Y wybodaeth ddiweddaraf am Fwriad y Swyddfa Gartref

327 diwrnod yn ôl

Yn dilyn cyfarfod rhwng swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Swyddfa Gartref ar 30 Mai 2023, mae Arweinydd y Cyngor, Darren Price, wedi ysgrifennu at berchnogion Gwesty Parc y Strade, Llanelli yn eu hannog i roi ateb gonest i bobl Llanelli ynghylch a ydynt mewn trafodaethau â'r Swyddfa Gartref o ran y posibilrwydd o ddefnyddio'r gwesty i ddarparu llety ar gyfer ceiswyr lloches.
 
Dywedodd swyddog o'r Swyddfa Gartref wrth swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin bod y Gweinidog Gwladol (Gweinidog Mewnfudo) yn San Steffan wedi cytuno i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade i gartrefu ceiswyr lloches, yn amodol ar gontract rhwng perchnogion y gwesty a Clearsprings, y gweithredwr sy'n gweithio ar ran y Swyddfa Gartref sy'n cynnal y safleoedd hyn.
 
Er mwyn gallu symud i gontract gyda pherchnogion y gwesty (ar gyfer lleoli ceiswyr lloches), mae'r Cyngor Sir yn deall bod gan Clearsprings ystod o asesiadau a gwaith sydd eto i'w cwblhau, gan gynnwys asesiad risg tân. Mae'r defnydd a fwriedir gan Clearsprings yn dal i fod ar gyfer 207 o geiswyr lloches yn ystafelloedd y gwesty a hyd at 107 o leoedd brys yn yr ardaloedd cymunedol. Nid yw'r Cyngor Sir wedi derbyn y wybodaeth hon yn ysgrifenedig eto er gwaethaf gofyn sawl gwaith am hynny.  Mae Partneriaid Sector Cyhoeddus hefyd wedi codi pryderon ynghylch gwasanaethau iechyd ac wedi cael eu cynghori mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fyddai rhoi cyllid ychwanegol ar gyfer hyn.
 
Mae'r Cyngor yn anghytuno'n gryf â'r bwriad hwn yng Ngwesty Parc y Strade, ac yn archwilio ystod o lwybrau cyfreithiol, gan gynnwys cynllunio, i berswadio'r Swyddfa Gartref a pherchnogion y gwesty bod natur y safle hwn yn anaddas at y diben hwn. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Mae'n bryd i berchennog Gwesty Parc y Strade, Sterling Woodrow, ddatgelu'r gwir ynghylch y trafodaethau gyda'r Swyddfa Gartref. Rwy' wedi ysgrifennu atyn nhw'n mynnu atebion am y defnydd o'r gwesty yn y dyfodol, gan fod angen atebion ar gymuned leol Ffwrnes a Llanelli, yn ogystal â staff y gwesty, Cyngor Sir Caerfyrddin a'n hystod o bartneriaid.  
 
"Dim ond yr wythnos hon fe wnaeth y Swyddfa Gartref, unwaith eto, ailadrodd ei bwriad i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade fel safle i letya dros 300 o geiswyr lloches. Rhaid i berchennog y gwesty, Sterling Woodrow, fod yn agored ac yn onest nawr gyda phobl Sir Gâr; a ydyn nhw mewn trafodaethau â'r Swyddfa Gartref neu beidio, ac os felly, a ydyn nhw'n bwriadu bwrw ymlaen i grynhoi nifer fawr o geiswyr lloches yn y gwesty?
 
"Mae rôl bwysig gan Westy Parc y Strade yn ein sir fel lleoliad sy'n cael ei ddefnyddio'n aml gan bobl leol ar gyfer digwyddiadau fel priodasau, cynadleddau a digwyddiadau cymdeithasol. Mae hefyd yn boblogaidd gyda thwristiaid ac ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin. Mae'r gwesty wedi cael cefnogaeth sylweddol gan y gymuned leol dros y blynyddoedd, ac felly mae ond yn iawn eu bod nhw'n onest gyda'r gymuned leol.
 
"Fel awdurdod lleol, rydym ni am allu gweithio gyda'r gwesty i annog a datblygu twristiaeth a thwf yn yr ardal. Mae'r wythnosau diwethaf wedi siomi'r gymuned leol yn fawr, ac mae priodasau wedi cael eu canslo oherwydd yr ansicrwydd. Mae'r holl beth yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl yn yr ardal. Dyw hi ddim yn deg ar gyplau sy'n edrych ymlaen at eu diwrnod priodas, ar y gymuned leol, nac ychwaith staff y gwesty. Mae cyfle gan berchnogion y gwesty i roi stop ar hyn i gyd drwy ddweud wrth y Swyddfa Gartref nad yw nhw am fwrw ymlaen, ac rwy'n eu hannog nhw i wneud yr union beth hynny."
 
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'i bartneriaid yn y sector cyhoeddus yn ceisio perswadio'r Swyddfa Gartref i beidio â bwrw ymlaen â'r bwriad i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade, Llanelli at y diben o ddarparu llety wrth gefn ar gyfer dros 300 o geiswyr lloches.
 
Y Swyddfa Gartref sy'n gwneud y penderfyniad hwn ac felly dylid cyfeirio pob ymholiad i'r wasg at y Swyddfa Gartref drwy ffonio 0300 123 3535.