Casglu biniau ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc

17 diwrnod yn ôl

Mae’r criwiau gwastraff ac ailgylchu yn gweithio ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc (25 Mai), mewn ymateb i bandemig Coronafeirws (COVID-19).

Mae preswylwyr yn cael eu hannog i roi eu gwastraff (gan gynnwys gwastraff gardd) allan ar eu diwrnod casglu arferol.

Atgoffir preswylwyr hefyd i roi eu biniau allan y noson gynt gan y bydd casgliadau yn cael eu gwneud yn gynharach na'r arfer o bosibl .