Cyngor ar Gostau Byw
Mae cymorth, cefnogaeth a chyngor arbenigol ar gael i helpu gyda chostau byw a materion eraill ym mhob un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid Hwb yn Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin. Bydd ymgynghorwyr Hwb ar gael bob dydd, ynghyd â swyddogion tai ac ymgynghorwyr cyflogadwyedd, i ddarparu pecynnau cymorth wedi'u teilwra i drigolion. Gall ymwelwyr â'r canolfannau Hwb hefyd gael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i'w cefnogi wrth i gostau byw gynyddu. Am gymorth, cefnogaeth a gwybodaeth ewch i'n tudalennau Cyngor ar Gostau Byw.

Mwynhewch feicio heb ei ail yn Sir Gâr
Cyfleusterau o'r radd flaenaf, llwybrau beicio ffordd trawiadol, y mannau gorau i feicio mynydd a digwyddiadau sy'n denu enwau mawr
Pan ddaw’n fater o feicio, mae gan Sir Gaerfyrddin bopeth i'w gynnig. P'un a ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin neu'n ymweld yn unig; yn feiciwr profiadol iawn neu'n cymudo i'r gwaith; yn ceisio bod yn heini neu'n mynd allan am sbin hamddenol, mae yna rywbeth at ddant pawb.
Gyda golygfeydd ysblennydd i'w gweld ar hyd yr arfordir ynghyd â dyffrynnoedd eang, bryniau a llynnoedd, ni fu darganfod eich hoff lwybr beicio erioed yn haws. P'un a ydych yn chwilio am daith feicio ysgafn neu eich bod eisiau gwneud ymdrech go iawn, mae llwybr beicio i chi yn Sir Gaerfyrddin.
Llwybrau sy'n addas i deuluoedd
Mae gan Lwybr Celtaidd y Gorllewin rywbeth i bawb. Mae'r ‘Her’ i bobl sy'n ddewr iawn yn unig gan ei bod yn daith gron 143 o filltiroedd, ond mae'r golygfeydd prydferth ar hyd y ffordd yn gwneud iawn am y gwaith. Os ydych yn chwilio am lwybr mewndirol heriol, rhowch gynnig ar Lwybr 47, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio digon o amser i gael hoe yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Os ydych chi'n chwilio am daith gyda golygfeydd arfordirol trawiadol neu weithgaredd llawn hwyl i'r teulu gyda llawer o lefydd hyfryd i gael hoe, yna byddwch yn cael y cyfan yma ar Lwybr 4. Mae'n llwybr perffaith os ydych am ddianc o brysurdeb bywyd ac mae yno rai darnau di-draffig gwych i'r teulu i gyd.
Ar gyfer math gwahanol o antur feicio, rhowch gynnig ar Lwybr Beicio'r Chwedlau. Mae morynion a mynaich hudol, peilot enwog a dewin nodedig oll yn cael sylw ar daith gyfareddol o amgylch Sir Gâr.

Beicio mynydd
Sir Gaerfyrddin yw un o'r llefydd mwyaf cyffrous ar gyfer y gamp o feicio mynydd sy'n tyfu'n gyflym. Mae'r dirwedd naturiol a'r llwybrau a wnaed gan ddyn yng nghoedwigoedd Brechfa, Cwm Rhaeadr a Chrychan yn gwneud y Sir yn gyrchfan beicio oddi ar y ffordd o'r radd flaenaf.
Mae Allt Nant-y-Ci ger pentref Saron, ychydig i'r gorllewin o Rydaman; Llyn Llech Owain yn Gors-las, ger Cross Hands, a Pharc Gwledig Pen-bre hefyd yn cynnig amrywiaeth o lwybrau beicio oddi ar y ffordd gyda digonedd o fywyd gwyllt a llawer o atyniadau eraill ar gyfer diwrnod anturus allan. Ewch i wefan Darganfod Sir Gâr i gael rhagor o wybodaeth.
