Gwybodaeth am Covid-19

224 diwrnod yn ôl

Gan fod cyfyngiadau Covid-19 wedi dod i ben, rydym am annog pobl ledled Sir Gaerfyrddin i gynnal ymddygiadau amddiffynnol allweddol – i gadw eu hunain a'r bobl o'u cwmpas yn ddiogel.

Mae camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i helpu i leihau'r risg o ddal COVID-19, a heintiau anadlol eraill, megis y ffliw, a'u trosglwyddo i eraill.

Mae gan wefan Llywodraeth Cymru wybodaeth am sut gallwch gadw'n ddiogel - darllenwch y canllawiau cyfredol.

Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn ddiogel ac i reoli lledaeniad Covid-19 yn ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pawb yn gryf i ddilyn y mesur hyn i gadw'n ddiogel:

Mae gwybodaeth ar gael am y gefnogaeth sydd ar gael i chi, eich cymuned, neu eich busnes, gan gynnwys atebion i gwestiynau cyffredin - os na allwch ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch, cysylltwch â ni drwy'r tab 'gofyn cwestiwn'.