Cyngor Sir Caerfyrddin yn datgan argyfwng hinsawdd

88 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datgan 'argyfwng hinsawdd’.

Ddoe, (20 Chwefror, 2019) rhoddodd y Cyngor llawn gymeradwyaeth unfrydol i gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yn galw ar y Cyngor i gymryd safiad ar newid hinsawdd.

Rhoddodd y Cyngor hefyd ei gefnogaeth lawn i Coral Sylvan, 11 mlwydd oed a arweiniodd grŵp o ymgyrchwyr newid hinsawdd a ddaeth i lenwi'r oriel gyhoeddus yn y Siambr, safodd Coral o flaen y Siambr i ofyn i'r cynghorwyr am yr hyn fyddent yn ei wneud i ddiogelu ei dyfodol.

Mewn ymateb, cytunodd y Cyngor i ddatgan argyfwng hinsawdd. Ymrwymodd y Cyngor hefyd i ddod yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030, ac i ddatblygu cynllun clir yn ystod y flwyddyn nesaf.

Bydd yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau i alluogi gostwng carbon yn effeithiol, a gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfleoedd i sicrhau arbedion carbon.

Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Owen, “Mae cydsyniad byd-eang bod newid yn yr hinsawdd yn peri risg sylweddol i'n hiechyd, ein heconomi, ein hamgylchedd ac yn peryglu llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Dengys tystiolaeth wyddonol yn glir nad oes gennym fwy na 12 mlynedd i atal trychineb hinsawdd, a hyd yn oed yn lleol yma yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn wynebu heriau sylweddol sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Mae dinasoedd, Awdurdodau Lleol a chymunedau ledled Cymru a'r DU yn teimlo'n rhwystredig gyda llywodraethau sy'n amharod i gymryd y camau brys sydd eu hangen er mwyn ymdrin â'r materion hyn.

“Mae dyfodol dynoliaeth yn dibynnu ar arweinwyr mentrus a dewr heddiw i wneud y penderfyniadau angenrheidiol er mwyn diogelu'r amgylchedd, ein dyfodol a'r cenedlaethau sydd i ddod.”

Roedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole, yn gwbl gefnogol i'r cynnig.

“Mae tystiolaeth wyddonol yn rhoi'r darlun yn glir - mae newid hinsawdd yn digwydd," meddai. “Yn Sir Gaerfyrddin, mae angen i ni benderfynu pa addasiadau y mae angen i ni eu gwneud i ymateb i'r her o newid hinsawdd.

“Mae'n rhaid i ni ddod i delerau gyda'r ffaith y bydd llifogydd difrifol yn debyg i'r rhai y gwelsom ym mis Hydref yn digwydd yn fwy aml ond mae hefyd angen i ni benderfynu sut i ymdopi â hyn.  Mae cymunedau ledled y sir sy'n fwy tebygol o ddioddef llifogydd oherwydd llawn uchel neu afonydd yn gorlifo. Mae angen i'r rhain gael eu nodi ac mae angen i ni gyd wybod y ffordd orau i ofalu am lesiant y bobl sy'n byw yno. 

“Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd llawer o dystiolaeth yn cael ei chasglu gan unigolion a sefydliadau er mwyn i ni baratoi yn well ar gyfer y newidiadau yn yr hinsawdd yn y blynyddoedd i ddod.”

Rhestrodd y Cynghorydd Dole nifer o newidiadau y mae'r Cyngor eisoes wedi’u cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn ymdrech i gefnogi cynaliadwyedd.

Chwe mis yn ôl, roedd y cyngor wedi rhoi addewid i leihau deunyddiau plastig untro yn adeiladau a swyddfeydd y cyngor a gwahardd gwellt a chwpanau plastig.

Sir Gaerfyrddin oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno ceir adrannol trydan tua saith mlynedd yn ôl, ac yn ddiweddar mae wedi sicrhau cyllid ar gyfer gwefrwyr yn dilyn cynnydd yn nifer y ceir trydan sy'n cael eu gwerthu. 

Mae gan y Cyngor bolisi o integreiddio technolegau carbon isel a di-garbon yn rhan o brosiectau adeiladu mawr megis ysgolion, lle mae gosodiadau ffotofoltäig a safonau Passivhaus eisoes yn cael eu defnyddio.

Mae fflyd y Cyngor o loriau sbwriel yn un o'r fflydoedd sydd fwyaf cydnaws â'r amgylchedd yng Nghymru o ran allyriadau; mae goleuadau stryd wedi cael eu newid yn unedau LED; a chafwyd buddsoddiad sylweddol o ran Llwybrau Diogel yn y Gymuned a Llwybrau Diogel i Ysgolion i annog mwy o deithio cynaliadwy.

Wrth gefnogi'r cynnig, dywedodd y Cynghorydd Jeff Edmunds: “Mae'n debyg mai hwn yw'r peth pwysicaf yr ydym wedi'i drafod - mae hwn yn realiti sy'n mynd i effeithio arnom i gyd.”

A galwodd y Cynghorydd John James ar gynghorau i ddylanwadu ar lywodraethau gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i symud pethau ymlaen.