Croeso i Gaerfyrddin
Mae gwaith wedi dechrau ar arwydd porth gorllewinol newydd i groesawu ymwelwyr i Gaerfyrddin.
Mae gwaith ymchwiliad tir a chlirio coed eisoes wedi'i gwblhau ar y ffordd ymuno oddi ar y ffordd ddeuol gyda gwaith pentyrru yn dechrau'r mis hwn.
Bydd rhywfaint o gamau rheoli traffig ar waith i ganiatáu cerbydau i mewn ac allan o'r safle.
Mae'r arwydd newydd yn rhan o gynllun ehangach ac mae'n gysylltiedig â phrosiect Gwlyptiroedd y Morfa a ddechreuodd y llynedd.
Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau ar yr arwydd ganol mis Mawrth ac ar safle'r gwlyptir ddiwedd mis Mawrth.
Mae'r gwaith hefyd wedi cychwyn yng Ngwlyptiroedd y Morfa i gwblhau llwybrau concrit i ganiatáu cerdded yn y gwlyptiroedd, ynghyd â thair mainc bwrpasol a thri bwrdd gwybodaeth a marcwyr llwybr.
Ariannwyd y prosiect drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Bydd yr arwydd newydd hwn yn cryfhau hunaniaeth Caerfyrddin a'r hyn sydd ganddi i'w gynnig i ymwelwyr."