Y Diweddaraf am Coronafeirws COVID-19
Dechrau rhoi pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref yng Nghymru
Mae’r broses o gyflwyno pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref wedi dechrau (1 Medi) yng Nghymru gyda phreswylwyr a staff cartrefi gofal ledled Cymru y rhai cyntaf i gael y brechlyn.
Bydd pawb sy’n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu yr hydref yn cael eu gwahodd am frechiad gan eu byrddau iechyd. Bydd gwahoddiadau’n cael eu rhoi yn nhrefn y rhai mwyaf agored i niwed, gyda phawb sy’n gymwys yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu erbyn diwedd mis Rhagfyr.
Gwahodd oedolion cymwys yng Nghymru i gael pigiad atgyfnerthu’r hydref
Yr wythnos hon mae oedolion cymwys yng Nghymru wedi dechrau cael eu gwahodd i gael eu pigiad atgyfnerthu’r hydref ar gyfer COVID-19.
Bydd y brechiadau’n cael eu rhoi o ddechrau mis Medi 2022 ymlaen i helpu i atgyfnerthu imiwnedd pobl sydd â risg uwch yn sgil COVID-19, gan eu diogelu yn well rhag salwch difrifol, ac i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod gaeaf 2022-23.
Trefniadau pontio’r cynllun Profi Olrhain Diogelu
O ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf, gan gynnwys gostyngiad yn nifer yr achosion, o 1 Awst ymlaen byddwn yn rhoi’r gorau i ddarparu profion llif unffordd am ddim i’r cyhoedd sydd â symptomau COVID-19. Mae hyn yn cyd-fynd â’n cynllun pontio hirdymor COVID-19 Cymru o bandemig i endemig, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth. Mae hefyd yn sicrhau ein bod yn diogelu adnoddau ar gyfer tonnau posibl yn y dyfodol yn ystod yr hydref/gaeaf a allai, ochr yn ochr â thywydd oerach a firysau anadlol eraill, ddarparu heriau a risgiau ychwanegol.
Y Prif Swyddog Meddygol yn atgoffa pobl o’r cyngor i atal lledaeniad coronafeirws
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton, yn atgoffa pobl i ddilyn camau syml i amddiffyn eu hunain rhag y risg o ddal COVID-19.
Mae'r rhain yn cynnwys cael eich brechu, gwisgo masgiau wyneb mewn mannau caeedig gorlawn a chymryd prawf llif unffordd os oes gennych symptomau.
Daw ei sylwadau wrth i achosion coronafeirws gynyddu unwaith eto yng Nghymru. Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod gan un person ym mhob 30 COVID-19.
Mae achosion o'r isdeipiau omicron BA.4 a BA.5 wedi cynyddu ledled y DU. BA.5 bellach yw’r prif fath ar draws Cymru.
Atgoffa pobl Cymru i gael eu pigiad atgyfnerthu
Mae’r bobl sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn cael eu hannog i gael eu brechu cyn y dyddiad pan ddaw’r cynnig i ben, sef dydd Iau 30 Mehefin.
Ers diwedd mis Mawrth, mae pobl 75 oed a hŷn, preswylwyr mewn cartrefi gofal, ac unrhyw un sy’n 12 oed neu hŷn ac sydd â system imiwnedd gwan wedi gallu cael pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn i wella eu lefel o amddiffyniad yn erbyn COVID-19.
Cymru yn ymestyn profion COVID-19 drwy gydol mis Gorffennaf
Heddiw (dydd Gwener 24 Mehefin), mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi cadarnhau y bydd profion LFD am ddim yn dal i fod ar gael yn awr yng Nghymru tan 31 Gorffennaf 2022.
Bydd profion ar gael i'r cyhoedd sy'n dangos symptomau o’r coronafeirws (tymheredd uchel, peswch cyson sy’n newydd, newid yn eu synnwyr o arogl neu flas neu eu colli yn llwyr), a bydd profion hefyd ar gael am ddim i bobl sy'n ymweld â rhywun sy'n gymwys i gael triniaethau newydd ar gyfer COVID-19. Bydd cartrefi gofal hefyd yn parhau i gael profion am ddim i ymwelwyr.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cynnydd mewn achosion, gydag arolwg diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi cynnydd mewn achosion ar draws y DU. Amcangyfrifir bod gan 1 o bob 45 o bobl yng Nghymru COVID-19 ar hyn o bryd. Mae ymddangosiad is-amrywiolion BA.4 a BA.5 hefyd yn cyfrannu at y cynnydd hwn wrth iddynt ddod yn fwy amlwg ledled y DU.
Dod â rheoliadau coronafeirws i ben yng Nghymru
Ar ôl mwy na dwy flynedd o fyw gyda rheoliadau coronafeirws, daw'r rhain i ben ddydd Llun 30 Mai pan ddaw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal i ben.
Ond bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i argymell bod pobl yn cymryd camau syml i ddiogelu eu hiechyd – gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal – wrth i Gymru symud y tu hwnt i’r ymateb argyfwng i’r pandemig.
Newidiadau i wyliadwriaeth Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn newid y ffordd y mae'n cyflwyno adroddiadau ar ddata Covid-19 wrth i ni symud allan o'r pandemig.
O ddydd Iau 26 Mai bydd adroddiadau dyddiol yn dod i ben, a bydd dangosfwrdd wythnosol ar ei newydd wedd yn cael ei gyhoeddi bob dydd Iau am 12pm.
Cadw’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
Bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn parhau ar waith i helpu i ddiogelu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ogystal â staff ac ymwelwyr.
Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 26 Mai.
Yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau coronafeirws
Bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod mewn grym am y tair wythnos nesaf, gan barhau i ddiogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn sgil y coronafeirws.
Ond bydd y gofyniad cyfreithiol i fusnesau gynnal asesiadau risg penodol i’r coronafeirws yn dod i ben ddydd Llun 18 Ebrill. Bydd busnesau’n parhau i gael eu hannog i gymryd camau i weithredu mewn modd diogel o ran Covid.
Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 5 Mai.
Newidiadau i drefniadau profi a mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn cartrefi gofal
Heddiw, mae Cynllun Pontio Gofal Cymdeithasol newydd yn cael ei gyhoeddi. Bydd y cynllun hwn yn nodi trefniadau newydd ar gyfer cartrefi gofal rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.
Newidiadau i wasanaeth Profi Olrhain Diogelu
Heddiw, mae amserlen yn cael ei chyhoeddi ar gyfer newidiadau i wasanaeth Profi Olrhain Diogelu Cymru, fel rhan o gynlluniau ehangach i symud yn raddol y tu hwnt i’r ymateb brys i’r pandemig. Diben y newidiadau i’r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yw diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed, gan leihau eu risg o gael eu heintio, a sicrhau bod capasiti profi yn cael ei gynnal i fonitro brigiadau o achosion a chanfod unrhyw amrywiolion newydd.
Mae’r prif newidiadau i’r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn cynnwys:
- O 28 Mawrth ymlaen, bydd pobl yn cael eu cynghori’n gryf i hunanynysu os oes ganddynt Covid. Bydd taliadau cymorth hunanynysu o £500 yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin.
- 30 Mawrth yw’r diwrnod olaf y gall y cyhoedd archebu profion PCR os oes ganddynt symptomau.
- O 31 Mawrth ymlaen, bydd pob safle profi PCR yng Nghymru yn cau.
- Bydd profion llif unffordd am ddim i brofi pobl asymptomatig yn rheolaidd mewn gweithleoedd yn dod i ben 31 Mawrth, ac eithrio ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
- Bydd profion llif unffordd am ddim i brofi aelodau o’r cyhoedd sy’n asymptomatig yn rheolaidd yn dod i ben 31 Mawrth.
- O 1 Ebrill ymlaen, os oes gennych symptomau COVID dylech ddefnyddio prawf llif unffordd i weld a oes gennych COVID. Gellir archebu’r rhain yn gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu drwy ffonio 119. Os byddwch yn profi’n bositif, dylech roi gwybod am eich canlyniad yn www.gov.uk/cofnodi-canlyniad-covid19 ac ynysu am o leiaf bum diwrnod llawn a chymryd profion llif unffordd ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech (os yw’r ddau’n negatif) cyn gorffen eich cyfnod ynysu.
- O 1 Ebrill ymlaen, dim ond pobl sy’n gymwys ar gyfer triniaethau COVID-19 fydd yn gallu archebu profion PCR i’w gwneud gartref.
- Bydd profion asymptomatig rheolaidd mewn lleoliadau gofal plant ac addysg, ac eithrio darpariaeth addysg arbennig, yn dod i ben ar ddiwedd y tymor (8 Ebrill).
