Carbon Sero-net erbyn 2030
Rhowch gynnig ar eco-yrru i leihau ôl troed carbon Sir Gaerfyrddin
Mae pobl yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i yrru'n fwy effeithlon a lleihau eu hallyriadau carbon er mwyn ceisio mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae tîm diogelwch ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud bod eco-yrru nid yn unig yn gwella diogelwch ar y ffyrdd, ond hefyd yn lleihau'r defnydd o danwydd ac allyriadau.
Cytuno ar strategaeth wastraff newydd i gyrraedd targedau ailgylchu
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwrw ymlaen â'i gynlluniau i gyflawni cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2025 ac i fod yn ddiwastraff erbyn 2050. Yn ddiweddar, mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno ar strategaeth wastraff ar gyfer y dyfodol a fydd yn cefnogi trigolion i ailgylchu hyd yn oed yn fwy heb orfod gadael eu cartrefi.
Bydd cyfres o newidiadau’n cael eu rhoi ar waith i gasgliadau biniau o gartrefi dros y tair blynedd nesaf i gynyddu cyfradd ailgylchu'r sir a lleihau ei hôl troed carbon. Yn ogystal â'i gwneud yn haws i bobl ailgylchu, bydd hefyd yn wasanaeth mwy effeithiol ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Cyngor tuag at daclo newid hinsawdd - mater y mae'n tynnu sylw ato drwy gyfrwng Prosiect Zero Sir Gâr - sef ymgyrch sy'n rhoi ffocws ar ei waith tuag at ddod yn awdurdod carbon sero-net.
Leihau allyriadau carbon o'n fflyd
Rydym yn parhau i archwilio opsiynau mwy ecogyfeillgar ar gyfer ein cerbydau fflyd.
Mae ein fflyd bresennol o lorïau sbwriel a lorïau graeanu ymhlith y fflydoedd masnachol mwyaf datblygedig yng Nghymru ar gyfer cerbydau sy'n cael eu pweru gan ddiesel, gan gynnwys llai o dechnoleg allyriadau.
Rydym hefyd wedi gwneud newidiadau i'n llwybrau i leihau milltiroedd.
Mae'r rhain, a mesurau eraill, wedi ein helpu i leihau allyriadau carbon o'n fflyd 19% ers 2012/13 (o 4,752 tCO2 e i3,856 tCO2e).
Plant ysgolion Sir Gaerfyrddin yn defnyddio eu pwerau arbennig i daclo newid hinsawdd
Mae ein plant yma yn Sir Gaerfyrddin, sef cenedlaethau'r dyfodol yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ennyn diddordeb miloedd o blant yn ei fenter Prosiect Zero Sir Gâr - sef ymdrech wedi'i thargedu i ddod â phobl at ei gilydd i gefnogi taith yr awdurdod tuag at ddod yn garbon sero-net erbyn 2030.
Mae plant ysgolion cynradd ledled y sir wedi cael eu herio i fod yn 'Archarwyr Prosiect Zero', gan rannu eu pwerau arbennig a'u syniadau i helpu Sir Gaerfyrddin i daclo newid hinsawdd. Mae'r hyn sy'n eu hysbrydoli yn cael ei rannu ar-lein gan ddefnyddio #ProsiectZeroSirGâr.
Gwneud defnydd o adeilad gwag unwaith eto fel llety ecogyfeillgar â chymorth
Mae adeilad gwag yn Rhydaman a brynwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei ddefnyddio unwaith yn rhagor i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol gydag amrywiaeth o nodweddion ecogyfeillgar i'w helpu i leihau eu hôl troed carbon.
Mae hen gartref preswyl Hafan Croeso wedi'i droi'n ddwy fflat hunangynhwysol, a llety a rennir ar gyfer chwech o bobl a fydd yn helpu i hyrwyddo annibyniaeth a gwella iechyd a llesiant, daw hyn ar ôl i’r cyngor sicrhau cyllid drwy gyfrwng y Gronfa Gofal Integredig.
Cynlluniwyd yr adeilad gydag amrywiaeth o fesurau a fydd yn lleihau’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon sy’n cefnogi ymrwymiad y cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a dod yn Awdurdod Lleol carbon sero-net erbyn 2030.
Lleihad allyriadau carbon o filltiredd busnes
Yn 2010, ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i brynu a defnyddio cerbydau trydan i'n staff eu defnyddio.
Rydym hefyd wedi prynu beiciau y gall ein staff eu defnyddio ar gyfer teithiau byr.
Mae'r Cyngor wedi lleihau ei allyriadau carbon o'i filltiredd busnes dros 36% ers 2012/13 - o 1,756 tCO2e i 1,118 tCO2e.
A chyda gwell defnydd o dechnoleg sy'n caniatáu i fwy o staff weithio gartref a chyfarfod ar-lein, rydym yn hyderus ein bod yn gwneud mwy o welliannau gwych yn y maes hwn.
