Cynnydd pryderus mewn achosion Covid-19 yn Sir Gaerfyrddin
Mae'r parth diogelu iechyd sy'n cwmpasu rhan fawr o Lanelli yn gweithio'n dda ac yn helpu i leihau nifer yr achosion positif o Covid-19; fodd bynnag, mae pryderon yn cynyddu ynghylch lledaeniad Covid-19 mewn mannau eraill yn Sir Gaerfyrddin.
Rhoddir diolch i'r bobl sy'n byw yn y parth am eu hymdrechion a gofynnir iddynt barhau â'r gwaith da am o leiaf wythnos arall er mwyn helpu i ostwng y niferoedd ymhellach fyth.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru, yn parhau i adolygu'r sefyllfa'n gyson.
Mae trafodaethau'n cael eu cynnal hefyd i baratoi ar gyfer 'torrwr cylched' posibl - mesur sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru i atal lledaeniad cyflym y feirws ledled Cymru.
Byddai'n golygu dychwelyd cyfyngiadau cenedlaethol cryfach am gyfnod o bythefnos i dair wythnos. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei phenderfyniad ddydd Llun.
Yn Sir Gaerfyrddin, er bod yr achosion yn parhau i fod wedi'u crynhoi yn Llanelli (sef 87.4 fesul 100,000 o'r boblogaeth ar hyn o bryd*), caiff clystyrau bach o'r feirws eu canfod ledled y sir.
Ar hyn o bryd 64.8 fesul 100,000 o'r boblogaeth yw cyfradd yr haint ar gyfer Sir Gaerfyrddin, ac eithrio parth diogelu iechyd Llanelli.
Mae'r gyfradd ar gyfer y sir gyfan, gan gynnwys parth diogelu iechyd Llanelli, ar hyn o bryd yn 71.5 fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Roedd yr holl ffigurau a ddyfynnir yn gywir ar 14 Hydref 2020 - sef y data diweddaraf sydd ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: “Rydym mor falch o weld y niferoedd yn parhau i ostwng yn ardal Llanelli - mae hyn yn dangos bod y cyfyngiadau ychwanegol a roddwyd ar waith yn gweithio.
“Rydym mor ddiolchgar i bobl Llanelli am wrando, cymryd gofal ychwanegol a helpu i reoli'r lledaeniad.
“Fodd bynnag, mae yna nodyn o rybudd i weddill y sir lle rydym yn gweld ffigurau'n dechrau codi.
“I raddau helaeth, mae'n ymddangos bod y rhain mewn clystyrau bach, ac nid mor ddwys ag ym mharth diogelu iechyd Llanelli, ond mae'n destun pryder. Mae'n dangos bod y feirws yn lledaenu.
“Mae ymchwiliadau olrhain cysylltiadau yn dweud wrthym fod llawer o'r achosion hyn wedi'u cysylltu â phobl sy'n dod i gysylltiad agos â'i gilydd wrth gymdeithasu mewn safleoedd trwyddedig neu yn y gwaith, ac yna'n rhannu'r feirws gyda phobl y maent yn byw gyda nhw.
“Felly rydym yn gofyn - os gwelwch yn dda - cadwch eich pellter oddi wrth bobl nad ydych chi'n byw gyda nhw, arferwch hylendid da, gwisgwch orchudd wyneb, gweithiwch gartref os gallwch, a hunanynyswch os gofynnir i chi wneud hynny neu os oes gennych unrhyw symptomau Covid-19.”
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i ganolbwyntio adnoddau ar gefnogi safleoedd trwyddedig i ddarparu amgylchedd diogel i gwsmeriaid.
Ers 25 Medi, pan gyhoeddwyd y cyfyngiadau ychwanegol ar gyfer Llanelli, gwnaed dros 450 o ymweliadau rhagweithiol â safleoedd busnes gan gynnig cyngor a chymorth.
Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithredu'n dda, ond mae lleiafrif bach o safleoedd trwyddedig o hyd nad ydynt yn rhoi systemau diogel ar waith – mae 12 o'r rheiny wedi cael hysbysiadau cau ers 25 Medi, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ailagor ar ôl gwneud gwelliannau sylweddol.
Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hon yn adeg dyngedfennol i boblogaeth ehangach Sir Gaerfyrddin. Gallwn weld achosion yn codi ac mae arnom angen i bawb weithredu. Gwnewch yr hyn y gallwch ei wneud i ddiogelu eich iechyd chi ac iechyd eich anwyliaid. Cofiwch – dwylo, wyneb a gofod. Golchwch eich dwylo'n rheolaidd, defnyddiwch orchudd wyneb pan nad yw'n bosibl cadw pellter cymdeithasol ac os ydych yn byw y tu allan i barth diogelu iechyd, lle mae cyfyngiadau ychwanegol yn berthnasol, yna parhewch i gadw pellter o ddau fetr oddi wrth bobl nad ydynt yn aelodau o'ch aelwyd, p'un a ydych y tu mewn neu'r tu allan. Nid yn unig y ffordd orau o ddiogelu ein hiechyd yw cymryd y mesurau hyn, ond hefyd y ffordd orau o amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau lleol.”