Covid-19 canllawiau cyfredol - 28 Mawrth, 2022
O heddiw, Dydd Llun 28 Mawrth:
- Bydd gorchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol o hyd mewn mannau iechyd a gofal cymdeithasol ond nid siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus, er yn dal i gael eu hargymell
- Nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i chi hunanynysu ond fe'ch cynghorir yn gryf i wneud hynny os ydych yn sâl.
- Fydd dim gofyniad na chyngor i gysylltiadau agos hunanynysu mwyach
- Diwrnod olaf y gall y cyhoedd archebu citiau profi PCR i’w cartrefi
- Rhaid i weithleoedd a safleoedd sy’n agored i'r cyhoedd barhau i gynnal asesiadau risg coronafeirws
Dull gofalus o ddiogelu rhag y coronafeirws i barhau
O ddydd Llun ymlaen, ni fydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mwyach yn ôl y gyfraith mewn lleoliadau manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er y byddant yn parhau i gael eu hargymell mewn cyngor iechyd cyhoeddus.
Bydd y gofyniad i hunanynysu hefyd yn symud i fod yn ganllawiau. Bydd taliad hunanynysu o £500 i gefnogi pobl yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin.
Fodd bynnag, bydd dau amddiffyniad cyfreithiol allweddol yn parhau ar waith gan fod achosion o'r coronafeirws wedi codi'n sydyn yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi'u hysgogi gan is-deip BA.2 o'r amrywiolyn Omicron.
Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid i fusnesau hefyd barhau i gynnal asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws, gyda mesurau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith yn sgil yr asesiadau hynny.
Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 14 Ebrill, pan fydd y mesurau cyfreithiol sy'n weddill yn cael eu hadolygu.
Cymru’n dechrau rhoi brechiadau atgyfnerthu ar gyfer y gwanwyn o'r wythnos hon
Mae brechiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn cael eu cyflwyno yng Nghymru o'r wythnos hon.
Yn y cyfnod diweddaraf hwn o’r rhaglen frechu bydd pobl dros 75 oed, pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ac unigolion 12 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan yn cael gwahoddiad i fynd am eu brechiad atgyfnerthu.
Yn ogystal, bydd pant 5 i 11 oed yn dechrau cael cynnig eu brechlyn cyntaf o heddiw ymlaen hefyd. Bydd angen i rieni a gwarcheidwaid roi caniatâd iddyn nhw gael y brechlyn.
Datganiad Ysgrifenedig: Teithio Rhyngwladol
Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Rwy’n hynod o siomedig bod Llywodraeth y DU yn bwriadu dileu’r holl fesurau sy’n weddill ar y ffin, gan gynnwys cael gwared â’r ffurflen lleoli teithwyr a gofynion profi.
Serch hynny, oherwydd yr anawsterau ymarferol sylweddol a fyddai’n cael eu hachosi gan drefniadau gwahanol i’r rhai yn Lloegr yn y maes hwn – mae nifer sylweddol o deithwyr o Gymru yn defnyddio meysydd awyr a phorthladdoedd Lloegr – rydym, yn anfoddog, yn parhau i gadw cysondeb â’r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU ac y cytunodd y llywodraethau datganoledig eraill arnynt.
Adolygiad tair wythnos Covid-19
Bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf, gyda’r lefel bresennol o fesurau diogelu mewn grym. Ond gallai’r holl fesurau cyfreithiol gael eu dileu o 28 Mawrth ymlaen, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn aros yn sefydlog.
Cynhelir yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws erbyn 24 Mawrth, pan gaiff gweddill y mesurau cyfreithiol ar lefel rhybudd sero eu hadolygu.
Datganiad gan y Llywodraeth Cymru: Cynllun Tymor Hir i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws
Codi’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do
Heddiw, mae’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do wedi dod i ben.
Mae’r newid hwn yn golygu na fydd gofyniad cyfreithiol bellach ar bobl i wisgo gorchuddion wyneb mewn ystod o leoliadau o dan do, gan gynnwys sinemâu, theatrau, canolfannau cymunedol, amgueddfeydd a champfeydd.
Er hyn, bydd gwisgo gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i oedolion a phlant sy’n 11 oed ac yn hŷn, os nad ydynt wedi’u heithrio, ym mhob lleoliad manwerthu ac mewn rhai lleoliadau eraill gan gynnwys busnesau trin gwallt a harddwch, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.
Brechu rhag COVID-19 – Cynnig ail frechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn i’r rhai mwyaf agored i niwed
Heddiw, fel rhan o'i adolygiad diweddaraf o'r rhaglen frechu, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi datganiad sy'n argymell dos atgyfnerthu ychwanegol yn y gwanwyn i'n hunigolion mwyaf agored i niwed.
Dim angen pas COVID mwyach ar gyfer digwyddiadau dan do ac awyr agored
Mae Llywodraeth Cymru wedi diddymu’r gofyn i ddangos pas COVID i fynd i rai digwyddiadau yng Nghymru, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.
Hynny wrth i Lywodraeth Cymru barhau i godi rhai o’r cyfyngiadau covid ac i achosion barhau i ostwng.
O heddiw, ni fydd angen y Pas COVID domestig arnoch i fynd i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do ac awyr agored mwyach, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond os bydd y lleoliad neu’r digwyddiad ei hun am fynnu pas, mae croeso iddyn nhw wneud hynny.
Datganiad Llywodraeth Cymru yn llawn
Llacio mesurau diogelu coronafeirws wrth i achosion leihau
Bydd Cymru yn dechrau llacio’n raddol rai o’i mesurau diogelu coronafeirws sydd dal mewn grym wrth i achosion barhau i leihau.
O ddydd Gwener 18 Chwefror ymlaen, ni fydd y Pás COVID domestig yn ofynnol bellach ar gyfer mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do neu awyr agored, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond bydd digwyddiadau a lleoliadau yn gallu parhau i’w ddefnyddio os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Bydd y Pás COVID rhyngwladol yn parhau i fod yn rhan annatod o drefniadau ar gyfer teithio rhyngwladol mwy diogel. Bydd angen i deithwyr edrych ar reolau’r wlad berthnasol ynghylch mynediad, gan gynnwys unrhyw ofynion gwahanol i blant.
O ddydd Llun 28 Chwefror ymlaen, bydd y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn cael ei ddileu yn y rhan fwyaf o lefydd dan do, ac eithrio mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.
Os yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i wella, gallai’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb gael ei ddileu yn yr holl leoliadau sy’n weddill erbyn diwedd mis Mawrth.
Bydd ysgolion yn dychwelyd at ddefnyddio eu fframwaith penderfynu lleol o 28 Chwefror ymlaen. Yn ogystal, o 11 Chwefror ymlaen, bydd y canllawiau yn cael eu diweddaru er mwyn ei gwneud yn glir y gall oedolion dynnu eu gorchudd wyneb pan fyddant yn rhyngweithio â babanod a phlant bach mewn grwpiau i’r oedrannau hynny.
Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 3 Mawrth, pan fydd yr holl fesurau lefel rhybudd sero fydd yn parhau mewn grym yn cael eu hadolygu.
Datganiad llawn: Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford
Cronfa Adferiad Diwylliannol
Mae trydydd rownd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru yn agor ar gyfer ceisiadau heddiw, ac y tro hwn bydd busnesau a sefydliadau nad ydynt wedi derbyn cymorth o'r blaen o dan y gronfa yn gymwys i wneud cais.
Datganiad llawn: Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden
Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero
Mae Cymru ar lefel rhybudd 0. Mae hyn yn golygu’r canlynol:
- Gall clybiau nos ailagor
- Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sy’n agored i’r cyhoedd a phob gweithlu yn cael ei ddileu
- Ni fydd y rheol chwe pherson yn berthnasol mwyach wrth ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, fel safleoedd lletygarwch, sinemâu a theatrau
- Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig a chasglu manylion cyswllt mwyach
- Bydd angen cael Pàs Covid o hyd i fynd i ddigwyddiadau dan do mawr, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd
- Bydd gweithio gartref yn dal i fod yn bwysig ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach
- Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol i’r coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau ei ledaeniad, a all gynnwys pellter cymdeithasol o 2m neu fynediad dan reolaeth
Bydd y rheolau ar gyfer gwisgo gorchudd wyneb, sy’n gymwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn y rhan fwyaf o leoliadau dan do cyhoeddus, yn parhau i fod mewn grym ar ôl 28 Ionawr, gyda lleoliadau yn y diwydiant lletygarwch fel bwytai, tafarnau, caffis a chlybiau nos wedi’u heithrio.
