tywysog Philip. Byddwn yn ailasesu y sefyllfa yn y bore.
Rhybuddion Llifogydd - Pendine and Carmarthen Bay
Os ydych chi’n pryderu am lifogydd ewch i'r wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf neu ffoniwch y llinell llifogydd ar 0345 988 1188.
Byddwch yn ofalus ar draethau, promenadau, llwybrau troed arfordirol, ffyrdd, a thir isel yn agos at yr aberoedd. Byddwch yn ofalus gan y gallai ewyn a thonnau’r môr fod yn beryglus a chynnwys malurion.
Gwyntoedd cryf a llanw uchel
Disgwylir gwyntoedd cryf a llanw uchel, byddwch yn ofalus ar draethau, promenadau, llwybrau troed arfordirol, ffyrdd, tir isel - gallai tonnau ac ewyn sy'n cael ei chwythu o'r môr fod yn beryglus a gallai gynnwys malurion.
Parc Howard
Oherwydd gwyntoedd cryfion rydym wedi cau Parc Howard yn Llanelli. Byddwn yn monitro trwy gydol y dydd.
Storm Barra - rhybudd melyn ar gyfer gwynt
Bydd Storm Barra yn dod â gwyntoedd cryf dydd Mawrth.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer gwynt ar gyfer rhannau gorllewinol o Sir Gaerfyrddin. Cymerwch fwy o ofal na’r arfer rhag ofn bydd canghennau ac ati ar y ffordd.
Gallai llanw uchel iawn, ymchwydd, gwyntoedd cryf a thonnau mawr achosi rhywfaint o lifogydd ar arfordir Sir Gaerfyrddin rhwng Pentywyn a’r Hendy. Byddwch yn ofalus ar draethau, promenadau a llwybrau arfordirol.
Byddwn yn parhau i fonitro rhagolygon y tywydd ac yn ymateb fel y bo’r angen.
- Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf
- Os ydych chi’n pryderu am lifogydd ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru neu ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188 i gael y wybodaeth ddiweddaraf
Rhybudd melyn am rhew
Mae rhybudd melyn am rhew wedi cael ei gyhoeddi o 12am heno nes 10am yfory. Byddwn yn graeanu’r priffyrdd heno. Gyrrwch yn ofalus.
Ffordd ar gau
Bydd yr A484 rhwng Cynwyl Elfed a Bronwydd yn parhau ar gau am y rhan fwyaf o'r wythnos oherwydd y coed sydd wedi disgyn. Mae gwyriadau mewn lle.
Graeanu
Bydd lorïau graeanu yn trin y ffyrdd heno ac yn gynnar yn y bore gan y bydd tymheredd wyneb y ffordd yn is na’r rhewbwynt. Mae perygl o rew ac iâ. Cymerwch ofal ar y ffyrdd.
Coed wedi cwympo
Mae ein criwiau priffyrdd yn delio â 136 o ddigwyddiadau oherwydd bod nifer o goed wedi disgyn ar ein prifyrdd. Mae gwaith yn cael ei flaenoriaethu ar y brif ffyrdd ond bydd gwaith o glirio yn parhau yfory ar is-ffyrdd y sir.
Ffordd ar gau
Mae B4299 Meidrim i San Cler ym Mhencoed ar gau oherwydd bod coed wedi cwympo.
Diweddariad Teithio
Mae ein criwiau priffyrdd wedi bod yn brysur yn gweithio trwy gydol y nos a dydd yn delio â digwyddiadau yn ymwneud â'r tywydd. Cymerwch ofal ar y ffyrdd a chadwch lygad am goed a changhennau sydd wedi cwympo.
Parc Howard
Oherwydd gwyntoedd cryfion rydym wedi cau Parc Howard yn Llanelli. Byddwn yn monitro trwy gydol y dydd. Cymerwch ofal ar y ffyrdd.
Diweddariad Teithio
Adroddiadau o genllysg ar rai ffyrdd Sir Gaerfyrddin, felly gyrrwch yn ofalus.
Storm Arwen - cyhoeddi rhybudd ar gyfer gwynt
Bydd Storm Arwen yn dod â gwyntoedd cryf o’r gogledd-orllewin i Gymru rhwng prynhawn dydd Gwener a nos Sadwrn.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer gwynt – mae'r rhybudd hwn wedi'i uwchraddio i un oren ar gyfer rhannau gorllewinol o Sir Gaerfyrddin o ganol nos tan 9am fore dydd Sadwrn.
Mae peryg y bydd tarfu ar drafnidiaeth, ac o bosib, cyflenwadau pŵer. Cymerwch fwy o ofal na’r arfer rhag ofn bydd canghennau ac ati ar y ffordd. Byddwn yn parhau i fonitro rhagolygon y tywydd ac yn ymateb fel y bo’r angen.
Cyfnodau hir o law trwm
Rydym yn disgwyl cyfnodau hir o law trwm dros y dyddiau nesaf a allai arwain at lifogydd o ran afonydd a dŵr wyneb ac amodau gyrru anodd.
Fel bob amser, mae ein criwiau'n barod a byddant yn ymateb i amodau sy'n newid. Cadwch lygad ar ragolygon y tywydd a chymerwch ofal ychwanegol ar eich teithiau.
- Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf
- Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael rhagor o wybodaeth neu ffoniwch y Llinell Llifogydd - 0345 988 1188
Rhybudd melyn am law
- Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf
- Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael rhagor o wybodaeth neu ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.
Rhybudd melyn am stormydd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd bore fory, rhwng 4am a 12pm.
Gallwch ddisgwyl glaw, gwyntoedd cryfion a mellt a tharanau. Cymerwch ofal ar y ffyrdd ac byddwch yn wyliadwrus o'r amodau sy'n newid.
Rhybudd melyn am law
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law o 5pm heno tan 4am bore yfory. Mae’n bosibl y bydd hyn yn achosi llifogydd mewn mannau ac yn tarfu ar deithio. Gyrrwch yn ofalus.