Gwyliwch rhag twyll a sgamiau cysylltiedig â'r coronafeirws

173 diwrnod yn ôl

Mae troseddwyr diegwyddor yn achub mantais ar ofnau pobl ynghylch y coronafeirws (COVID-19) i dwyllo aelodau o'r cyhoedd, yn enwedig pobl hŷn a phobl agored i niwed sydd wedi'u hynysu oddi wrth eu teulu a'u ffrindiau.

Mae tîm Safonau Masnach y Cyngor yn rhybuddio trigolion yn Sir Gaerfyrddin i fod yn wyliadwrus yn dilyn cynnydd mewn sgamiau cysylltiedig â'r coronafeirws sy'n ceisio cymryd mantais ar bryder ac ansicrwydd pobl.

Dylai pobl anwybyddu pethau fel ychwanegion a phecynnau gwrth-feirws sy'n honni'n ffug eu bod yn gallu gwella neu atal COVID-19. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y rhoddir pwysau ar unigolion ar drothwy'r drws i brynu pecynnau gwrth-feirws neu efallai cânt eu perswadio i brynu pethau sy'n cael eu hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol. Dim ond y GIG sy'n cynnig y rhain.

Mae rhai canolfannau galwadau, a oedd arfer targedu pobl drwy geisio gwerthu cynhyrchion iechyd amheus iddynt, bellach yn cynnig ychwanegiadau y maent yn honni eu bod yn atal COVID-19. Ar hyn o bryd nid oes brechlyn na thriniaeth.

Hefyd anogir cymunedau i gadw llygad am arwyddion bod cymdogion yn cael eu targedu gan droseddwyr ar y trothwy. Er bod grwpiau o wirfoddolwyr go iawn yn darparu cymorth i bobl sy'n hunanynysu, mae adroddiadau wedi dod i law ynghylch troseddwyr sy'n targedu trigolion – pobl hŷn neu bobl â chyflyrau iechyd hirdymor yn aml – drwy alw heb wahoddiad yn eu cartrefi a chynnig mynd i siopa iddynt. Mae'r troseddwyr yn aml yn honni eu bod yn cynrychioli elusennau fel eu bod yn edrych yn ddilys, cyn cymryd arian gan bobl.

Mae yna elusennau dilys sy'n darparu cymorth, felly dylai pobl fod yn wyliadwrus a gofyn am brawf adnabod gan unrhyw un sy'n honni ei fod yn cynrychioli elusen.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu'r Cyhoedd: "Mae troseddwyr yn manteisio ar y pandemig coronafeirws i dwyllo pobl mewn amrywiaeth o ffyrdd.

"Wrth i fwy o bobl aros i mewn a gweithio gartref, mae mwy o gyfle i droseddwyr geisio twyllo pobl i roi eu harian ar adeg pan maen nhw'n bryderus ac yn ansicr ynghylch y dyfodol.

"Yn benodol, mae pobl hŷn sy'n fwy agored i niwed ac sy'n hunanynysu yn debygol o gael eu targedu dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb.

"Mae'n bwysig ein bod yn parhau i gynyddu ymwybyddiaeth o'r sgamiau hyn ac yn diogelu ein hunain a'r bobl agored i niwed yn ein cymunedau gorau gallwn ni."

Mae pobl yn cael eu hannog i gadw mewn cysylltiad ag aelodau'r teulu yn rheolaidd a rhoi gwybod iddynt am y sgamiau mwyaf cyffredin a'r peryglon posibl.

I gael rhagor o gymorth a chyngor, anfonwch neges e-bost at safonaumasnach@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567.

Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich twyllo, ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040, neu i gael cyngor, ffoniwch linell cymorth i ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.


Awgrymiadau sut i osgoi cael eich sgamio:

Byddwch yn ofalus a dilynwch eich greddf. Peidiwch â bod ofn ei daflu, ei ddileu, gorffen galwad, neu gau'r drws. Cymerwch eich amser, a pheidiwch â gadael iddynt eich brysio. Os yw'n gynnig rhy dda i'w gredu... peidiwch â'i gredu.
Prynwch nwyddau gan fanwerthwyr cyfreithlon yn unig a meddyliwch am funud cyn talu arian neu roi gwybodaeth bersonol.
Osgowch dalu am nwyddau a gwasanaethau drwy drosglwyddiad banc gan nad yw hynny'n cynnig llawer o ddiogelwch os cewch eich twyllo. Yn lle hynny, defnyddiwch gerdyn credyd neu wasanaethau talu megis PayPal. Os ydych wedi gwneud taliad, rhowch wybod i'ch banc cyn gynted â phosibl, oherwydd gallant eich helpu i atal unrhyw golledion pellach. Monitrwch eich datganiadau banc yn rheolaidd rhag ofn bod unrhyw beth allan o'r cyffredin.
Os yw rhywun yn honni ei fod yn cynrychioli elusen, gofynnwch am brawf adnabod. Byddwch yn amheus os oes rhywun yn gofyn am dâl ymlaen llaw. Os bydd rhywun yn ceisio rhoi pwysau arnoch i dderbyn gwasanaeth, mae'n annhebygol o fod yn ddilys. Holwch farn eich teulu a'ch ffrindiau cyn derbyn cynigion o gymorth os ydych yn ansicr.
Sicrhewch eich bod yn cadw eich gwybodaeth ariannol yn ddiogel, yn enwedig rhag pobl nad ydych yn eu hadnabod. Peidiwch byth â rhoi eich cerdyn banc neu'ch rhif PIN i ddieithryn.
Os ydych ar-lein, byddwch yn ymwybodol o newyddion ffug a defnyddiwch ffynonellau dibynadwy fel gwefannau .gov.uk neu NHS.uk. Gwnewch yn siŵr eich bod yn teipio'r cyfeiriadau i mewn a pheidiwch â chlicio ar ddolenni mewn negeseuon e-bost.
Peidiwch byth â gosod unrhyw feddalwedd, neu ganiatáu mynediad o bell i'ch cyfrifiadur, o ganlyniad i alwad heb wahoddiad.