Rhaid i bawb hefyd barhau i hunanynysu os ydynt yn profi’n bositif am y coronafeirws ond mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau’r cyfnod hunanynysu o saith diwrnod i bum diwrnod llawn.
Cynghorir i bobl gymeryd dau brawf llif unffordd negatif 24 awr ar wahan ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech. Bydd y cynllun cymorth hunanynysu yn dychwelyd i’r gyfradd wreiddiol o £500 ar gyfer pawb sy’n gymwys.
Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 10 Chwefror, pan fydd holl fesurau lefel rhybudd sero yn cael eu hadolygu.
Mae gan wefan Llywodraeth Cymru wybodaeth am sut gallwch gadw'n ddiogel - darllenwch y canllawiau cyfredol.
Lleihau’r cyfnod hunanynysu
Bydd pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn cael rhoi’r gorau i hunanynysu ar ôl pum diwrnod llawn os ydynt wedi cael dau brawf llif unffordd negatif. Dyna yw’r cadarnhad gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan heddiw.
Rhaid i’r ddau brawf llif unffordd negatif gael eu cymryd ar ddau ddiwrnod yn olynol, ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech o’r cyfnod hunanynysu.
Gwneir y newidiadau hyn ar ôl archwiliad trylwyr o’r dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a bydd Cymru’n ymuno â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig sydd eisoes wedi rhoi’r newid hwn ar waith.
Daw’r newid hwn i rym o 28 Ionawr, pan ddisgwylir i Gymru gwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero.
Bydd cyfnod hunanynysu byrrach yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau drwy leihau’r pwysau ar y gweithlu o ganlyniad i absenoldebau staff cysylltiedig â COVID.
Gweithrediadau'r ysgol
Mae Jeremy Miles AS, y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cyhoeddi, os yw'r dystiolaeth yn ei gefnogi, y bydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau yn yr adolygiad tair wythnos nesaf ar 10 Chwefror y dylai ysgolion ddychwelyd i wneud penderfyniadau lleol ar liniaru yn unol â'r Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Lleol erbyn dechrau'r hanner tymor newydd ar 28 Chwefror.
Bydd gorchuddion wyneb yn aros mewn ysgolion am y tro, yn union fel y mae eu hangen yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus, ar lefel rhybudd 0.
Teithio rhyngwladol
O 4am ddydd Gwener 11 Chwefror ymlaen:
- Ni fydd angen i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn (wedi cael eu cwrs sylfaenol llawn) gymryd prawf cyn-ymadael ddeuddydd cyn teithio i’r DU. Yr unig ofyniad arnynt fydd llenwi Ffurflen Lleoli Teithwyr;
- Dylai teithwyr sydd heb eu brechu neu deithwyr anghymwys lenwi Ffurflen Lleoli Teithwyr, gwneud prawf cyn-ymadael o fewn dau ddiwrnod i’r amser y maent i fod i ymadael, a gwneud prawf PCR ar ôl cyrraedd ar neu cyn diwrnod dau.
- Caiff unrhyw un o dan 18 mlwydd oed, ni waeth beth fo’i statws brechu, nawr ddod i’r DU heb brawf cyn-ymadael. Serch hynny, os byddwch yn teithio dramor gyda phlant byddem yn eich annog i wirio unrhyw ofynion gwahanol ar gyfer plant, gan gynnwys a oes angen iddynt fod wedi’u brechu’n llawn.
Mae tystysgrifau brechu sy’n cael eu rhoi gan y mwyafrif helaeth o wledydd nawr yn cael eu cydnabod, ac mae 16 o wledydd pellach yn cael eu hychwanegu at y rhestr hon.
Datganiad ysgrifenedig llawn : Y Prif Weinidog, Mark Drakeford
Parhau â’r cynllun i lacio cyfyngiadau covid yn raddol
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero ar 28 Ionawr, oni bai fod y sefyllfa iechyd gyhoeddus yn gwaethygu.
Bydd y cynllun i lacio’r mesurau lefel rhybudd dau yn raddol a symud yn ôl i lefel rhybudd sero yn parhau.
Mae’r data iechyd cyhoeddus diweddaraf yn awgrymu bod y don Omicron wedi pasio ei hanterth yng Nghymru a bod achosion o’r coronafeirws yn gostwng i lefelau tebyg i’r rhai a welwyd yn gynharach yn yr hydref. Mae nifer y cleifion Covid-19 mewn ysbytai hefyd yn gostwng.
O ddydd Gwener 21 Ionawr ymlaen, bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored.
Mae hyn yn golygu’r canlynol:
- Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored.
- Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored.
- Bydd lletygarwch awyr agored yn cael gweithredu heb y mesurau ychwanegol gofynnol a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr, fel y rheol chwech o bobl a chadw pellter cymdeithasol o 2m.
- Bydd y Pàs Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr awyr agored sydd â mwy na 4,000 o bobl ynddynt os nad yw pobl yn eistedd, neu 10,000 o bobl os ydynt yn eistedd.
- Mae’r Pàs Covid yn ofynnol ym mhob sinema, theatr a neuadd gyngerdd sydd ar agor ar hyn o bryd.
Datganiad llawn: Parhau â’r cynllun i lacio cyfyngiadau covid yn raddol
Cronfa Argyfwng i Fusnesau Covid-19
Ar gyfer y cyfnod rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022, mae'r Gronfa Argyfwng i Fusnesau wedi cael ei chyflwyno i helpu busnesau gyda'u llif arian uniongyrchol, a'r bwriad yw cwmpasu effaith fusnes a chanlyniadau economaidd y cyfyngiadau ychwanegol angenrheidiol a gyflwynwyd ar 26 Rhagfyr 2021 er mwyn rheoli lledaeniad Covid-19.
Diben y Gronfa Argyfwng i Fusnesau yw cefnogi busnesau yn y sectorau hamdden, twristiaeth, manwerthu a lletygarwch nad ydynt yn talu ardrethi busnes ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd. Os ydych chi yn talu ardrethi busnes efallai fyddach yn cymwys am y Cronfa Argyfwng Ardrethi Annomestig
Taliadau Cymorth Hunanynysu
Os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru (POD) wedi cysylltu â chi a dweud wrthych am hunanynysu, efallai bod gennych hawl i gymorth ariannol. Os ydych wedi gwneud hawliad, nodwch mai tair wythnos yw'r amser prosesu ar hyn o bryd, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.
Cyhoeddi’r cynllun i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau
Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi cynllun heddiw ar gyfer mynd â Chymru yn ôl i fesurau lefel rhybudd sero. Ond er mwyn i ni allu symud yn llwyr i lefel rhybudd sero, rhaid i’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd barhau i wella. Os bydd yr amodau’n caniatáu, byddwn yn codi cyfyngiadau lefel rhybudd dau fesul cam.
O fory, bydd nifer y bobl sy’n cael bod mewn digwyddiad awyr agor yn cynyddu o 50 i 500.
O ddydd Gwener, 21 Ionawr, bydd Cymru’n symud i lefel rhybudd sero o ran gweithgareddau awyr agored.
Mae hynny’n golygu na fydd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
- Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored
- Bydd modd cynnal lletygarwch yn yr awyr agored heb fesurau rhesymol ychwanegol
- Bydd angen Pas Covid i gael mynediad i ddigwyddiadau awyr agored mwy
Os bydd y duedd am i lawr yn parhau, o ddydd Gwener, 28 Ionawr, bydd Cymru’n symud i lefel rhybudd sero o ran pob gweithgaredd dan do:
- Bydd clybiau nos yn cael ailagor.
- Bydd gweithio gartref yn parhau’n bwysig ond ni fydd mwyach yn ofyn cyfreithiol
- Bydd gofyn i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill gynnal asesiad risg penodol ar gyfer coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau’r perygl o ledaenu coronafeirws
- Bydd angen Pas Covid i fynd i glybiau nos, digwyddiadau, sinemâu, neuaddau cyngerdd a theatrau.
- Ni fydd angen cadw at y rheol o 6, gweini wrth fyrddau a chadw pellter o 2m mewn lletygarwch
Bydd y rheolau hunanynysu ar gyfer pawb sy’n cael canlyniad positif i brawf covid a’r rheolau ar wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd dan do yn parhau ar ôl 28 Ionawr.
Bydd y cylch tair wythnos yn cael ei ailgyflwyno o 10 Chwefror pan fydd Llywodraeth Cymru’n adolygu’r holl fesurau lefel rhybudd sero fydd yn parhau mewn grym.