Ychwanegodd yr Athro Philip Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyfarwyddwr Meddygol ac ymgynghorydd anadlol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gweld cynnydd pryderus yn nifer yr achosion o Covid-19 yn Sir Gaerfyrddin. Rydym eisoes yn darparu gofal i gleifion Covid-19 yn ein hysbytai a disgwyliwn i'r niferoedd hyn gynyddu, ar adeg o'r flwyddyn pan fydd ein hysbytai'n paratoi ar gyfer cyfnod prysur y gaeaf. Os gwelwch yn dda, er mwyn amddiffyn eich hunain a gallu'r GIG i roi'r gofal sydd ei angen arnoch i chi a'ch teuluoedd, dilynwch y canllawiau. Mae ein staff yn gweithio'n eithriadol o galed ac yn dilyn gweithdrefnau atal heintiau llym. Peidiwch â chamgymryd hyn fel neges i aros i ffwrdd o'r ysbyty neu wasanaethau gofal sylfaenol os oes eu hangen arnoch. Rydym yma i chi ac rydym wedi gwneud ein hysbytai a'n darpariaeth gofal iechyd mor ddiogel â phosibl i chi a'n staff, gan ddefnyddio'r holl dystiolaeth arbenigol am sut y mae'r clefyd hwn yn lledaenu a'r mesurau atal heintiau sydd eu hangen.”
* Data'n gywir ar 14 Hydref, 2020
Achosion Covid-19 wedi'u cadarnhau yn Sir Gaerfyrddin
(Data'n gywir ar 14 Hydref, 2020)
Lleoliad |
Achosion yn y 7 diwrnod diwethaf |
Cyfradd fesul 100,000 o'r boblogaeth |
Llanelli |
49 |
87.4 |
Gweddill Sir Gaerfyrddin |
86 |
64.8 |
Cyfanswm |
135 |
71.5 |
I'ch atgoffa, mae'r rheolau canlynol ar waith ar hyn o bryd
⚠️ Rhaid i bob un ohonom yng Nghymru:
- Gadw dau fetr oddi wrth unrhyw un nad ydym yn byw gyda nhw
- Hunanynysu os gofynnir i ni wneud hynny gan swyddog olrhain cysylltiadau, neu os oes gennym symptomau Covid-19 (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, colli blas ac arogl)
- Cael prawf os oes gennym unrhyw un o'r symptomau
- Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus
- Dim ond cymdeithasu mewn grwpiau o chwech ar y mwyaf o'n swigen deuluol estynedig - pedair aelwyd ar y mwyaf (sylwer: mae'r rheolau hyn yn wahanol os ydych yn byw yn 'ardal diogelu iechyd' Llanelli, gweler isod)
- Rhoi manylion cyswllt llawn wrth ymweld â safleoedd busnes fel rhan o gynllun Profi, Olrhain, Diogelu y GIG
- Gweithio gartref lle bynnag y bo modd
- A rhaid i bob safle trwyddedig roi'r gorau i weini alcohol am 10pm, a rhaid iddo gau erbyn 10.20pm, yn ogystal â chael mesurau cadarn ar waith i ddiogelu cwsmeriaid
➕ Rheolau ychwanegol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
Mae'n rhaid i ni i gyd:
- Gadw allan o 'ardal diogelu iechyd' Llanelli oni bai ein bod yn byw yno, yn gweithio yno, neu ag esgus rhesymol
➕ Rheolau ychwanegol ar gyfer Llanelli
Rydym hefyd yn gofyn i bobl sy'n byw yn yr 'ardal diogelu iechyd':
- Beidio â chymysgu ag unrhyw un o aelwyd arall (oni bai eu bod yn darparu gofal i rywun agored i niwed, neu'n rhoi cymorth i rywun sy'n byw ar ei ben ei hun)
- Peidio â theithio i mewn ac allan o'r 'ardal diogelu iechyd', oni bai bod esgus rhesymol ganddynt
- Peidio ag ymweld â chartrefi gofal preswyl (y tu mewn neu'r tu allan), er mwyn diogelu ein pobl mwyaf agored i niwed
- Gwisgo gorchudd wyneb yn yr awyr agored hefyd, yn enwedig mewn mannau lle mae'n anodd cadw pellter cymdeithasol, fel wrth gatiau'r ysgol