Dewch i ymrwymo i ddatgarboneiddio ein sir

330 diwrnod yn ôl

Yr wythnos hon, mae Sir Gaerfyrddin wedi ei haddurno yn goch, gwyn a gwyrdd i ddathlu dyfodiad Eisteddfod yr Urdd i Lanymddyfri a heddiw, ar ei stondin ar y Maes, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn hoelio sylw ar ein gweledigaeth i fod yn awdurdod sero net, ac ar y camau y gall pawb eu cymryd o ddydd i ddydd i helpu i daclo'r hyn sy'n achosi newid yn yr hinsawdd.

Er mwyn ennyn cefnogaeth y cyhoedd, mae'r Cyngor wedi sefydlu wal addunedau ar ei stondin ac mae'n annog pawb, trigolion Sir Gâr ac ymwelwyr i'n sir brydferth, i lofnodi eu hadduned i leihau'r defnydd o ynni a lleihau faint o garbon deuocsid sy'n cael ei ryddhau i'r atmosffer trwy gynhyrchu ynni.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i chwarae ei ran wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ar ôl penderfynu'n unfrydol ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019. Y cyngor oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu a chyhoeddi cynllun gweithredu sero net ac mae wedi ymrwymo i fod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030.

Mae'r Cyngor yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a'r DU i roi arweinyddiaeth, a'r gefnogaeth a'r adnoddau angenrheidiol i gyflymu'r broses o newid i economi carbon isel a lliniaru effeithiau niweidiol newid yn yr hinsawdd i amddiffyn ein cymunedau a'r amgylchedd. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys y llywodraeth, a'r sector cyhoeddus ar draws dinas-ranbarth bae Abertawe, a'r sector preifat a'r trydydd sector, i fanteisio ar ystod o gyfleoedd i ddatgarboneiddio ein systemau ynni a chreu atebion arloesol i gyflawni arbedion carbon.

Wrth gymryd ysbrydoliaeth gan ein nawddsant, Dewi Sant, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn 'gwneud y pethau bychain' ar draws ei ystâd i gyflawni effeithlonrwydd ynni, sy'n cynnwys gosod goleuadau ynni-effeithlon, inswleiddio, gorchuddion pyllau nofio, drysau garej cyflym, meddalwedd cau lawr ar gyfrifiaduron, falfiau thermostatig ar gyfer rheiddiaduron a llawer mwy.

Mae lampau stryd Cynghorau Tref a Chymuned hefyd wedi'u huwchraddio i dechnoleg LED.

Mae'r Cyngor wedi dechrau ar raglen waith arloesol i osod mesuryddion clyfar ar draws ei ystadau i ddarparu data am ynni bob hanner awr. Mae'r gallu i werthuso data defnydd yn gywir yn hanfodol er mwyn sefydlu ein hôl troed carbon ac asesu effaith ein prosiectau ynni.

Mae 100% o fesuryddion nwy y Cyngor hefyd wedi'u huwchraddio ac mae'r awdurdod bellach yn gweithio tuag at gyrraedd yr un targed ar gyfer ei fesuryddion trydan erbyn yr haf, cyn troi ei sylw at uwchraddio mesuryddion dŵr.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o barhau i fuddsoddi ei amser, ei adnoddau a'i egni i wella amgylchedd y sir a chyfrannu at yr achos byd-eang i liniaru effaith newid hinsawdd. Dyma ychydig o enghreifftiau o sut yr ydym yn buddsoddi yn ein planed.

Canolfan Ddysg Caerfyrddin 

Yn ddiweddar, cwblhawyd gwaith yng Nghanolfan Ddysg Caerfyrddin er mwyn ei gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni a sicrhau lleihad o 76% yn ei hallyriadau carbon. Mae mesurau ôl-osod sy'n cynnwys insiwleiddio waliau ceudod, ffenestri gwydr dwbl, a gwelliannau i doeau wedi'u gweithredu er mwyn cadw mwy o wres yn yr adeilad. Nid yw'r Ganolfan Ddysg bellach yn ddibynnol ar gyflenwad nwy gan fod Paneli Haul a Phwmp Gwres o'r Awyr yn darparu ynni a gwres i'r adeilad.