Datganiad llawn Llywodraeth Cymru: Cyhoeddi’r cynllun i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau
£15.4 miliwn i helpu i gefnogi sectorau Celfyddydau a Diwylliant Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £15.4 miliwn ar gael i gefnogi'r sectorau celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru yn ystod pandemig parhaus COVID-19.
Datganiad: Dirprwy Weinidog Dros y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden
Cronfa Argyfwng Ardrethi Annomestig Covid-19
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun grant 'Cronfa Argyfwng Ardrethi Annomestig' i gefnogi busnesau gyda'u llif arian uniongyrchol a'u helpu nhw i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau ychwanegol sydd eu hangen i reoli lledaeniad Covid-19 rhwng 26 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.
Gallwch wneud cais am y grant ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, 14 Chwefror 2022.
Rhagor o gyllid i liniaru’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol
I helpu’r GIG i adfer yn dilyn y pandemig coronafeirws parhaus, lliniaru amseroedd aros a lleihau pwysau’r gaeaf, mae £12.5 miliwn ychwanegol wedi’i gyhoeddi i gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol yn dilyn arhosiad yn yr ysbyty a helpu fferyllfeydd i gefnogi mwy o bobl i aros yn iach heb fod angen gweld meddyg teulu.
Bydd y cyllid yn helpu i liniaru’r pwysau ar y system gofal cymdeithasol a fferyllwyr sy’n dal i deimlo effeithiau’r pandemig.
Pecynnau prawf Llif Unffordd bellach ar gael i'w casglu yng Nghanolfannau Hwb y Cyngor
Gallwch bellach gasglu pecynnau prawf llif unffordd cyflym yng Nghanolfannau Hwb y Cyngor yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.
Ochr yn ochr â mannau casglu presennol yn y sir, mae cwsmeriaid bellach yn gallu casglu pecynnau yn adeiladau'r cyngor yn Stryd y Cei yn Rhydaman, Rhodfa'r Santes Catrin yng Nghaerfyrddin a Stryd Stepney yn Llanelli.
I weld rhestr o'ch holl fannau casglu profion Llif Unffordd cyflym agosaf, ewch i https://maps.test-and-trace.nhs.uk/
Gofyn i bobl ddiogelu Cymru wrth i fesurau lefel rhybudd 2 aros yn eu lle
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i bobl barhau i gymryd camau i ddiogelu ei gilydd a diogelu Cymru rhag y don o achosion Omicron. Mae wedi cadarnhau y bydd mesurau lefel rhybudd 2 yn aros yn eu lle yng Nghymru yn dilyn canlyniad yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau.
Mae achosion o’r coronafeirws wedi codi'n sydyn i'w lefelau uchaf erioed wrth i'r don Omicron gynyddu ledled Cymru yn ystod y cyfnod ar ôl y Nadolig. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na 2,200 o achosion fesul 100,000 o bobl yng Nghymru.
Newidiadau i Deithio Rhyngwladol
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Yn unol â phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, rwyf heddiw, yn anfoddog, wedi cytuno i ddileu’r gofynion i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn a phobl dan 18 oed wneud prawf cyn ymadael a phrawf PCR diwrnod 2 pan fyddant yn cyrraedd y DU.
Bydd angen i bob teithiwr sydd wedi’i frechu’n llawn wneud prawf dyfais llif unffordd (LFD) ar ddiwrnod 2, ac os bydd yn bositif, prawf PCR dilynol er mwyn galluogi dilyniant genom i gael ei gynnal. Mae’r gofyniad i hunanynysu hyd nes y ceir prawf negatif hefyd wedi cael ei ddileu.
Mae’r gofynion ar gyfer teithwyr sydd heb eu brechu yn parhau heb eu newid.
Bydd y newidiadau hyn dechrau dod i rym o 4am ddydd Gwener 7 Ionawr. Caiff profion llif unffordd eu derbyn fel profion ar ôl cyrraedd o 4am ddydd Sul 9 Ionawr.
Blaenoriaethu Profion PCR
Datganiad Ysgrifenedig: Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Rwyf wedi cytuno ar rai newidiadau i’w gwneud ar unwaith i’r system profion PCR a fydd yn helpu i leihau’r pwysau, a helpu i gynyddu mynediad ar gyfer y rheini sydd â symptomau ac sydd angen trefnu prawf.
Bydd y newid cyntaf yn golygu y dylai pobl sydd heb eu brechu ac sydd wedi’u nodi fel cyswllt i achosion positif ac sy’n hunanynysu am 10 diwrnod bellach wneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth yn hytrach na phrawf PCR. Bydd hyn yn helpu i gynyddu capasiti profion PCR. Daw’r newid hwn i rym ar unwaith.
Yn ail, ynghyd â gwledydd eraill y DU, rydym wedi cytuno os bydd person sydd yn dangos dim symptomau yn cael prawf llif unffordd positif, ni fyddant bellach yn cael cyngor i gael prawf PCR dilynol er mwyn cadarnhau’r canlyniad, oni bai eu bod mewn grŵp sy’n agored i niwed yn glinigol, a allai fod angen mynediad cynnar at driniaeth, neu wedi cael cyngor i gael prawf PCR fel rhan o raglen ymchwil a monitro.
Dychwelyd i’r ysgol a’r coleg
Mae'r canllawiau sy'n ei gwneud yn ofynnol i staff a dysgwyr ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb yn yr ysgol, gan gynnwys mewn ystafelloedd dosbarth, wedi parhau i'r tymor newydd a gofynnwyd i ysgolion a cholegau gynllunio ar gyfer y mesurau mwyaf amddiffynnol yn unol â'r fframwaith a ddefnyddir mewn ysgolion a cholegau. Gallai'r rhain gynnwys:
- defnyddio systemau unffordd;
- cynlluniau eistedd cyson lle bo hynny'n ymarferol;
- defnyddio mannau awyr agored addas;
- defnyddio grwpiau cyswllt lle bo hynny'n ymarferol;
- peidio dod â grŵpiau mawr ynghyd, fel gwasanaethau.
Datganiad ysgrifenedig llawn: Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mwy na £100m o gyllid newydd yn helpu i wneud ysgolion a cholegau yn ddiogel o ran Covid
Bydd ysgolion a cholegau yn derbyn £103 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru wrth i ddysgwyr ddychwelyd ar gyfer tymor mis Ionawr.
Bydd £50m yn cael ei ddarparu drwy'r awdurdodau lleol drwy'r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Bydd yr arian yn helpu ysgolion i wneud gwaith atgyweirio a gwella cyfalaf, gan ganolbwyntio ar fesurau iechyd a diogelwch, fel gwella awyru. Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi datgarboneiddio.
Hefyd bydd £45m o gyllid refeniw yn helpu i gefnogi cyllidebau ysgolion, gan gynorthwyo ysgolion wrth iddynt barhau i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig a pharatoi ar gyfer gofynion y cwricwlwm newydd.
Gwiriwr cymhwysedd ar gyfer pecyn cefnogi busnesau Omicron gwerth £120 miliwn yn mynd yn fyw
Gall busnesau yng Nghymru sy’n cael eu heffeitho gan ymlediad cyflym y feirws Omicron gael gwybod faint y gallant ddisgwyl ei dderbyn mewn cymorth ariannol brys gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn.
Mae'r pecyn cefnogi yn cynnwys cyllid o'r Gronfa Cadernid Economaidd (ERF), gyda gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y gronfa hon bellach yn fyw ar wefan Busnes Cymru.
Bydd hyn yn helpu busnesau, gan gynnwys elusennau a mentrau cymdeithasol, i fesur faint y gallant ddisgwyl ei dderbyn o’r ERF.
Gall busnesau cymwys wneud cais am grantiau rhwng £2,500k a £25,000, gyda’r grantiau'n dibynnu ar eu maint a nifer y gweithwyr.
Bydd y ffenestr ymgeisio ar gyfer yr ERF yn agor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 17 Ionawr 2022, gyda thaliadau’n dechrau cyrraedd busnesau o fewn dyddiau. Bydd y ffenestr ymgeisio ar agor am bythefnos.
Newidiadau o ran hunanynysu
O 31 Rhagfyr, gall unrhyw un sy'n cael canlyniad positif ar gyfer COVID-19 orffen hunanynysu ar ôl saith diwrnod. Cyn gorffen hunanynysu, dylai unigolyn gymryd 2 brawf dyfais llif unffordd (LFD), 24 awr ar wahân, i wirio nad yw'n dal i fod yn heintus. Dylid cymryd y prawf llif unffordd cyntaf ar ddiwrnod chwech o'r cyfnod hunanynysu.
