Ymgollwch yn yr ysbryd Celtaidd mewn ymgyrch twristiaeth new

22 diwrnod yn ôl

Ni ellir torri'r cwlwm sydd rhwng Cymru ac Iwerddon; fe'i ffurfiwyd drwy dreftadaeth gyffredin o groesau hynafol, cerrig cysegredig, a hyd yn oed Sant Padrig (yn ôl y goel), a'r mythau, y chwedlau a'r tirweddau garw ond godidog hyn sydd wrth wraidd prosiect twristiaeth newydd gan y ddwy wlad.

Casgliad yw Llwybrau Celtaidd o brofiadau twristiaeth â brand, sy'n annog teithwyr i ymweld ag Iwerddon a Chymru i ddarganfod yr ysbryd Celtaidd drwy awgrymu profiadau gwirioneddol Geltaidd yng Ngorllewin Cymru a De Ddwyrain Iwerddon.

Daw'r prosiect £1.7/€1.99 miliwn â chwe phartner o'r naill ochr a'r llall i Fôr Iwerddon at ei gilydd am y tro cyntaf – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Wicklow, Wexford, a Waterford.

Cafodd y prosiect ei lunio i hyrwyddo'r asedau naturiol, diwylliannol a threftadol sydd gan y siroedd hyn yn gyffredin, er mwyn cynyddu niferoedd yr ymwelwyr a manteisio i'r eithaf ar eu heconomïau twristiaeth.

Er bod pob sir yn gyrchfan twristiaeth llwyddiannus eisoes, mae'r bartneriaeth yn annog ymwelwyr hen a newydd i grwydro'n llawer ehangach, ymhell o'r prif ffyrdd a'r atyniadau twristiaeth mwyaf adnabyddus.

Mae'r prosiect, a gafodd ei lansio yr wythnos hon yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin, wedi cael £1.37/€1.59 miliwn o arian Ewropeaidd yn sgil Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru. 

Roedd cynrychiolwyr busnesau a sefydliadau twristiaeth o bob rhan o Orllewin Cymru ymhlith y cyntaf i ddarganfod eu 'Llwybrau Celtaidd' yn ystod y digwyddiad lansio, dan arweiniad y Cyng. Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

"Mae'r cysylltiadau rhwng y Cymry a'r Gwyddelod yn ganrifoedd oed, o'r cysylltiadau rhwng ein seintiau hynafol i'r hanesion, mythau a chwedlau sydd gennym ni'n gyffredin," meddai. "Yn wir, daw'r ysbrydoliaeth ar gyfer brand Llwybrau Celtaidd o ddyddiau ein cyndeidiau Celtaidd, yr oedd tair elfen yn greiddiol i'w byd sef y tir, y môr, a'r awyr, a dyna yw ethos yr holl ymgyrch."

Bellach mae ymgyrch farchnata uchelgeisiol ar y gweill sy'n targedu ymwelwyr posibl o'r DU, Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen ac UDA.

Bydd pecyn cymorth ar gael i fusnesau a chyrchfannau a fydd yn rhoi arweiniad a syniadau am sut y gallant greu eu profiadau Celtaidd eu hunain a chyfrannu at lwyddiant y prosiect. Hefyd bydd grŵp o fusnesau o Gymru yn mynd draw dros y don i Iwerddon cyn bo hir ar deithiau dysgu, er mwyn dysgu a rhannu arfer gorau gyda'u cymheiriaid Gwyddelig.