Cyd-weithio ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal

110 diwrnod yn ôl

Mae partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol a darparwyr cartrefi gofal annibynnol yng ngorllewin Cymru yn cyd-weithio i sicrhau bod pobl sydd â COVID-19 yn cael eu trin ag urddas a pharch yn gymaint o ran â phosib mewn penderfyniadau am eu gofal a’u triniaeth, boed mewn ysbyty neu gartref gofal.

Mae cartrefi gofal yn rhan ganolog a hanfodol o wasanaethau rheng flaen yng Ngorllewin Cymru, yn benodol trwy sicrhau a chefnogi iechyd a llesiant y mwyaf bregus yn y boblogaeth. Mae llawer o’n lleoliadau gofal yn wynebu heriau sylweddol, ac ni fu erioed yn bwysicach cefnogi staff gofal y lleoliadau hyn. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod o breeder mawr i deuluoedd y preswylwyr ac i’r cartrefi sy’n darparu gofal mor rhagorol trwy’r cyfnod digynsail hwn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chynghorau Sir Gâr, Ceredigion a Phenfro yn gweithio ar y cyd i gefnogi cartrefi gofal i ddarparu’r gofal gorau posib i unigolion bregus mewn modd amserol a phriodol annibynnol yn gweithio ar y cyd fel cymuned iechyd a gofal gyfan.

Golyga hyn bod ystod eang o weithwyr allweddol o feddygon, nyrsys, gweithwyr cymorth gofal iechyd, gofalwyr, cynorthwywyr, glanhawyr, gweithwyr cludiant, rheolwyr a gwirfoddolwyr i gyd yn chwarae eu rhan yn y gwaith o gynllunio, cynghori a darparu’r gofal sydd ei angen ar bobl hŷn, gan ystyried eu dymuniadau.

Ar draws ein cymunedau, gwelwn weithio enghreifftiol gan glinigwyr yn cefnogi ac yn darparu gofal uniongyrchol mewn cartrefi gofal. Mae hyn yn cynnwys clinigwyr ysbyty yn cydweithredu â Meddygon Teulu a thimau cymuneol, ac hefyd yn rhan o’r gwaith o drosglwyddo unigolion i ysbyty pan fo angen. Defnyddir technoleg hefyd mewn nifero gartrefi gofal fel y gallant gadw mewn cysylltiad amserol â’r Nyrsys Ardal a Meddygon Teulu.

Meddai Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor: “Rydym yn gweithio’n galed iawn fel cymuned iechyd a gofal gyfan, â’r nod o ddarparu’r gofal gorau posib i drigolion cartrefi gofal, gan atal yr afiechyd rhag lledaeu ymhellach, yn ogystal ag amddiffyn diogelwch yr unigolion hynny sy’n gofalu.”

Meddai Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Hywel Dda: “Mae timau Meddygaeth Gyffredinol a Chymunedol ledled y Bwrdd Iechyd yn cynnig cefnogaeth barhaus a chynyddol i gleifion yn ein cartrefi gofal. Rydym yn gweithio fel tîm ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gofal i’r grŵp bregus, pwysig hwn. Mae meddygfeydd yn cysylltu â chartrefi gofal yn ddyddiol i sicrhau bod y preswylwyr yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.”

Meddai Jake Morgan, Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Gâr: “Mae hwn yn gyfnod hynod heriol i’n gweithlu gofal sydd ar y llinell flaen y delio â’r pandemig hwn. Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi medru cynnig cymorth ariannol, cyngor ac offer amddiffynnol ychwanegol i’n cartrefi gofal i’w cefnogi i gyflawni eu rôl hanfodol. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi staff gofal sy’n gwneud gwaith rhyfeddol yn yr amseroedd heriol hyn.”

Ychwanegodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn gweithio’n agos iawn â’n cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd i sicrhau ein bod yn cynnal y gwasanaethau gofynnol i’r rhai mwyaf agored i niwed mewn modd diogel ac amserol trwy gydol y cyfnod hwn. Rydym hefyd yn diolch o waelod calon i bawb sy’n cefnogi’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngheredigion.”

Yn ddiweddar, cafodd Dr Andy Hayden, Geriatregydd a Meddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli y profiad o weithio’n agos â chartref gofal yn Llanelli lle mae nifer o breswylwyr wedi’u heffeithio gan COVID-19.

Eglurodd: “Yn yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio’n agos â chartref gofal sydd wedi’i effeithio gan yr afiechyd, am y gall fod yn ddifrifol mewn lleoliad o’r fath. Rydw innau, ymgynghorwyr gofal lliniarol, nyrsys arbenigol a chyffredinol a staff awdurdodau lleol wedi bod yn cefnogi pobl yn y cartref gofal.

“Yr hyn sydd wedi bod yn bwysig iawn yw’r ymagwedd unigol – lle yr ydym yn gwneud y peth sy’n iawn ar gyfer yr unigolyn, gan ystyried dymuniadau’r unigolyn, neu dymuniadau perthynas neu ofalwr os na all yr unigolyn siarad dros ei hun. I rai pobl golyga hynny eu bod yn dod i ysbyty, ac i eraill golyga eu bod yn cael cefnogaeth ar ddiwedd eu hoes mewn amgylchedd cartref lle y maen nhw’n gyffyrddus ac yn cael gofal gydag urddas a pharch.”