Ehangu’r defnydd o Bàs COVID y GIG i bobl ifanc 12-15 oed sydd wedi'u brechu'n llawn ar gyfer teithio rhyngwladol
Mae’r defnydd o Bàs COVID y GIG yn cael ei ehangu i bobl ifanc 12-15 oed sydd wedi'u brechu'n llawn ar gyfer teithio rhyngwladol yn unig. Bydd y gwasanaeth hwn ar gael yng Nghymru o 22 Rhagfyr 2021 ymlaen.
Datganiad Ysgrifenedig - Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofalwch am eich iechyd meddwl dros yr Ŵyl eleni
Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:
Mae COVID-19 yn parhau i gael effaith ar ein bywydau bob dydd ac mae ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron, unwaith eto, yn ein hatgoffa nad yw’r pandemig ar ben eto. Hoffwn i bobl wybod fod cymorth ar gael iddynt 24/7."
Newidiadau i’r drefn hunanynysu
Mae newidiadau wedi’u gwneud i’r gofynion hunanynysu ar gyfer pobl sydd wedi dod i gysylltiad agos ag achosion COVID-19 positif.
Ar gyfer oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, plant 5-18 oed a phobl sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol brechlynnau, ni fydd yn ofynnol iddynt hunanynysu os nodir eu bod yn gysylltiad agos ag achos COVID-19 positif. Yn hytrach, dylent gymryd profion llif unffordd am 7 diwrnod fel mesur rhagofal.
Nid yw’r cyngor wedi newid ar gyfer plant o dan 5 oed – ni fydd angen iddyn nhw hunanynysu ac nid oes rhaid iddynt gymryd prawf PCR na phrofion llif unffordd.
Nid yw’r cyngor wedi newid chwaith ar gyfer cysylltiadau agos sydd heb eu brechu. Mae’n ofynnol iddyn nhw hunanynysu am 10 diwrnod ac fe’u cynghorir i gymryd profion PCR ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8 ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cymryd camau cyflym yn erbyn yr amrywiolyn Omicron newydd drwy gyfres o fesurau i ddiogelu Cymru a’i phobl.
Datganiad llawn gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
£120 miliwn o gymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan Omicron
Bydd busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan ledaeniad cyflym feirws Omicron yn gymwys i gael cymorth ariannol brys o dan becyn cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru.
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi manylion y £120 miliwn o gyllid a fydd ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'u cadwyni cyflenwi yr effeithiwyd arnynt gan y symudiad i rybudd lefel dau, fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Mercher 22 Rhagfyr.
O dan y pecyn diweddaraf, bydd gan fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n talu Ardrethi Annomestig hawl i daliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol. Bydd angen i fusnesau ailgofrestru eu manylion, drwy broses ar-lein gyflym a hawdd, gyda'u hawdurdod lleol er mwyn derbyn eu taliadau. Bydd cofrestru ar agor drwy wefannau awdurdodau lleol o'r wythnos sy’n cychwyn ar y 10fed o Ionawr.
Brechiadau Covid-19 – Plant a phobl ifanc
Datganiad Ysgrifenedig: Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cryfhau’r mesurau i ddiogelu Cymru wrth i don omicron daro
Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno o 6am Ddydd San Steffan ymlaen i helpu i ddiogelu Cymru.
Fersiwn ddiwygiedig o lefel rhybudd 2 yw’r mesurau er mwyn ymateb i’r amrywiolyn omicron newydd. Eu nod yw helpu i gadw busnesau ar agor a diogelu cwsmeriaid a staff.
Mae’r rheoliadau’n ailgyflwyno mesurau diogelu mewn busnesau lletygarwch, gan gynnwys lleoliadau trwyddedig, ac mewn sinemâu a theatrau pan fyddan nhw’n ailagor ar ôl cyfnod y Nadolig.
Bydd canllawiau cryfach yn cael eu cyhoeddi i helpu pobl i ddiogelu ei gilydd gartref a phan fyddan nhw’n cwrdd ag eraill.
Datganiad llawn Llywodraeth Cymru: Mesurau newydd o 6am Ddydd San Steffan
Canslo Trochfa'r Tymor am yr ail flwyddyn yn olynol
Mae penderfyniad wedi'i wneud i ganslo Trochfa'r Tymor (Walrus Dip) ar Ŵyl San Steffan ar draeth Cefn Sidan ym Mharc Gwledig Pen-bre, yn dilyn diweddaru asesiad risg ac yn unol â rheolau newydd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin nad oedd dewis ond canslo'r digwyddiad codi arian blynyddol yn dilyn yr adolygiad a'r cyhoeddiad bod yn rhaid cynnal yr holl chwaraeon dan do ac awyr agored yng Nghymru tu ôl i ddrysau caeedig.
Stori llawn - Canslo Trochfa'r Tymor am yr ail flwyddyn yn olynol
Chwarae digwyddiadau chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig wrth i achosion omicron godi
Bydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig o Ddydd San Steffan ymlaen yng Nghymru i helpu i reoli lledaeniad yr amrywiolyn omicron newydd.
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y mesurau newydd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon dan do ac awyr agored wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos cynnydd sydyn pellach yn nifer yr achosion a gadarnhawyd o’r amrywiolyn sy’n symud yn gyflym.
Cadarnhaodd hefyd y bydd Cronfa Chwaraeon Gwylwyr gwerth £3m ar gael i gefnogi clybiau a lleoliadau chwaraeon y mae'r mesurau newydd yn effeithio arnynt i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Bydd mwy o fanylion am y gronfa ar gael yn dilyn trafodaethau gyda'r sector.
Mae’r diweddariadau hyd at 1 Hydref, 2021
Mae’r diweddariadau hyd at 1 Hydref, 2021, wedi cael eu harchifo. Os ydych yn chwilio am ddiweddariad penodol sydd bellach wedi’i archifo, cysylltwch â ni.
Diweddariad y rhaglen frechu rhag Covid-19
Anogir yn gryf i unrhyw un sydd wedi cael cynnig apwyntiad i'w frechu wneud ei orau i'w gadw, p'un a yw'n cael ei gynnig mewn Canolfan Brechu Torfol, meddygfa neu fferyllfa gymunedol leol.
Fodd bynnag, os nad ydych wedi cael cynnig apwyntiad eto, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda nawr yn gwahodd unrhyw un dros 35 oed, ynghyd â'r rhai mewn grŵp blaenoriaeth uwch, i alw heibio i Ganolfan Brechu Torfol i gael eu brechu.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.
Yn darparu i gyflogwyr gymryd camau i ganiatáu i gyflogeion weithio gartref lle mae'n rhesymol ymarferol iddynt wneud hynny, ac yn gosod dyletswydd ar unigolion o'r fath i wneud hynny.
Profi rheolaidd ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol
Datganiad Ysgrifenedig: Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae diogelwch ac amddiffyniad y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wrth wraidd ein hymateb I’r pandemig. Yn dilyn ymddangosiad a lledaeniad cyflym amrywiolyn Omicron, rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar gyfer y staff ym maes gofal iechyd, gofal cymdeithasol, hosbisau ac ysgolion arbennig sydd yn gymwys ar gyfer profion asymptomatig arferol.
Bydd yr aelodau staff hyn, waeth beth yw eu statws brechu neu heintio blaenorol gan COVID-19, yn cael eu hannog yn gryf i gymryd prawf llif ochrol (LFT) bob dydd cyn iddynt fynd i'r gwaith.
Dylent wneud y prawf gartref, gan ddefnyddio'r Profion Llif Unffordd a ddarperir gan eu cyflogwr, mewn da bryd cyn dechrau eu shifft i ganiatáu i aelod staff arall wneud y shifft os bydd y prawf yn bositif.
Mae profi dyddiol fel hyn yn fwy tebygol o nodi y bobl hynny a allai fod yn heintus, heb ddangos symptomau, a cyn iddynt adael eu cartref i ddechrau gweithio. Bydd hyn yn ei dro yn hepu i warchod cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, plant ac aelodau staff eraill.
Cadw’n ddiogel dros y Nadolig
Cofiwch helpu i leddfu'r straen ar y GIG dros gyfnod y Nadolig:
- Cadw pecyn cymorth cyntaf sylfaenol
- Defnyddio’ch fferyllfa leol i gael cyngor ar fân bryderon iechyd fel llwnc tost a chael rhai meddyginiaethau dros y cownter yn rhad ac am ddim heb weld meddyg teulu.
- Cynllunio ymlaen llaw drwy archebu eich presgripsiynau rheolaidd o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw.
- Gofalu eich bod yn cael eich brechiadau rhag COVID, y ffliw neu frechiadau eraill pan fyddan nhw’n cael eu cynnig i chi.
- Golchi’ch dwylo’n rheolaidd er mwyn osgoi dal germau.