Mae goleuadau LED effeithlon o ran ynni hefyd wedi'u gosod.

Nid yn unig y mae'r gwaith uwchraddio wedi lleihau effaith yr adeilad ar yr amgylchedd, mae hefyd wedi gwella'r cysur a'r profiad i'r rhai sy'n gweithio ac yn dysgu yn yr adeilad.

Plannu coed 

Er mwyn helpu i wella amgylchedd naturiol awdurdod Sir Caerfyrddin a chynyddu bioamrywiaeth, trefnodd Tîm Cadwraeth Wledig ac Adran Eiddo y Cyngor i blannu dros 8,000 o goed llydanddail brodorol i greu 4.5 hectar o goetir newydd ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor yn Nhre-gib (Llandeilo), Pendre (Cydweli) a Maesdewi (Llandybïe). Cynhaliwyd diwrnodau plannu cymunedol, gan gynnwys diwrnod ar gyfer disgyblion o Ysgol Gynradd Llandybïe, ar ddau o'r safleoedd.

Nid yn unig y bydd y coed yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd trwy amsugno carbon deuocsid o'r atmosffer yn ystod ffotosynthesis, bydd y coetiroedd newydd yn darparu cynefinoedd newydd i fywyd gwyllt ac felly hefyd yn cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng natur a dod yn lleoedd lle gall pobl fwynhau natur.

Cynlluniau Meithrinfa Goed yn ein canolfannau dydd 

Mae cynlluniau wedi'u creu gan dimoedd Cymunedau a Chadwraeth y Cyngor, gyda chymorth yr Ardd Fotaneg, ar gyfer datblygu Meithrinfa Goed a thiroedd sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt yng Nghanolfan Ddydd Tre Ioan. Gyda chymorth ariannol o'r cynllun ariannu 'Lleoedd ar gyfer Natur', bydd yr ardd yn cynnwys ardal dyfu awyr agored hygyrch, gardd synhwyraidd, gardd goetiroedd, gardd gors, dolydd a pherllan. Er bod y prosiect yn cael ei gynnal yng nghanolfan Tre Ioan, bydd yn cynnwys yr holl wasanaethau dydd drwy gasglu a phlannu hadau brodorol. Mae yna gynlluniau hefyd ar y gweill i gynnal prosiect tebyg yng Nghanolfan Ddydd Ffordd y Faenor. Bydd yr ardd nid yn unig yn gwella bioamrywiaeth yr ardal, ond bydd hefyd yn ofod diogel a hygyrch i bawb ei fwynhau.

Pryfed Peillio 

Dros nifer o flynyddoedd, ar draws Prydain, bu dirywiad enfawr mewn pryfed sy'n peillio blodau a chnydau sef pryfed peillio.  Mae Cyngor Sir Caerfyrddin ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd o reoli glaswelltir a fydd yn ei wneud yn gyfoethocach mewn blodau gwyllt ac yn fwy deniadol i bryfed peillio. Yn syml, trwy dorri'n llai aml, gall blodau sydd eisoes yn tyfu yn y glaswellt flodeuo a chynnal pryfed hefyd. Nid oes angen hau hadau blodau gwyllt. Yr haf diwethaf, arbrofodd y Cyngor gyda'r dull newydd hwn, a chafodd groeso mawr gan drigolion a oedd wedi mwynhau gweld y glaswelltiroedd yn drwch o flodau.

Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Owen, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd.Yr wythnos hon, mae sylw Cymru ar Eisteddfod yr Urdd a ni, Sir Gaerfyrddin, yw'r sir nawdd. Mae'n gyfle ardderchog felly i ni ddangos ein bwriad clir i leihau allyriadau carbon ar draws pob agwedd o'r sir er mwyn rhoi sir iach a chynaliadwy i'n plant ac i blant ein plant. 

“Ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad ein bod yn gofyn i bobl gefnogi ein hachos a llofnodi’r wal addunedau yn ystod Eisteddfod yr Urdd, sef gŵyl ieuenctid fwyaf Cymru, i hoelio sylw pobl ar pam ac ar ran pwy yr ydym yn gwneud hyn.”