Tyisha yn croesawu cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth newydd
Mae tri chynllun Gwarchod Cymdogaeth newydd wedi'u cyflwyno'n ddiweddar i ardaloedd yn Nhyisha gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mae'r cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth bellach yn chwilio am wirfoddolwyr er mwyn helpu i sicrhau eu llwyddiant drwy helpu i gynyddu teimladau o ddiogelwch cymunedol a lleihau achosion o droseddu.
Mae ymuno â'r Cynllun Gwarchod Cymdogaeth yn cynnwys cyfathrebu â chydlynwyr y Cynllun i riportio neu dderbyn gwybodaeth am weithgarwch amheus yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Cadeirydd grŵp llywio cymunedol Tyisha: “Bydd y cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth newydd yn helpu i gryfhau'r gymuned yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth o'r gymdogaeth yn ardal Tyisha.
“Bydd gwirfoddolwyr sy'n ymuno â'r Cynllun Gwarchod Cymdogaeth yn derbyn cefnogaeth gan wardeiniaid cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed-Powys. Bydd y Cynllun yn help i fonitro materion sy'n cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a thipio anghyfreithlon er mwyn gwneud gwahaniaeth cynaliadwy a chadarnhaol i'r ardal. Edrychaf ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y mae'r Cynllun Gwarchod Cymdogaeth yn ei chael ar y gymuned wrth iddo ddatblygu”.
I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â'r Cynllun Gwarchod Cymdogaeth neu am gyngor ar sut i sefydlu Cynllun yn eich ardal, anfonwch e-bost i: tyisha@sirgar.gov.uk