- Defnyddio gwefan GIG 111 Cymru i wirio eich symptomau ar-lein a chael cyngor cyflym ar yr hyn y dylech chi ei wneud nesaf.
- Mae meddygon teulu bellach yn cefnogi’r broses o gynnig y pigiad atgyfnerthu, felly gall lefelau gwasanaeth fod yn wahanol.
Brechu rhag COVID-19 – Blaenoriaethu menywod beichiog
Datganiad Ysgrifenedig: Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cael dos cyntaf, ail ddos a brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yw un o’r pethau pwysicaf y gall unrhyw fam feichiog ei wneud i’w diogelu ei hun a’i baban sydd heb ei eni yn erbyn y coronafeirws a’r amrywiolyn newydd omicron.
Ers peth amser nawr, rydym wedi bod yn annog menywod beichiog i gael eu brechlynnau COVID-19. Mae cyngor newydd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn atgyfnerthu’r neges hon.
Mae nifer y menywod beichiog sy’n manteisio ar y brechlyn wedi bod yn is nag y byddem yn ei hoffi, ac mae hyn yn rhoi mamau a’u babanod mewn perygl.
Yn seiliedig ar y data’n ymwneud â diogelwch, yn ogystal â’r risg gynyddol yn sgil COVID-19, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori y dylid ystyried menywod beichiog yn grŵp risg clinigol a’u gwneud yn flaenoriaeth ar gyfer cael y brechlyn COVID-19.
Rydym yn annog pob mam feichiog i gysylltu â’u byrddau iechyd i wneud apwyntiad i gael eu dos cyntaf neu eu hail ddos o’r brechlyn. Bydd y bwrdd iechyd yn cysylltu â’r menywod sy’n aros am y pigiad atgyfnerthu.
Cyngor newydd i gadw Cymru'n ddiogel dros y Nadolig
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobl ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig.
Bydd Cymru wedyn yn cyflwyno cyfyngiadau newydd, gan gynnwys ar gyfer busnesau a gwasanaethau – a hynny o 27 Rhagfyr ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys rheol cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff – ee, systemau unffordd a rhwystrau ffisegol.
Bydd clybiau nos yn cau hefyd. Mae angen y cyfyngiadau llymach hyn i helpu i reoli lledaeniad Omicron.
Er mwyn cadw'n ddiogel yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pawb yn gryf i ddilyn y pum mesur hyn i gadw'n ddiogel:
- Cael eich brechu – ac os ydych wedi cael apwyntiad i gael pigiad atgyfnerthu, ewch amdani.
- Os ydych yn mynd allan, yn mynd i siopa Nadolig neu'n ymweld â phobl – cyn gadael y tŷ, profwch da chi. Cymerwch brawf llif unffordd. Os yw'n bositif – arhoswch gartre.
- Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well na chwrdd dan do. Os ydych yn cwrdd dan do, gwnewch yn siŵr fod yno ddigon o awyr iach.
- Cymdeithasu bob hyn a hyn – os ydych wedi trefnu digwyddiadau, gadewch o leiaf ddiwrnod rhyngddynt.
- A chofiwch gadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb a golchi'ch dwylo.
Neges i rieni ynghylch dechrau tymor y Gwanwyn
Mae Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin, Gareth Morgans, wedi ysgrifennu at rieni plant oed ysgol gynradd ac uwchradd i'w cynghori am y paratoadau ar gyfer dechrau tymor y Gwanwyn ym mis Ionawr yn sgil y sefyllfa bresennol o ran Covid-19.
Diweddariad brechlyn COVID-19
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi diweddaru ei raglen frechu.
Brechlyn atgyfnerthu
Heno, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn amilnellu nod Cymru i gynnig apwyntiad I bob oedolyn cymwys gael trydydd dos o’r brechlyn erbyn diwedd Rhagfyr.
Mae cynlluniau brys ar droed i gyflymu’r rhaglen brechlyn atgyfnerthu ymhellach, wrth I dysttiolaeth newydd ddangos nad yw dau bigiad yn ddigon i amddiffyn rhag yr amrywiolyn omicron newydd. Ond mae’r pigiad atgyfnerthu’n hollbwysig i wella’r amddiffyniad rhag yr amwyiolyn newydd sy’n lledaenu’n gyflym.
Diweddariad y Prif Weinidog Mark Drakeford ar yr amrywiolyn Omicron
Datganiad gan y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru:
Rydyn ni’n dysgu mwy am amrywiolyn omicron bob dydd. Mae hwn yn ffurf sy'n symud yn gyflym ar y coronafeirws, sydd â'r potensial i achosi ton fawr o heintiau yng Nghymru. Gallai hyn arwain at nifer fawr o bobl angen triniaeth ysbyty ar adeg pan mae ein GIG o dan bwysau sylweddol.
“Ein gwarchodaeth orau o hyd yw brechu. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn dangos bod y dos atgyfnerthu yn hanfodol. Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflymu ein rhaglen frechu i gynyddu nifer y bobl a fydd yn derbyn eu brechlyn atgyfnerthu yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Mae pobl hŷn a'r rhai sydd fwyaf mewn perygl yn cael eu blaenoriaethu ar hyn o bryd. Rydyn ni'n cynyddu nifer y clinigau a’u horiau agor; rydyn ni wedi gofyn i'r holl staff sydd ar gael ymuno â thimau brechu i gefnogi'r ymdrech genedlaethol hon.
“Gwnewch yn siŵr bod cael eich brechlyn atgyfnerthu yn flaenoriaeth. Bydd yn un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i warchod eich hun rhag y coronafeirws a'r amrywiolyn newydd hwn.
“Mae'r Cabinet yn monitro'r sefyllfa iechyd cyhoeddus hon sy'n newid yn gyflym yn ofalus iawn ac wedi symud i gylch adolygu wythnosol. Rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn ac efallai y bydd angen i ni gymryd camau pellach i gadw Cymru’n ddiogel. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Gymru.”
Codi Lefel Rhybudd COVID y DU o Lefel 3 i Lefel 4
Yn dilyn cyngor gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ac yng ngoleuni'r cynnydd cyflym mewn achosion o Omicron, mae Prif Swyddogion Meddygol y DU a Chyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol GIG Lloegr wedi argymell i'r Gweinidogion y dylai Lefel Rhybudd COVID y DU gael ei chodi o Lefel 3 i Lefel 4.
Adolygiad 21 diwrnod Llywodraeth Cymru
Dylai pawb fanteisio ar eu pigiad atgyfnerthu COVID-19, dyna neges y Prif Weinidog wrth iddo rybuddio bod Cymru’n wynebu ton newydd o heintiau o ganlyniad i’r amrywiolyn Omicron.
Mae mwy na miliwn o bobl eisoes wedi cael eu pigiad atgyfnerthu yng Nghymru, ond mae’r rhaglen yn cael ei chyflymu’n dilyn ymddangosiad yr amrywiolyn hwn sy’n lledaenu’n gyflym.
Yn ei gynhadledd i’r wasg yn dilyn yr adolygiad 21 diwrnod, sydd i’w gynnal ddydd Gwener (10 Rhagfyr), bydd y Prif Weinidog yn dweud er mai dim ond llond llaw o achosion sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru hyd yma, bod angen inni fod yn barod i weld achosion yn cynyddu’n gyflym iawn.
Mae sawl peth arall y gall pobl ei wneud i helpu i amddiffyn eu hunain rhag coronafeirws, gan gynnwys yr amrywiolyn omicron newydd.
Bydd y Prif Weinidog yn gofyn i bobl gymryd profion llif unffordd cyn mynd allan a gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob lleoliad cyhoeddus o dan do i helpu i ddiogelu pobl yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Bydd Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero ar ôl yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau COVID. Fodd bynnag, o ganlyniad i ledaeniad yr amrywiolyn omicron, mae Llywodraeth Cymru’n cynghori’n gryf y dylai pobl wneud y canlynol:
- Gwneud prawf llif unffordd cyn mynd allan – i barti Nadolig; i siopa Nadolig; i ymweld â ffrindiau neu deulu; i unrhyw le prysur neu cyn teithio.
- Aros adref os yw’r prawf yn bositif. Dylech drefnu prawf PCR a hunanynysu.
- Pobl i wisgo gorchuddion wyneb mewn tafarndai a bwytai, pan nad ydynt yn bwyta nac yn yfed. Rhaid i bawb wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do eraill, yn unol â'r gyfraith, gan gynnwys mewn sinemâu a theatrau.