Beicio ar y ffordd
Gyda'i harfordir trawiadol a'i chefn gwlad hardd, heb sôn am riwiau gwych i gael eich calon i guro'n gyflymach, mae Sir Gaerfyrddin yn dod yn ffefryn cadarn ar gyfer beicio ar y ffordd. Mae ein llwybrau beicio ar y ffordd, sy'n amrywio o 10 milltir i 65 milltir o ran pellter, yn cwmpasu llwybrau arfordirol, lonydd gwledig a threfi marchnad prysur.
Mae Taith Cestyll Dyffryn Tywi yn tramwyo un o ddyffrynnoedd mwyaf trawiadol Cymru, gyda'r cestyll sy'n cadw gwyliadwriaeth ar ei hyd, yn ogystal â Dyffryn Cothi sydd yn fwy diarffordd ond yr un mor arbennig, gyda'i bentrefi pert a'i ffyrdd tawel, ond cadwch eich llygaid ar agor gan fod ganddo dro yn ei gynffon!
Ar lwybr Gwylltir y Gorllewin, mae Llyn Brianne a'r ffyrdd o'i amgylch ymhlith y llwybrau mwyaf trawiadol a boddhaus y gallwch chi gael ar wyneb daear, heb sôn am Sir Gaerfyrddin a Chymru. Mae'r llwybr yn tywys y beicwyr i wylltir y gorllewin lle mae ceir a phobl yn bethau prin.
Ac os ydych chi wir am herio eich hun, yn cael blas ar daclo rhiwiau mawr ac yn dwlu ar olygfeydd gwych, yna Rhiwiau Hirion, Beiciwr Bodlon yw'r llwybr i chi. Dyma lwybr epig a fydd yn eich tywys o galon ddiwydiannol Sir Gaerfyrddin i wlad dawelach, gan ddod yn ôl dros y Mynydd Du ym Mannau Brycheiniog a thaclo ambell i riw arteithiol cyn gorffen. Diwrnod mawr i hyd yn oed y beicwyr mwyaf heini!
Ewch i wefan Darganfod Sir Gâr i lawrlwytho'r llwybrau hyn a mwy a chynllunio eich gwyliau beicio perffaith.

Cylchdeithiau a thraciau
Yma yn Sir Gaerfyrddin rydym yn ffodus i gael rhai o'r cyfleusterau gorau yng Nghymru gan gynnwys y cwrs rasio ffordd gaeëdig ym Mharc Gwledig Pen-bre. Dyma drac beicio pwrpasol oddi ar y ffordd a fydd yn cyrraedd safonau Beicio Prydain ac yn addas ar gyfer sesiynau hyfforddi ac ymarfer, cystadlaethau beicio a gweithgareddau eraill. Byddwch hefyd yn dod o hyd i'r trac pwmp ym Mhen-bre, gyda'i gylchffordd o roleri, troeon ar lethrau a nodweddion eraill wedi'u cynllunio i gael eu reidio'n llwyr gan feicwyr yn 'pwmpio' (creu momentwm drwy symud y corff i fyny ac i lawr) yn hytrach na phedlo neu wthio. Mae modd llogi beiciau hefyd gan gynnwys beiciau addasol er mwyn cael profiad beicio hollgynhwysol a chadeiriau olwyn traeth – y ffordd berffaith o archwilio'r parc 500 erw.
Mae Parc Caerfyrddin yn gartref i un o'r felodromau hynaf yng Nghymru, a adeiladwyd yn 1900. Mae wedi cael ei adnewyddu i'w ddefnyddio gan glybiau beicio a'r gymuned leol ac mae'n ganolfan ragoriaeth ranbarthol ar gyfer cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.
