Lansio Prosiect Zero Sir Gâr i'n helpu i daclo newid hinsawdd gyda'n gilydd

589 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cryfhau ei ymrwymiad i daclo newid hinsawdd drwy lansio ymgyrch newydd fel rhan o'i darged carbon sero-net.

Bydd Prosiect Zero Sir Gâr yn tynnu sylw at bob ymdrech sy'n parhau i gael ei gwneud wrth i'r awdurdod weithio tuag at fod yn gwbl garbon niwtral erbyn 2030.

Bydd yn cynnwys miloedd o staff y cyngor, plant ysgol lleol, busnesau a thrigolion a’r gobaith yw ysbrydoli ac annog pawb i chwarae eu rhan i daclo newid hinsawdd drwy leihau ôl troed carbon Sir Gaerfyrddin.

Bydd pob ymdrech a newid a wneir – boed yn fawr neu'n fach – yn helpu tuag at y targed o ddod yn garbon sero-net.

Mae Prosiect Zero Sir Gâr yn galw ar bobl i wneud newidiadau, rhannu syniadau, a dechrau sgyrsiau gartref, mewn siopau a swyddfeydd, mewn ystafelloedd dosbarth ac ar y cyfryngau cymdeithasol i annog pawb i gydweithio i daclo newid hinsawdd.

Bydd plant ysgol yn cael eu hannog i fod yn Archarwyr Prosiect Zero drwy ddysgu am y mater a chymryd camau cadarnhaol yn yr ysgol ac yn eu cartrefi i helpu i ddiogelu'r blaned ar gyfer eu dyfodol.

Mae'r prosiect wedi'i lansio ar ddiwrnod cyntaf COP26, sef uwchgynhadledd fyd-eang ar gyfer gweithredu er budd yr hinsawdd sy'n cael ei chynnal dros y bythefnos nesaf yn y DU.

Mae COP26 yn dod ag arweinwyr y byd at ei gilydd i daclo newid hinsawdd, cyfyngu ar gynhesu byd-eang a lleihau allyriadau carbon fel rhan o weithredu ar y cyd.

Ym mis Chwefror 2019, Cyngor Sir Caerfyrddin oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030. Ers hynny, dyma’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu carbon sero-net a gymeradwywyd gan y cyngor llawn ym mis Chwefror 2020.

Bydd Prosiect Zero Sir Gâr yn codi ymwybyddiaeth o'r hyn y mae'r cyngor eisoes yn ei wneud ac yn ysgogi mwy o weithredu gan staff, preswylwyr, busnesau ac ysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y portffolio newid hinsawdd, fod hwn yn gyfle i bawb gymryd rhan a gwneud newid go iawn er lles cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'n rhaid i ni i gyd weithredu nawr - mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar Sir Gaerfyrddin," meddai. “Gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth. Gallai fod mor syml â throi ein thermostat i lawr gradd, diffodd ein goleuadau pan nad oes eu hangen, neu ailgylchu cymaint ag y gallwn.
“Drwy lansio Prosiect Zero Sir Gâr rydym am ysbrydoli pobl i weithredu ar y cyd. Bydd y gweithredoedd lleiaf gyda'i gilydd yn arwain at wneud gwahaniaeth mawr.
“Fel awdurdod, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo'n llwyr i ddod yn garbon sero-net erbyn 2030. Rydym eisoes wedi cymryd camau cadarnhaol tuag at hyn ond rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy. Mae angen i bawb - ein staff, ein trigolion, busnesau ac ysgolion - ddod at ei gilydd a gwneud mwy.
“Siaradwch â'ch gilydd, addysgwch eich hun ar newid hinsawdd a chymerwch gamau cadarnhaol. Dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wneud er mwyn i ni rannu syniadau ac ysbrydoli eraill - gallwn wneud hyn os byddwn i gyd yn gweithio gyda'n gilydd.”

Mae gweithredoedd Cyngor Sir Caerfyrddin tuag at ddod yn garbon sero-net net yn cwmpasu pob rhan o'i wasanaethau - bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu fel rhan o lansiad Prosiect Zero Sir Gâr yn ystod pythefnos COP26.

Mae'n cynnwys popeth o sicrhau bod pob prosiect adeiladu newydd mawr megis cartrefi ac ysgolion yn effeithlon o ran ynni ac yn ymgorffori ynni adnewyddadwy, ail-ffitio adeiladau hŷn gydag ystod eang o fesurau arbed ynni, gan gynnwys paneli solar ffotofoltäig, gosod goleuadau LED newydd, rheolyddion goleuadau, inswleiddio pibellau, gwella adeiladwaith adeiladau, uwchraddio boeleri a thechnoleg arbed dŵr a gwres.

Yn ogystal â chaffael yr holl drydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy, mae'r Cyngor wedi ymdrechu mewn ffyrdd eraill i leihau allyriadau carbon gan gynnwys newid goleuadau stryd i olau LED ynni isel ac uwchraddio ei fflyd i gynnwys ceir trydan a cherbydau sbwriel a graeanu sy'n fwy effeithlon o ran ynni.

Mae'r awdurdod hefyd yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau newid ehangach, ac mae'n archwilio cyfleoedd i blannu coed a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar dir sy'n eiddo i'r cyngor.

  • Dechreuwch sgyrsiau a rhannu syniadau ar-lein gan ddefnyddio #ProsiectZeroSirGâr