Achosion yn ardaloedd Llandybïe a Rhydaman
Rydym yn gweld nifer uchel o achosion Covid-19 yn ardaloedd Llandybïe a Rhydaman ar hyn o bryd ac mae ein gweithwyr olrhain cysylltiadau yn gweithio'n galed i nodi achosion ac atal y lledaeniad.
Os ydych wedi bod yn yr ardal hon ac yn dechrau profi unrhyw symptomau Covid-19 (tymheredd uchel, colli'r gallu i flasu neu arogli neu hynny'n newid, peswch newydd neu barhaus, neu symptomau tebyg i ffliw ehangach), neu os ydych wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif yn ddiweddar, dylech archebu prawf PCR a hunanynysu nes i chi gael canlyniad negatif.
Os nad oes gennych unrhyw symptomau Covid-19 gallwch gymryd prawf llif unffordd ar gyfer eich tawelwch meddwl eich hun, ond cofiwch lanlwytho eich canlyniadau i borth y llywodraeth - dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn.
‘Torri’r trosglwyddiad’ – Lansio’r ymgyrch Diogelu Cymru ddiweddaraf
Nod lansio gweithgarwch diweddaraf ymgyrch Diogelu Cymru Llywodraeth Cymru, heddiw, yw ‘torri’r trosglwyddiad’ er mwyn helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu.
Bydd hysbysebion ar y teledu a’r radio, yn y wasg ac mewn mannau cyhoeddus, yn ddigidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol am y pum wythnos nesaf, er mwyn annog pobl i barhau i ddilyn y mesurau sydd ar waith i gadw pawb ohonom yn ddiogel.
Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar bwysigrwydd masgiau wyneb, brechiadau, profion, a hunanynysu, a bydd yn hyrwyddo negeseuon ychwanegol i bwysleisio pwysigrwydd awyru, a defnyddio profion llif unffordd cyn cymdeithasu. Mae deunyddiau’r ymgyrch yn cael eu rhannu ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn iddynt eu defnyddio ar eu sianeli eu hunain ar y cyfrangau cymdeithasol.
Newidiadau i deithio rhyngwladol
Pwy fydd yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu COVID-19?
Dywedodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JVCI), wrth ymateb i ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron, y byddai’r rhaglen i gynnig brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn cael ei hehangu i gynnwys pob oedolyn dros 18 oed o 29 Tachwedd ymlaen.
Mae brechiadau atgyfnerthu yn cael eu cynnig yn nhrefn grwpiau oedran, gan roi blaenoriaeth i frechu oedolion hŷn a phobl mewn grwpiau sydd mewn mwy o berygl oherwydd COVID-19.
Dylid cynnig dos atgyfnerthu o leiaf dri mis ar ôl cwblhau'r cwrs sylfaenol. Mae hyn wedi newid o’r cyngor blaenorol, sef chwe mis.
Mae newidiadau i'r canllawiau wedi'u rhoi ar waith i gyflymu'r rhaglen, i sicrhau'r amddiffyniad unigol gorau posibl cyn ton bosibl o heintiadau, ac i leihau effaith yr amrywiolyn Omicron ar boblogaeth y DU.
Canllawiau dechrau a diwedd tymor ar gyfer myfyrwyr prifysgol
Nod y canllawiau hyn yw darparu gwybodaeth i fyfyrwyr am sut i’w cadw eu hunain, eu teuluoedd, eu ffrindiau a chymunedau prifysgol yn ddiogel ar ddechrau ac ar ddiwedd y tymor.
Brechu rhag COVID-19 – Cyngor pellach gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar Frechiadau Atgyfnerthu
Mae'r JCVI wedi argymell y dylid cyflymu'r rhaglen frechu drwy ddilyn y camau sydd wedi’u nodi isod:
- mae pob oedolyn sydd dros 18 oed bellach yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthu, ond dylid rhoi blaenoriaeth o hyd i oedolion hŷn a'r rheini sydd mewn perygl
- dylai’r cyfnod cyn y cynigir dos atgyfnerthu gael ei leihau i o leiaf dri mis ar ôl cwblhau’r cwrs sylfaenol
- dylai unigolion sydd â system imiwnedd wan sydd wedi cwblhau eu cwrs sylfaenol o dri dos gael cynnig dos atgyfnerthu, gydag o leiaf dri mis rhwng y trydydd dos sylfaenol a'r dos atgyfnerthu, yn unol â’r cyngor clinigol ar yr amseru gorau posibl
- ni ddylid gwahaniaethu rhwng y brechlynnau Moderna a Pfizer-BioNTech wrth ddewis pa un i’w ddefnyddio fel rhan o’r rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID-19. Dangoswyd bod y ddau frechlyn yn cynyddu lefelau gwrthgyrff yn sylweddol pan fyddant yn cael eu cynnig fel dos atgyfnerthu
At hynny, mae’r JCVI yn cynghori, yn amodol ar ystyriaeth briodol gan y timau a fydd yn rhoi’r brechiadau o ba mor ymarferol fydd gwneud hynny, y dylid, fel mesur eilradd, cynnig ail ddos o'r brechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech o leiaf 12 wythnos wedi’r dos cyntaf i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 12 a 15 oed. Gellir lleihau'r bwlch ar gyfer y grŵp hwn (a phobl ifanc 16-17 oed) i o leiaf 8 wythnos rhwng dosau os bydd y data epidemiolegol sy'n dod i’r amlwg yn cefnogi hyn.
Amrywiolyn Omicron – gweithrediadau ysgolion
Rydym nawr yn cyflwyno mesur ychwanegol, tra ein bod ni yn dod i ddeall mwy am y straen newydd hwn. Dylai holl staff a dysgwyr yn ein hysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion nawr wisgo gorchuddion wyneb dan do lle nad oes modd cynnal pellter corfforol. Mae nifer o leoliadau eisoes yn gweithredu ar y sail hwn, wedi llywio gan eu hasesiadau risg, ond bydd hwn nawr drefniant cenedlaethol. Mesur rhagofalus dros dro yw hwn a fydd ar waith ar gyfer yr wythnosau o’r tymor sy'n weddill ac ar yr adeg honno bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu. Dylai hyn ddod i rym ym mhob lleoliad cyn gynted â phosibl.
Brechiadau atgyfnerthu COVID yn cael eu cynnwys ar y ffurf ddigidol o Bàs COVID y GIG
Mae brechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi cael eu cynnwys ar y ffurf ddigidol o Bàs COVID y GIG, er mwyn i bobl yng Nghymru allu dangos tystiolaeth eu bod wedi cael dos atgyfnerthu os ydynt yn teithio dramor.
Newidiadau i deithio rhyngwladol
Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Rydym yn cymryd camau brys i ychwanegu chwech gwlad yn neheudir Affrica at y rhestr goch ar gyfer teithio wedi i amrywiolyn newydd o’r coronafeirws gael ei nodi. Mae’n bosibl y gall yr amrywiolyn hwn osgoi’r amddiffyniad a ddarperir gan frechlynnau.
Mae’r amrywiolyn, sef B.1.1.529, wedi’i gysylltu â Botswana, De Affrica, Eswatini, Lesotho, Namibia a Zimbabwe. Mae’r gwledydd hyn wedi’u hychwanegu at y rhestr goch, a hynny o 12pm heddiw ymlaen.
Bydd hyn yn golygu na fydd teithwyr o’r lleoedd hyn yn cael dod i mewn i Gymru ond bod rhaid iddynt gyrraedd drwy borth mynediad yn Lloegr neu’r Alban a mynd i gyfleuster cwarantin wedi’i reoli am 10 diwrnod. Rhaid iddynt hefyd gymryd profion PCR ar ôl cyrraedd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8.
Mae camau tebyg yn cael eu cymryd ledled y DU."
Cyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru am Brofion Llif Unffordd
Os ydych dros 11 oed fe'ch anogir i gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos (bob 3 neu 4 diwrnod) os nad oes gennych symptomau COVID-19.
Fe'ch anogir hefyd i gymryd prawf:
- os ydych yn mynd i fod mewn sefyllfaoedd risg uwch gan gynnwys treulio amser mewn mannau gorlawn neu gaeedig
- cyn i chi ymweld â phobl sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol yn sgil COVID-19
- os ydych yn teithio i ardaloedd eraill o Gymru neu'r DU
Newidiadau i’r rheolau ar gyfer teithio rhyngwladol
Daw'r newidiadau hyn i rym yng Nghymru o 22 Tachwedd 2021.
Dim newidiadau i’r rheolau Covid
Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi diolch i bobl ym mhob cwr o Gymru am eu gwaith caled i helpu i leihau cyfraddau achosion o’r coronafeirws – cyfraddau a oedd wedi cyrraedd lefelau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen – dros y tair wythnos ddiwethaf.