Hefyd yng Nghaerfyrddin, mae'r ardal sgiliau beicio mynydd a'r trac pwmp yng Nghanolfan Addysg Antur Awyr Agored Cynefin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn diwallu anghenion beicwyr o bob oed a gallu gan ddarparu lleoliad ar gyfer addysg a hyfforddiant. Mae'n gyfleuster na all unrhyw brifysgol arall yn y DU ei gynnig.
Y prif ddigwyddiadau
Bydd Sir Gaerfyrddin yn croesawu Taith Merched Prydain am yr ail waith ddydd Gwener 10 Mehefin. Yng Nghymal Pump bydd beicwyr benywaidd gorau’r byd yn ymdrechu mewn diwrnod o rasio sy'n dechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre ac yn gorffen ar ben y Mynydd Du ar ochr orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Sir Gaerfyrddin yn prysur ddod yn brif gyrchfan feicio wedi iddi gynnal Grand Départ Taith Dynion Prydain 2018 a rhan olaf Taith y Merched yn 2019 a phrawf amser i dimau Taith Prydain yn 2021. Gan ddenu beicwyr elît o bob cwr o'r byd, mae'r Sir yn cynnal amryw o ddigwyddiadau beicio, gan gynnwys rasys triathlon a'r digwyddiad unigryw, cyflym a hwyliog ‘Battle on the Beach’.

Rhwydwaith Teithio Llesol
Mae rhwydwaith teithio llesol Sir Gaerfyrddin yn cysylltu ardaloedd preswyl â chyfleusterau siopa, cyflogaeth, gofal iechyd a hamdden, gan annog pobl i feicio yn hytrach na defnyddio'r car er mwyn teithio mewn ffordd iach, gynaliadwy ac ecogyfeillgar. Mae gwelliannau pellach ar y gweill; i gael gwybod mwy am weledigaeth 15 mlynedd y Cyngor ac i weld mapiau o'r llwybrau, ewch i'n tudalennau teithio llesol ar ein gwefan.
Llogi beiciau ac E-feiciau
Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo teithio llesol, mae gorsafoedd llogi beiciau wedi'u gosod yng Ngorsaf Fysiau Caerfyrddin, cyfnewidfa Porth Tywyn, a Gorsaf Reilffordd Llanelli. Mae pobl yn gallu neilltuo beiciau ar-lein neu drwy neges destun a'u casglu o orsafoedd docio am gyn lleied â £3.50 y dydd. Brompton Bike Hire sy'n gyfrifol am y beiciau a gellir eu plygu a'u cario ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd llogi beiciau at ddefnydd y gymuned ar gael yn fuan mewn canolfannau hamdden ledled y Sir, ynghyd â mannau parcio beiciau a mannau gwefru beiciau trydan.
Mae beiciau e-gargo yn cael eu cyflwyno i ddechrau yng nghanol trefi Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman i gynorthwyo busnesau lleol i'w defnyddio i ddosbarthu nwyddau bach, ac mae beiciau tacsi anabledd trydan yn cael eu darparu at ddefnydd ysgolion, canolfannau dydd a chartrefi gofal.
Cymunedau Actif
Mae ein tîm Actif yn hyrwyddo ac yn annog beicio fel ffordd fod yn heini ac yn iach ac i gael hwyl! Mae gan ein canolfannau hamdden stiwdios chwilbedlo o'r radd flaenaf ar gyfer sesiwn ymarfer egnïol iawn, a chyda sesiynau rhithwir yn ogystal â dosbarthiadau yn cael eu ffrydio'n fyw a dosbarthiadau ar-alw, gallwch ymarfer ar adeg sy'n gyfleus i chi!
Mae'r tîm yn gweithio'n agos gydag ysgolion y Sir gan gynnig dosbarthiadau chwilbedlo a sesiynau beicio, a chan brofi nad ydych byth yn rhy ifanc i reidio beic, mae beiciau cydbwysedd a beiciau plant bach hefyd ar gael i blant cyn oed ysgol, a hynny yn y canolfannau hamdden neu allan yn y gymuned.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan Actif.