Mae risg i Sir Gâr - cadwch at y rheolau
Mae pobl sy'n byw yn Sir Gâr yn cael eu hannog i ddilyn rheolau Covid-19 er mwyn helpu i stopio'r feirws rhag lledaenu.
Mae'r modd mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo yn y gymuned yn achos pryder gwirioneddol, ac er taw dim ond mewn un rhan o'r sir mae cyfyngiadau symud ar waith, atgoffir pobl fod angen i Sir Gâr gyfan fod ar ei gwyliadwriaeth.
Mae rhan fawr o Lanelli wedi'i dynodi'n ardal diogelu iechyd ar hyn o bryd, lle mae cyfyngiadau llymach ar waith i geisio rheoli nifer yr achosion o Covid-19 yn yr ardal.
Fodd bynnag mae clystyrau bach o achosion positif o Covid-19 i'w gweld ledled Sir Gaerfyrddin, ac oni bai bod pobl yn glynu wrth y rheolau, ofnir y gallai'r feirws ddechrau lledaenu'n gyflym.
Mae'r achosion yn cael eu monitro'n ofalus, ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi rhybuddio y gellid ymestyn y cyfyngiadau symud ar draws y sir gyfan os bydd y niferoedd yn parhau i godi.
Ar hyn o bryd, mae 66.2 o achosion fesul 100,000 yn Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd*, gan gynnwys ardal diogelu iechyd Llanelli.
Disgwylir i'r ffigurau diweddaraf ar gyfer ardal diogelu iechyd Llanelli yn unig gael eu rhyddhau fel rhan o'r adolygiad wythnosol ddydd Gwener.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: "Allwn ni ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw cadw at y rheolau - mae cyfrifoldeb arnom ni i ofalu am ein gilydd.
“Hyd yn oed os nad ydych chi'n poeni am gael y feirws eich hun, meddyliwch am y bobl rydych yn dod i gysylltiad â nhw, oherwydd byddan nhw siŵr o fod yn poeni. Yn waeth byth, os byddwch chi'n lledaenu'r feirws i rywun sy'n fwy agored i niwed na chi, gallai'r person hynny farw.
“Rydym ni'n deall rhwystredigaeth pobl yn llwyr, ond mae rheolau syml ar waith a dylai pobl gymryd yr amser i'w deall a'u dilyn. Rydym yn ymbil arnoch chi i wneud fel rydym ni'n gofyn i chi ei wneud. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd a gwneud y peth iawn.”
*Data'n gywir am 1pm ar 13/10/20
I'ch atgoffa, mae'r rheolau canlynol ar waith ar hyn o bryd
⚠️ Rhaid i bob un ohonom yng Nghymru:
- Gadw dau fetr oddi wrth unrhyw un nad ydym yn byw gyda nhw
- Hunanynysu os gofynnir i ni wneud hynny gan swyddog olrhain cysylltiadau, neu os oes gennym symptomau Covid-19 (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, colli blas ac arogl)
- Cael prawf os oes gennym unrhyw un o'r symptomau
- Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus
- Dim ond cymdeithasu mewn grwpiau o chwech ar y mwyaf o'n swigen deuluol estynedig - pedair aelwyd ar y mwyaf (sylwer: mae'r rheolau hyn yn wahanol os ydych yn byw yn 'ardal diogelu iechyd' Llanelli, gweler isod)
- Rhoi manylion cyswllt llawn wrth ymweld â safleoedd busnes fel rhan o gynllun Profi, Olrhain, Diogelu y GIG
- Gweithio gartref lle bynnag y bo modd
- A rhaid i bob safle trwyddedig roi'r gorau i weini alcohol am 10pm, a rhaid iddo gau erbyn 10.20pm, yn ogystal â chael mesurau cadarn ar waith i ddiogelu cwsmeriaid
➕ Rheolau ychwanegol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
Mae'n rhaid i ni i gyd:
- Gadw allan o 'ardal diogelu iechyd' Llanelli oni bai ein bod yn byw yno, yn gweithio yno, neu ag esgus rhesymol
➕ Rheolau ychwanegol ar gyfer Llanelli
Rydym hefyd yn gofyn i bobl sy'n byw yn yr 'ardal diogelu iechyd':
- Beidio â chymysgu ag unrhyw un o aelwyd arall (oni bai eu bod yn darparu gofal i rywun agored i niwed, neu'n rhoi cymorth i rywun sy'n byw ar ei ben ei hun)
- Peidio â theithio i mewn ac allan o'r 'ardal diogelu iechyd', oni bai bod esgus rhesymol ganddynt
- Peidio ag ymweld â chartrefi gofal preswyl (y tu mewn neu'r tu allan), er mwyn diogelu ein pobl mwyaf agored i niwed
- Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau lle mae'n anodd cadw pellter cymdeithasol, fel wrth gatiau'r ysgol