Mae ef wedi cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau i reolau’r coronafeirws yn dilyn yr adolygiad 21 o ddiwrnodau diweddaraf. Bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero, sy'n golygu bod pob busnes yn gallu bod ar agor a masnachu. Ni fydd y Pàs COVID yn cael ei ymestyn ychwaith i leoliadau lletygarwch yn ystod y cylch tair wythnos hwn.
Cyngor y JCVI ynglŷn â phobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed ac ymestyn y pigiadau atgyfnerthu i grwpiau blaenoriaeth ychwanegol
Nifer uchel o achosion Covid-19 ar draws Dyffryn Aman a Sanclêr
Mae nifer uchel o achosion Covid-19 wedi'u nodi yn ardaloedd Dyffryn Aman a Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin, ac mae pobl yn cael eu hannog i gymryd gofal ychwanegol.
Ar hyn o bryd, y gyfradd heintio yn ardal Dyffryn Aman yw 1,559.53 fesul 100,000, a 1,578.46 fesul 100,000 yn Sanclêr (cywir ar 15/11/21).
Mae'r rhan fwyaf o achosion yn Nyffryn Aman yn gysylltiedig â digwyddiadau cymdeithasol hysbys - mae tua 30 o achosion yn gysylltiedig ag un lleoliad cymdeithasol yn unig - ond hyd yma nid oes cysylltiadau clir â digwyddiadau hysbys yn Sanclêr.
O ganlyniad, mae tîm olrhain cysylltiadau Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog pobl sy'n byw, gweithio a chymdeithasu mewn clybiau, grwpiau neu leoliadau cymunedol lleol yn yr ardaloedd hyn i gymryd gofal ychwanegol.
Maen nhw hefyd yn annog preswylwyr hŷn sydd wedi cael eu gwahodd i gael brechiad atgyfnerthu i fynd i'w hapwyntiadau.
Ehangu’r defnydd o Bàs COVID y GIG
Yn dechrau heddiw bydd angen Pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru.
Mae'r canllawiau ar hunanynysu hefyd wedi'u newid ac mae pobl yn cael eu hannog i weithio gartref i helpu i ddod â'r feirws dan reolaeth.
Pàs COVID y GIG i gynnwys sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru
Mae Aelodau'r Senedd wedi cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG. Yn dilyn y bleidlais bydd angen pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o ddydd Llun 15 Tachwedd ymlaen.
- I gael rhagor o wybodaeth ewch i Cael eich pàs COVID y GIG.
Hunanynysu: Y newidiadau o 29 Hydref 2021
Mae trefn hunanynysu newydd pan fo rhywun yn eich cartref â symptomau coronafeirws neu wedi cael prawf coronafeirws positif.
Newidiadau i'r rheolau ar gyfer teithio rhyngwladol
Mesurau cryfach i ostwng cyfraddau uchel o’r coronafeirws yng Nghymru
Heddiw bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd mesurau diogelu lefel rhybudd sero yn cael eu cryfhau er mwyn diogelu pobl a helpu i ostwng lefelau uchel o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru.
Cyfraddau coronafeirws Cymru yw’r uchaf yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Bydd y Prif Weinidog yn dweud bod Cymru’n wynebu sefyllfa ddifrifol, ac oni bai bod y cyfraddau'n dechrau gostwng dros y tair wythnos nesaf, y bydd yn rhaid i Weinidogion ystyried ailgyflwyno rhai cyfyngiadau yn yr adolygiad nesaf o’r rheoliadau er mwyn dod â lledaeniad y feirws o dan reolaeth.
Brechlyn atgyfnerthu COVID-19
Heddiw mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau y gall y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu COVID-19 bellach alw i mewn i'w canolfan brechu torfol Hywel Dda agosaf, nid oes angen apwyntiad.
Gweithio gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Rydym yn parhau i weithio gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gadw mewn cysylltiad â busnesau yn Sir Gaerfyrddin i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ar lefel rhybudd 0. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, gan weithio ochr yn ochr â'n swyddogion, yn darparu cyngor ac arweiniad i reoli risg a diogelu gweithwyr, cwsmeriaid ac ymwelwyr a chymryd camau lle mae pryderon am ddiogelwch.
Yn ogystal â chysylltu â gwneuthurwyr, manwerthwyr a darparwyr hamdden a lletygarwch, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd yn cysylltu â busnesau bach fel cyfreithwyr, gwerthwyr tai a banciau - a hyn oll yn rhan o'n hymdrechion i sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel.
Pàs Covid: canllawiau ar gyfer busnesau a digwyddiadau
Pàs Covid y GIG
O heddiw ymlaen, i fynd i glybiau nos a digwyddiadau yng Nghymru bydd angen i chi:
- dangos eich statws brechu; neu
- prawf llif unffordd negative
Gallwch ddefnyddio Pàs Covid y GIG i ddangos y rhain.
Cynllun rheoli’r coronafeirws: diweddariad hydref a gaeaf 2021
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar ei newydd wedd. Yn y Cynllun, rhoddir manylion bras y camau gweithredu allweddol a allai gael eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws.
Mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r Cynllun Rheoli’r Coronafeirws yn cyflwyno dwy senario gynllunio ar gyfer y pandemig dros gyfnod y gaeaf. O dan y senario gyntaf, sy’n cael ei galw yn Covid Sefydlog, mae Cymru yn aros ar lefel rhybudd sero drwy gydol yr hydref a’r gaeaf, gyda phob busnes yn gallu agor.
Mae’r ail senario gynllunio yn cael ei galw yn Covid Brys. Mae’r senario hon wedi ei chynllunio i ymateb i unrhyw newidiadau sydyn yn y sefyllfa. Gallai’r newidiadau hyn gael eu hachosi gan ymddangosiad amrywiolyn newydd, a fydd yn lledaenu’n gyflym, neu gallai’r lefelau imiwnedd a fydd wedi eu meithrin yn sgil cael y brechlyn ostwng. O ganlyniad, bydd y pwysau yn sgil y pandemig yn cynyddu, a bydd perygl y gallai’r Gwasanaeth Iechyd fod o dan ormod o bwysau.
Trefniadau i ddod ar gyfer Profion COVID-19 i blant a phobl ifanc a staff sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau arbennig
Crynodeb o'r newidiadau:
- Y cyngor i ddisgyblion ysgol uwchradd/myfyrwyr coleg sy'n byw gydag aelod o'r cartref sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 fydd cymryd profion llif unffordd (LFT) dyddiol am saith diwrnod (bob bore cyn mynd i'r ysgol/coleg).
- Mae hyn ar ben cymryd profion PCR ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8.
- Y cyngor i blant ysgol gynradd o hyd fydd parhau i gymryd prawf PCR ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8.
Plant dan 5 oed:
- Nid yw Llywodraeth Cymru bellach yn argymell bod plant dan 5 oed yn cymryd profion COVID-19 asymptomatig.
- Os oes gan blant o dan 5 oed symptomau, nid yw'n cael ei argymell fod y plant yn mynd am brawf fel mater o drefn - oni bai bod cyfarwyddyd yn cael ei roi i wneud hynny gan feddyg neu fod rhieni'n credu bod prawf yn gwbl angenrheidiol ac er budd y plentyn.
Ysgolion Arbennig:
- Bydd yn ofynnol i staff sydd wedi'u brechu sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgol arbennig sy'n cael eu nodi fel cyswllt (cartref neu fel arall), (yn amodol ar asesiad risg) gael prawf PCR negyddol cyn mynychu'r gwaith, ac yna cymryd profion llif unffordd dyddiol am 10 diwrnod ar ôl hynny.
Y gwaith o ddarparu brechlyn Covid i blant 12 i 15 oed yn cyflymu yng Nghymru
Wrth i blant 12 i 15 mlwydd oed ar draws Cymru ddechrau cael eu brechu rhag COVID, heddiw mae’r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau y byddan nhw i gyd yn cael cynnig brechiad erbyn diwedd hanner tymor mis Hydref.
Bydd pob plentyn 12 i 15 mlwydd oed yn cael ei wahodd drwy lythyr i gael y brechlyn. Bydd y rhan fwyaf o’r brechiadau’n cael eu rhoi mewn Canolfannau Brechu Torfol. Mewn rhai ardaloedd, bydd ysgolion yn cael eu defnyddio hefyd. Mae rhai o’r plant 12 i 15 oed sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru eisoes wedi dechrau cael y brechlyn a bydd pob Bwrdd Iechyd wedi dechrau ar y gwaith yn eu hardaloedd erbyn yr wythnos hon.