Datganiad Cwm Aur

389 diwrnod yn ôl

Yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar gyllideb y Cyngor, mae'r Cyngor wedi cytuno i newid y gwasanaeth gofal ychwanegol sy'n cael ei ddarparu yng Nghwm Aur yn Llanybydder. Yn y gorffennol mae'r Cyngor wedi arfer comisiynu Grŵp Pobl i ddarparu elfen gofal ychwanegol y gwasanaeth hwn. Er gwaethaf pob ymdrech i gynnig darpariaeth o'r fath, mae nifer y preswylwyr yng Nghwm Aur sydd angen gofal ychwanegol wedi parhau'n fach iawn ers nifer o flynyddoedd. Felly, yn dilyn adolygiad o'r gwasanaeth mewn ymgynghoriad â Grŵp Pobl, mae'r ddwy ochr wedi cytuno bod modd darparu anghenion gofal y preswylwyr mewn ffordd sy'n fwy cynaliadwy.

O ganlyniad, cytunwyd i newid y model i un lle na fydd gofal bellach yn cael ei ddarparu gan Grŵp Pobl fel sefydliad, ond yn hytrach, bydd gwasanaeth cartref yn cael ei drefnu naill ai gan y Cyngor neu asiantaeth gofal cartref allanol sy'n darparu gofal yn yr ardal.

Mae anghenion yr holl breswylwyr y mae hyn yn effeithio arnynt wedi cael eu hasesu gan dimau gwaith cymdeithasol y Cyngor, ac mae'r Cyngor wrthi'n rhoi trefniadau eraill ar waith i ddarparu'r gofal.

Mae pob tenantiaeth yn ddiogel, felly ni fydd yn rhaid i unrhyw breswylydd symud a bydd gofal yn dal i gael ei ddarparu yn unol â'u hanghenion asesedig. Mae Grŵp Pobl yn y broses o adolygu sut bydd yn cyflawni ei gyfrifoldebau fel landlord, o ran cymorth ar y safle ar gyfer cymorth nad yw'n ymwneud â gofal, ac mae'r Cyngor wedi cytuno i gyfrannu'n ariannol o hyd er mwyn cefnogi hyn.

Mae'r cynnig hwn yn effeithio ar staff a gyflogir gan Grŵp Pobl, ac rydym yn gwybod bod Grŵp Pobl wedi cyflwyno hysbysiadau diswyddo i'r staff hyn. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol fod rhai o'r staff wedi llwyddo i gael swyddi eraill, ac mae'r Cyngor wedi rhoi rhestr o swyddi gwag o fewn y Cyngor i Grŵp Pobl, i'w staff fwrw golwg arnynt. Fel cyflogwr mawr, mae gan Grŵp Pobl hefyd gyfleoedd adleoli ar gael i'w staff.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Jane Tremlett: "Mae Cyngor Sir Gâr yn sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd a phryderus i breswylwyr a staff Cwm Aur. Fel yn achos unrhyw newid, mae'r cyfnod pontio bob amser yn anodd, a bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r preswylwyr, eu teuluoedd a Grŵp Pobl i reoli'r newid hwnnw'n effeithiol.

"Er bod y newid yn golygu model gofal gwahanol i'r preswylwyr, mae'r Cyngor yn hyderus y bydd darparwyr eraill ar gael i reoli'r gofal hwnnw, ac na fydd unrhyw breswylydd heb ofal pan ddaw'r cytundeb gyda Grŵp Pobl i ben.

"Bydd y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Grŵp Pobl i ddatrys y sefyllfa'n llwyddiannus."