Benthyciad Canol Dref yn datgloi busnes newydd yn Llanelli

388 diwrnod yn ôl

Mae'r cwmni Tinworks Brewing Company o Lanelli wedi agor ystafell tap a pizzeria newydd yn ddiweddar o'r enw Tinhouse, yn Vaughan Street, Llanelli gyda chymorth Benthyciad Canol Tref wedi ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Dyfarnwyd benthyciad o £143,812 i'r cwmni i adfywio adeilad gwag yng nghanol y dref yn ofod masnachol newydd i ddarparu ar gyfer eu menter newydd ac i droi'r fflatiau preswyl i fyny'r grisiau yn bedair uned swyddfa.

Mae'r benthyciad o ganol y dref, a ariennir trwy Gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac a ddarperir yn lleol gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gael i bob un o'r 14 tref yn y sir, i gymell a galluogi adnewyddu eiddo ac adeiladu o'r newydd drwy gynnig benthyciadau di-log i berchnogion eiddo, datblygwyr, buddsoddwyr ac ati, a fydd yn ei dro yn annog defnydd cynaliadwy o safleoedd gwag a safleoedd segur sydd wedi eu tanddefnyddio a'u diswyddo. Bydd yr ymyrraeth hon yn arwain at greu gofod llawr canol trefi ar gyfer defnydd masnachol, hamdden a phreswyl. Mae benthyciadau di-log rhwg £25,000 and £1M ar gael am ceisiadau.

Dywedodd yr aelod cabinet dros adfywio, y Cynghorydd Gareth John "Roedd yn hyfryd gweld fy hun, fod y Benthyciad Canol Tref yn cael effaith yng nghanol tref Llanelli. Hoffwn longyfarch Matthew, sydd wedi cymryd cam beiddgar a chadarnhaol iawn wrth agor y Tinhouse, yn yr hyn sy'n gynnig ychwanegiad trawiadol i ganol y dref. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i'w fusnes ar gyfer y dyfodol. Gobeithio y bydd hwn yn un o nifer o fusnesau newydd i fanteisio ar yr arian benthyg sydd ar gael i adfywio canol trefi 14 yn Sir Gaerfyrddin."

Ychwanegodd Matthew Stevenson, cyfarwyddwr Cwmni Bragu Tinworks "Rwyf yn wirioneddol ddiolchgar i Gyngor Sir Caerfyrddin am roi'r benthyciad Cano Tref i mi. Heb eu cefnogaeth, ni fyddai'r Tinhouse yn bosib. Mae'n anhygoel gweld sut mae'r cyngor wedi ymrwymo i dwf a datblygiad y dref, ac mae'n anrhydedd i mi fod yn rhan o'r fenter hon. Diolch am ein helpu ni i droi ein gweledigaeth yn realiti!"

Mae manylion am y Benthyciad o ganol trefi i'w cael ar Cronfa Benthyciadau Canol Trefi (llyw.cymru)