Mae'r sgamiau'n cynnwys:

 

  • Troseddwyr yn targedu pobl hŷn ar drothwy'r drws ac yn cynnig gwneud eu siopa neu gasglu meddyginiaeth drostynt. Mae'r lladron hyn yn cymryd yr arian ond nid ydynt yn dychwelyd.
  • Gwasanaethau glanhau ar drothwy'r drws sy'n cynnig glanhau tramwyfeydd a drysau i ladd bacteria a helpu i atal lledaeniad y feirws.
  • Yn Sir Gaerfyrddin, mae adroddiadau wedi dod i law'n ddiweddar o achosion lle mae galwyr heb wahoddiad wedi targedu pobl hŷn drwy gynnig gwneud gwaith garddio am dâl gormodol. Nid oes angen cael unrhyw waith diangen, megis gwelliannau i'r cartref neu arddio, wedi ei wneud ar yr adeg hon.
  • Fel arfer, rhai ffug yw'r negeseuon e-bost sy'n honni eich bod yn gallu cael ad-daliad ar drethi, cyfleustodau neu bethau tebyg, a'r unig nod yw cael gafael ar eich manylion personol a banc.
  • Sgamiau e-bost yn twyllo pobl i agor atodiadau maleisus, sy'n golygu bod perygl y caiff pobl eu hunaniaeth wedi'i dwyn drwy gyrchu gwybodaeth bersonol, cyfrineiriau, manylion cyswllt a manylion banc. Mae rhai o'r negeseuon e-bost hyn wedi llwyddo i gael pobl i glicio ar atodiadau trwy gynnig gwybodaeth am bobl yn yr ardal leol y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnynt.
  • Adnoddau ffug ar-lein – megis mapiau Coronafeirws ffug – sy'n cyflwyno maleiswedd fel AZORult Trojan, sef rhaglen dwyn gwybodaeth sy'n gallu cyrchu amrywiaeth o ddata sensitif. Enghraifft amlwg lle mae maleiswedd wedi ei ddefnyddio yw 'corona-virus-map[dot]com'.
  • Cwmnïau yn cynnig ad-daliadau gwyliau ffug i unigolion sydd wedi cael eu gorfodi i ganslo eu tripiau. Dylai pobl sy'n ceisio ad-daliadau hefyd fod yn wyliadwrus o wefannau ffug a sefydlwyd i hawlio ad-daliadau gwyliau.
  • Nwyddau ffug fel diheintwyr, masgiau wyneb a phecynnau swabio coronafeirws sy'n cael eu gwerthu ar-lein ac o ddrws i ddrws. Yn aml mae'r nwyddau hyn yn beryglus ac yn anniogel. Mae adroddiadau wedi dod i law fod rhai o'r diheintwyr y ceisir eu gwerthu yn niweidiol o bosibl, am eu bod yn cynnwys glutaraldehyde, y cafodd defnydd dynol ohono ei wahardd yn 2014.
  • Mae rhai busnesau wedi ceisio elwa ar y sefyllfa bresennol trwy gynyddu prisiau nwyddau a gwasanaethau penodol. Efallai fod prisiau'n uwch mewn siopau gan fod cyflenwyr yn codi pris uwch ar fanwerthwyr. Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn monitro'r sefyllfa'n ofalus ac yn cymryd camau lle y bo'n briodol.

Mwy o wybodaeth / riportio busnes

  • Wrth i fwy o bobl hunanynysu gartref, mae risg gynyddol y bydd sgamiau dros y ffôn yn cynyddu hefyd, gan gynnwys troseddwyr yn honni mai nhw yw eich banc, benthyciwr morgais neu gwmni cyfleustodau. Ni fydd eich banc byth yn gofyn am eich manylion banc dros y ffôn.
  • Byddwch yn wyliadwrus rhag negeseuon e-bost a thestun sy'n cynnig bargeinion da iawn, a pheidiwch byth ag ymateb i negeseuon sy'n gofyn am eich manylion personol neu ariannol.
  • Apiau newydd ar ffonau symudol sy'n honni y byddant yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi am y feirws ond yn hytrach, maent yn cloi eich ffôn ac yn gofyn i chi dalu arian.
  • Neges destun sy'n sgam sy'n dweud wrth bobl eu bod yn cael eu dirwyo am eu bod wedi gadael y tŷ 'mwy nag unwaith'. Mae'r neges yn honni ei bod wedi'i hanfon gan GOV.UK ac yn honni bod y ddirwy oherwydd 'ymddygiad anghyfrifol' gan fynd ymlaen i ddweud y gallai'r tâl gynyddu i £5,000 a/neu arestiad.

 

  • Mae adroddiadau wedi dod i law am ladron yn mynd ag arian pobl drwy hawlio eu bod yn casglu rhoddion i godi arian i ganfod 'brechlyn' COVID-19.
  • Mae disgwyl y bydd benthycwyr arian didrwydded yn manteisio ar galedi ariannol pobl, gan roi benthyg arian iddynt cyn codi cyfraddau llog a ffioedd afresymol drwy fygythiadau a thrais. Siaradwch â ffrind y gellir ymddiried ynddo neu aelodau o'r teulu yn gyntaf os ydych yn defnyddio cwmni benthyciadau nad ydych yn gyfarwydd ag ef, neu os yw'r benthyciwr angen ffi ymlaen llaw. Defnyddiwch gofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i weld a yw'r cwmni'n cael ei reoleiddio gan yr awdurdod hwn.