Ailgylchu
I gael gwybod beth allwch chi ei ailgylchu defnyddiwch ein rhestr ailgylchu A i Y. Sicrhewch fod eich gwastraff plastig, caniau ac ati yn cael eu golchi a'u rhoi yn y biniau ailgylchu cywir.
Goleuadau LED ynni isel
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi newid dros 80% o 20,000 o oleuadau stryd Sir Gaerfyrddin i ddefnyddio goleuadau LED ynni isel gan ddefnyddio cyllid di-log a sicrhawyd o dan Raglen Ariannu Cymru Llywodraeth Cymru.
Mae gweddill y goleuadau stryd yn llusernau ynni isel sy'n pylu golau a fydd yn cael eu newid i LED ar ddiwedd eu hoes.
Mae'r gwaith hwn wedi ein helpu i leihau allyriadau carbon o oleuadau stryd 65% ers 2011/12, sef o 3,681 tCO2e i 1,291 tCO2e).
Ynni adnewyddadwy
Fel cyngor, rydym yn gwario mwy na £4miliwn bob blwyddyn ar ynni ar gyfer adeiladau fel ysgolion, canolfannau hamdden, theatrau a swyddfeydd - ond mae'r ynni a brynwn yn dod o ffynonellau 100% adnewyddadwy, gydag ychydig llai na hanner ohono'n dod o Gymru.
Rydym hefyd yn gweithio'n galed i leihau allyriadau carbon o'n hadeiladau annomestig - ers 2005/06 rydym wedi lleihau ein hallyriadau bron i 40% (o 23,733 tCO2e i 14,822 tCO2e) ond rydym yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud.
Eich ôl troed carbon
A wyddoch chi? Gallwch weld eich ôl troed carbon drwy ddefnyddio cyfrifiannell Ôl Troed Carbon WW
Yr ysgol Passivhaus gyntaf yng Nghymru
Ychydig dros chwe blynedd yn ôl, adeiladwyd yr ysgol Passivhaus gyntaf yng Nghymru, sef ysgol gynradd ym Mhorth Tywyn, ac ers hynny rydym wedi darparu mwy o ysgolion Passivhaus newydd fel rhan o'n Rhaglen Moderneiddio Addysg.
Mae'r adeiladau hyn ond yn defnyddio 15% o'r defnydd nwy blynyddol a wneir o ysgol a adeiladwyd yn draddodiadol.
Mae safon Passivhaus yn cynnwys dylunio ac adeiladu adeiladau gyda lefelau uchel iawn o inswleiddio, ffenestri perfformiad uchel, awyru mecanyddol ar gyfer adfer gwres, a ffabrig adeiladu awyr-dynn.
Mae adeiladau Passivhaus fel arfer yn defnyddio 75% yn llai o ynni gwresogi o'i gymharu ag adeiladau newydd safonol yn y DU.
Syniad: Lleihau gwastraff bwyd
Cynhyrchu bwyd a gwastraff bwyd yw un o'r allyrwyr carbon uchaf. Byddwch yn greadigol gyda'ch bwyd dros ben, gallwch ddod o hyd i ryseitiau gwych ar wefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff.
Ceisiwch brynu bwyd a chynnyrch sydd mor lleol â phosibl. Ceir rhagor o wybodaeth am rai o'n busnesau lleol gwych ar ein tudalen 100% Sir Gâr.
Prosiectau effeithlonrwydd ynni
Yn ddiweddar, rydym wedi buddsoddi dros £2miliwn mewn tua 200 o brosiectau effeithlonrwydd ynni ar draws adeiladau'r cyngor, a ariennir o dan raglen buddsoddi i arbed Salix di-log.
Rhagwelir y bydd y buddsoddiad hwn yn arbed dros £7 miliwn a 41,000 and 41,000 tunnell o allyriadau carbon dros oes y technolegau a osodir. Ynghyd â'n rhaglenni parhaus i resymoli eiddo, gweithio ystwyth a chynnal a chadw, rydym yn arbed arian ac yn cwtogi ar garbon mewn cyfnod lle mae costau cyfleustodau ar gynnydd.
Carbon sero-net
Beth ydym yn ei olygu wrth ddweud ein bod am ddod yn awdurdod carbon sero-net erbyn 2030?
Fel cyngor, rydym wedi ymrwymo i leihau ein hôl troed carbon yn sylweddol, ond rydym yn cydnabod fodd bynnag, pa mor ynni/carbon effeithlon bynnag y bydd ein gwasanaethau, y byddant yn anochel yn gadael ôl troed carbon.
Rydym yn bwriadu gwneud iawn am hyn drwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy a/neu drwy wrthbwyso carbon, er enghraifft drwy blannu coed - drwy wneud hynny ein nod yw dod yn garbon sero-net.
Sir Caerfyrddin yw'r cyntaf i gyhoeddi cynllun gweithredu newid
Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu newid yn yr hinsawdd, sy'n nodi sut y bydd yn gweithio tuag at fod yn garbon sero-net yn ystod y 10 mlynedd nesaf.