Lansio ymgynghoriad Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag

460 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgynghori â'i drigolion ynghylch adolygu Cynllun Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi.

Cliciwch yma i ganfod yr ymgynghoriad ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag.

Mae pryderon wedi cael eu codi ar lefel lleol a chenedlaethol ynglŷn ag effaith ganfyddedig y niferoedd cynyddol o ail gartrefi ac eiddo gwag ar ein cymunedau.

Mae'r Cyngor yn gweithio i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin ac yn cynnig Darpariaeth y Dreth Gyngor ar eiddo sydd ar y cyfan yn wag, ailddefnyddio eiddo gwag tymor hir a darparu cartrefi diogel a fforddiadwy a fydd yn gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol. 

Mae tua 1,300 o eiddo yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hystyried yn eiddo gwag tymor hir tra bod tua 860 wedi eu cofrestru fel ail gartrefi yn y sir. Mae hyn yn cyfateb i 2.5% o'r holl eiddo domestig yn Sir Gaerfyrddin a allai fod yn atebol i’r tâl premiwm.

Mae ymchwil Llywodraeth Cymru yn 2021 yn dangos bod ail gartrefi yn gallu cynyddu’r galw am dai gan gynyddu prisiau eiddo lleol o ganlyniad. Ochr yn ochr â chwyddiant prisiau tai, yr effaith uniongyrchol mwyaf clir o ran ail gartrefi yw lleihau'r stoc dai.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddull ag iddo dair rhan i fynd i'r afael â'r "argyfwng ail gartrefi”. Mae'r dull yn ei hanfod yn decach, i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad i dai fforddiadwy o ansawdd da.

Mae'r dull tair rhan yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • cymorth - mynd i'r afael â fforddiadwyedd ac argaeledd cartrefi,
  • fframwaith a system reoleiddio - sy'n ymdrin â'r gyfraith gynllunio ac yn cyflwyno cynllun cofrestru statudol ar gyfer llety gwyliau;
  • cyfraniad tecach - defnyddio systemau trethiant cenedlaethol a lleol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i'r cymunedau lle maent yn prynu eiddo.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datganoli pwerau disgresiwn i awdurdodau lleol i godi, neu amrywio premiwm y dreth gyngor o hyd at 300% yn uwch na chyfradd safonol y dreth gyngor ar ddosbarthiadau penodol o ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir.

Ar hyn o bryd, nid yw'r Cyngor yn defnyddio cynllun premiwm y dreth gyngor; codir cyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir ar hyn o bryd .

Ar hyn o bryd, mae 11 awdurdod lleol yng Nghymru yn defnyddio cynllun premiwm gyda lefel y premiwm a osodwyd gan bob awdurdod yn amrywio o 25% i 100%. 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Rydyn ni am wneud ein cymunedau yn llefydd tecach i fyw i'n trigolion ac yn enwedig ein pobl ifanc. Er mwyn cyflawni hyn mae angen darparu mwy o dai fforddiadwy yn ein cymunedau i gadw ein pobl ifanc yn byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin a dyma pam yr ydym yn cynnig cyflwyno Premiwm y Dreth Gyngor ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi yn ein sir.

“Mae'n rhaid i ni sicrhau tegwch i bawb ac rydym nawr yn ymgynghori ar hyn i glywed barn pobl am ein dull diweddaraf o fynd ati i ailddefnyddio  eiddo gwag tymor hir.”

“Drwy fynd i'r afael â'r mater o eiddo gwag yn Sir Gaerfyrddin, gallwn helpu i fynd i'r afael â phroblemau tai drwy ddarparu llety ychwanegol

“Er mwyn mynd i'r afael â'r effaith y mae ail gartrefi yn ei chael ar ein stoc dai, bydd Premiwm y Dreth Gyngor yn caniatáu i berchnogion ail gartrefi wneud cyfraniad tecach i'r gymuned leol, drwy ffrwd refeniw ychwanegol i gefnogi gwasanaethau'r Cyngor y maen nhw'n elwa arnynt.

“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn gymhelliant i ailddefnyddio anheddau sy'n cael eu defnyddio o bryd i'w gilydd, neu sy'n segur ond wedi'u dodrefnu fel cartref arferol ac eithrio eiddo sy'n anaddas ar gyfer defnydd gydol y flwyddyn.”

Agorodd yr ymgynghoriad ynghylch Premiwm y Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag ar 17 Ionawr ac mae'n caniatáu i bobl leisio barn ar gynigion y Cyngor.

Gall pobl rannu eu sylwadau ar-lein www.sirgar.llyw.cymru/ymgynghoriadau neu drwy fynd i un o ganolfannau Hwb gwasanaeth cwsmeriaid y Cyngor yng nghanol trefi Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben am 5pm ddydd Gwener, 17 Chwefror 2023.